91热爆

Blwyddyn Newydd yn Tseina

top
Y Ddraig o Tseina

Gall y Flwyddyn Newydd Tseineaidd ddigwydd ar unrhyw adeg rhwng diwedd mis Ionawr a chanol Chwefror, yn dibynnu ar gylchdro'r lleuad. Y lleuad sy'n arglwyddiaethu ar y dathliadau yn Tseina sy'n chwyrligwgan o ddreigiau amryliw a llusernau hudol.

Dathlu bywyd newydd

Mae'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, neu 糯yl y Gwanwyn, yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y wlad. Dyma ddathlu bywyd newydd a thymor o hau ac aredig.

Mae'r dathliadau'n dechrau ar ddiwrnod lleuad cyntaf y mis ac yn parhau tan y 15fed diwrnod, pan mae'r lleuad ar ei llawnaf. Mae'r wythnos gyntaf yn cael ei dathlu gydag ymweliadau at ffrindiau a theulu gyda thraddodiadau arbennig i ennyn lwc dda. Mae'r ail wythnos yn dod i ben gyda G诺yl y Llusern sy'n digwydd ar y 15fed diwrnod o fis y lleuad.

Mae dyddiad y dathliadau yn amrywio'n flynyddol yn dibynnu ar y lleuad. Dilyna pobl Tseina eu calendr eu hunain sydd wedi ei seilio ar y lleuad.

Denu lwc dda

Gung hei fat choi!

Blwyddyn Newydd Dda!

Dyma'r 糯yl hynaf yn Tseina ac mae iddi nifer o ddefodau a thraddodiadau. Cyn dechrau'r dathliadau, mae pobl Tseina yn clanhau eu cartrefi er mwyn gwaredu unrhyw lwc drwg. Ar Nos Galan, mae'r holl geriach clanhau yn cael eu rhoi i gadw i sicrhau na fydd y lwc dda yn cael ei lanhau o'r cartref. Addurnwyd y tai gydag addurniadau papur gyda negeseuon lwc dda arnynt fel 'Hapusrwydd' a 'Chyfoeth'.

Ar Nos Galan, mae'r teuluoedd yn dod at ei gilydd ac yn bwyta pryd mawr traddodiadol. Mae yna fathau amrywiol o fwyd yn cael eu paratoi yn dibynnu ar ranbarthau'r wlad. Yn y Gogledd, mae pobl yn bwyta djiaozi - twmplen wedi ei stemio ac yn y De -nian gao sy'n rysait boblogaidd sef pwdin reis melys.

Yna, wedi bwyta llond bol, mae'n rhaid aros tan hanner nos cyn cael y sioe t芒n gwyllt sy'n ddefod bwysig. Cred y bobl bod y rocedi a'r cyffro'n codi braw ar yr ysbrydion drwg ac yn eu hel i ffwrdd. Mae'r lliw coch yn cynrychioli t芒n, felly mae pobl yn gwisgo mewn dillad coch o'u pennau i'w traed ar yr achlysur hwn.

Hud y Llusern

Addurniadau'r Flwyddyn Newydd

Ar Ddydd Calan, mae'r plant yn deffro i ddarganfod amlen goch wedi'i llenwi gydag arian a danteithion o dan eu gobennydd, wedi eu gadael yno gan eu rhieni.

Daw'r dathlu i ben gyda G诺yl y Llusern ar y 15fed dydd o fis y lleuad. Mae'r llusernau yma wedi eu paentio gyda llaw fel arfer gyda golygfeydd hyfryd o hanes neu chwedl arnynt. Mae'r bobl yn hongian y llusernau ar eu ffenestri ac yn eu cario dan olau'r lleuad. Mae dawns y ddraig yn cael ei pherfformio gyda'r ddraig fawr o bapur, sidan a bambw yn cael ei dal gan ddynion ifanc sy'n ei harwain drwy'r strydoedd i gasglu arian. Gellid dadlau nad yw'r ddraig yn anhebyg i'r Fari Lwyd Cymreig.

Mewn rhai gwledydd, yn arbennig Prydain, mae'r dathliadau'n fyrach, ac mae G诺yl y Llusern yn digwydd ar y Dydd Calan Tsieineaidd ei hun. Mae'r olygfa liwgar o'r ddraig yn dawnsio a'r llusernau gogoneddus yn wledd i'r lygad.

Dyma drefn blynyddoedd Tsieineaidd-gyda phob blwyddyn yn cynyrchioli anifail arbennig sy'n ran o'r sidydd (zodiac) Tsieineaidd:

Blwyddyn y Lygoden Ffyrnig:- Chwefror 19, 1996 | Chwefror 7, 2008

Yr Ychen-Chwefror 7 1997| Ionawr 26, 2009

Y Teigr - Ionawr 28, 1998| Chwefror 14, 2010

Y Gwningen-Chwefror 16, 1999 | Chwefror 3, 2011

Y Ddraig - Chwefror 5, 2000 | Ionawr 23, 2012

Y Neidr - Ionawr 24 2001| Chwefror 10, 2013

Y Ceffyl -Chwefror 12 2002 | Ionawr 31, 2014

Yr Afr -Chwefror 1 2003 | Chwefror 19, 2015

Y Mwnci -Ionawr 22 2004 | Chwefror 8, 2016

Y Ceiliog -Chwefror 9 2005 | Ionawr 28, 2017

Y Ci -Ionawr 29 2006 | Chwefror 16, 2018

Y Mochyn -Chwefror 18, 2007 | Chwefror 5, 2019

Gung hei fat choi! Blwyddyn Newydd Dda!


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.