Cofio Trychineb Senghenydd 1913
topYng nglofa'r Universal ym mhentref Senghenydd yn 1913 y digwyddodd y drychineb fwyaf yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru.
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Ar fore Mawrth, Hydref 14 y flwyddyn honno cafwyd ffrwydriad difrifol yn y pwll glo a lladdwyd 439 o weithwyr, yn ddynion a bechgyn.
Roedd tanchwa arall eisoes wedi lladd 83 o lowyr yno yn 1901 ond er bod y peryglon ym mhwll yr Universal yn hysbys ers hynny, ni chafodd dim ei wneud i wella'r amodau gweithio.
Roedd y pentref yng Nghaerffili wedi tyfu o gwmpas y pwll a gadawodd y danchwa graith enfawr ar y gymuned: gadawyd 205 o wragedd heb w欧r, 62 o rieni heb feibion a thros 500 o blant heb dad.
Cafodd rheolwr y pwll eu gorchmyn i dalu dirwy o 拢24 a chafodd y perchenog, ar 么l ap锚l, ddirwy o 拢10 a chostau o 拢5 5s.
Un o'r rhai a gollodd berthynas yn y danchwa oedd Dafydd Parry sydd yn y clip uchod - bu'n dweud yr hanes wrth Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru adeg nodi 90 mlwyddiant y drychineb.
Parhawyd i weithio'r pwll tan 1928. Codwyd cofeb i'r rhai a gollwyd tan 1981.