The Story of Wales
27 Chwefror 2012
Huw Edwards sy'n dod 芒 stori Cymru yn fyw, o Oes yr I芒 i'r Oes Wybodaeth - stori hudolus, gyffrous ac weithiau'n annisgwyl.
Mae'r gyfres yn dechrau nos Lun 27 Chwefror am 9pm ar 91热爆 One Wales.
Mae The Story of Wales yn llawn arwyr a buddugoliaethau, breuddwydion mawr ac ymdrechion enbyd. A hithau'n wlad y cyfarwydd a'r chwedlonydd, dyma stori'r genedl a'r bobl sydd wedi'i llunio.
Huw Edwards sy'n adrodd stori afaelgar ein cenedl wedi'i ffilmio mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad gan ail-greu digwyddiadau dramatig a defnyddio graffeg cyfrifiadurol trawiadol. Mae'n cychwyn trwy ail-greu'r seremoni gladdu gynharaf yng Ngorllewin Ewrop, "Dynes Goch" Pen y Fai.
Gwelwn Gymry wrth galon llys y Tuduriaid, a'r newid aruthrol a fu yn y wlad wrth i'r glofeydd a'r gweithfeydd copr a haearn ffynnu, sut y gwnaeth Cymru arloesi yn y Chwyldro Diwydiannol gyda datblygiadau addysgol a thechnolegol, hyd at hanes datganoli heddiw.
Er mwyn cael gwybod mwy am y gyfres a gwylio clipiau ewch i neu ein tudalen Facebook
Defnyddiwch #storyofwales ar Twitter.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Rhun ap Iorwerth yn bwrw golwg ffres ar hanes Cymru mewn cyfres newydd.