91热爆

Ann Griffiths

top
Cofeb i Ann Griffiths

Hanes Ann Griffiths, emynyddes Fethodistaidd a gaiff ei hadnabod fel y ddynes bwysicaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg cyn yr 20fed ganrif.

Lodes Dolwar Fach

Roedd Ann Griffiths yn byw yng nghyfnod y Diwygiad yng Nghymru, a chaiff ei chofio am ei hemynau a'i llythyrau. Mae'r emynau Cymraeg yma yn cyfleu ei phrofiad dwys hi o gred y Methodistiaid, ac maent wedi dod yn rhan bwysig iawn o wasanaethau crefyddol yng Nghymru.

Ganwyd Ann yn ffermdy Dolwar Fach ym mhentref bach gwledig Llanfihangel-yng-Ngwynfa, ger Llanfyllin ym Mhowys yn 1776. Bu farw ei mam pan oedd Ann yn 17 oed, a hi felly oedd yn gyfrifol am gynnal y t欧 wedi hynny.

Cyn i Ann Griffiths gael tr枚edigaeth, roedd hi'n ymwelydd cyson 芒 Thafarn Efail Llwydiarth rhwng Llangadfan a Llanfyllin - man poblogaidd ar gyfer noson o ganu, stor茂a neu ddawnsio.

Er iddi gael ei magu yn yr Eglwys Anglicanaidd, dilynodd ei brawd i'r symudiad Methodistaidd ar 么l clywed pregeth y Parchedig Benjamin Jones yn Llanfyllin ym 1796.

Erbyn 1798, roedd Dolwar Fach yn un o'r prif ganolfannau pregethau Methodistaidd, a chafodd ei wneud yn fan addoli swyddogol ym 1803.

Bu farw tad Ann yn Chwefror 1804 ac yn Hydref y flwyddyn honno priododd 芒 Thomas Griffiths, ffarmwr o blwyf Meifod, a hynafwr gyda'r Methodistiaid.

Rhoddodd enedigaeth i'w hunig ferch ym Mehefin 1805, ond bu farw'r baban bythefnos yn ddiweddarach. Bu farw Ann ei hun yn fuan wedyn, cafodd ei chladdu ar Awst 12 1805 ym Llanfihangel-yng-Ngwynfa, pan oedd yn 29 oed.

Yr Etifeddiaeth

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd. Wrthddrych teilwng o fy mryd; Er o'r braidd 'rwy'n Ei adnabod. Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd...

Ann Griffiths

Mae 70 emyn ac wyth llythyr wedi goroesi o'i heiddo, oll yn dangos ei gweledigaeth a'i hymwybyddiaeth o brofiad ysbrydol pobl.

O'r wyth llythyr sydd wedi goroesi, mae saith ohonynt wedi eu cyfeirio at John Hughes, o Bontrobert - pregethwr blaenllaw gyda'r Methodistiaid rhwng 1800 a 1804.

Yr wythfed llythyr, sydd hefyd o'r un cyfnod, yw'r unig lythyr a ysgrifenwyd gan Ann ei hun. Cafodd hwn ei ysgrifennu at Elizabeth - chwaer Ruth Evans, morwyn yn Nolwar Fach a briododd John Hughes yn ddiweddarach. Mae'r llythyr hwn ar ddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Ym 1802 dechreuodd Ann Griffiths ysgrifennu emynau a barddoniaeth. Byddai'n adrodd ei thraethodau i'w morwyn, Ruth Evans wrth gerdded o Dolwar Fach i wasanaethau crefyddol yn y Bala. Ychydig iawn o emynau ysgrifennodd ar bapur - dim ond un emyn sydd wedi goroesi yn ei llaw ysgrifen.

Pwer y gair

Dolwar Fach
Dolwar Fach

Mae'n debyg nad oedd Ann wedi bwriadu i'r emynau gael eu canu mewn gwasanaethau fel emynau cynulleidfaol. Er hynny, caiff Ann ei chydnabod fel yr unig emynydd Cymraeg arall a fedrai fod mor bwerus a dwys 芒 William Williams Pantycelyn. Caiff yr emynau hyn eu hadnabod fel rhai o'i rhai gorau:"Dyma babell y cyfarfod ..." "O! Am gael ffydd i edrych ..." a "Wele'n sefyll fel y myrtwydd ..."

Yr Ysgrythur oedd prif ddylanwad Ann, mae ei gwaith yn llawn cyfeiriadaeth ato. Yn dilyn ei marwolaeth ym 1805, adroddodd Ruth yr emynau i'w g诺r a'i hysgrifennodd i lawr ar bapur. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe'u cyhoeddwyd (o gof Ruth) fel 'Casgliad o Emynau' gan y Parchedig Thomas Charles.

Dewisodd y Dr Rowan Williams un o emynau Ann Griffiths - "Yr Arglwydd Iesu" i gael ei chanu yn y seremoni pan gafodd ei orseddu yn Archesgob Caergaint yn Chwefror 2003. Cyfieithodd yr emyn ei hun a credir mai dyna'r tro cyntaf i waith yr archesgob ei hun fod yn rhan o'r seremoni.

Perfformiodd Cwmni Theatr Maldwyn ddrama gerdd am hanes bywyd Ann Griffiths yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003. Bu'r sioe ar daith ddechrau Ionawr 2004 - a dyma'r sioe olaf i'r cwmni theatr ei pherfformio.

Roedd Ann yn ffigwr unigryw yn ein hanes, yn cyfuno nwyd a chariad thanbaid yn ei hysgrifennu gyda chred grefyddol gref. Mae ei geiriau yn dal i gyfareddu llawer o Gristnogion Cymreig heddiw.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.