Cryfder Anghydffurfiaeth
Sicrhaodd adfywiad yr Anglicaniaid bod yr Eglwys Wladol ar ddechrau'r ugeinfed ganrif mewn safle cryfach mewn perthynas ag Anghydffurfiaeth nag y buasai yn 1851. Serch hynny, roedd oruchafiaeth yr Anghydffurfwyr yn amlwg. Er nad oeddent yn cynrychioli mwyafrif poblogaeth Cymru, roedd eu gwerthoedd o'r pwys mwyaf, a datblygodd y diwylliant Anghydffurfiol i fod yn gyfystyr â'r diwylliant Cymreig. Yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, agorwyd capel newydd yng Nghymru bob wyth niwrnod, a hynny cyn cyfnod codi'r capeli mawrion yn yr ardaloedd diwydiannol.
Roedd y rhan fwyaf o bapurau a chyfnodolion Cymreig yn gysylltiedig â rhyw enwad neu'i gilydd, ac roedd gweinidogion amlwg yn arwyr ymhlith y werin. Cododd mudiad dirwest dylanwadol o wrthwynebiad yr Anghydffurfwyr i'r ddiod gadarn; arweiniodd yn 1881 at y Ddeddf Cau'r Tafarndai ar y Sul yng Nghymru. Nodwedd o Anghydffurfiaeth y cyfnod oedd diwygiadau. Bu diwygiad grymus yn 1859 ac un mwy rhyfeddol fyth yn 1904-05.
Arwyddocâd gwleidyddol Anghydffurfiaeth
Gan fod llawer mwy o gapelwyr nag ydoedd o eglwyswyr, daeth yr holl syniad o'r Sefydliad dan y llach. Digwyddodd hyn yn Lloegr hefyd, ond gan fod Anghydffurfiaeth gymaint yn gryfach yng Nghymru datblygodd datgysylltu i fod yn achos cenedlaethol Cymreig.
Gwrthododd y Ceidwadwyr, amddiffynwyr traddodiadol Eglwys Loegr, â derbyn y gallai Cymru lwyddo ar ei phen ei hun ar fater mor sensitif, a daethpwyd i'w gweld fel plaid wrth-Gymreig - datblygiad a fyddai'n eu rhoi dan anfantais yng Nghymru am ganrif a rhagor. Daeth y Blaid Ryddfrydol, a oedd wedi etifeddu amheuon y Chwigiaid ynglŷn â'r berthynas rhwng yr orsedd a'r allor, yn ddewis naturiol i etholwr Anghydffurfiol Cymreig.
O ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, collodd yr Anglicaniaid ddylanwad. Daeth diwedd ar y Dreth Eglwysig yn 1870 ac ad-drefnwyd y degwm yn y 1880au. Yn raddol, collodd y Sefydliad ei safle dylanwadol ym myd addysg a daeth rheolaeth y sgweieriaid Anglicanaidd dros lywodraeth leol i ben gyda sefydlu cynghorau sir etholedig yn 1889.
Yn 1920, ar ôl llawer i helynt, datgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Crëwyd talaith Gymreig o fewn y cymundeb Anglicanaidd, gyda'i archesgob ei hun, a chafodd yr hen waddolion eu secwlareiddio. Er bod yr Eglwys yng Nghymru wedi cadw'r eglwysi cadeiriol a'r eglwysi plwyf, roedd ei safle o fewn y gyfraith o hyn ymlaen yr un fath â safle'r enwadau eraill.
Y lleihad yn apêl crefydd
O ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen heriwyd daliadau traddodiadol Cristnogion gan ysgolheictod newydd. Tueddai dadansoddiadau o'r Beibl wanhau'r gred fod y Beibl yn llythrennol wir. Roedd darganfyddiadau ym maes daeareg a'r syniadau am esblygiad yn tanseilio'r gwirioneddau traddodiadol. Gan fod y capeli'n ganolbwynt y bywyd cymunedol, gallai capeli fod â mwy o ran yn adloniant y bobl nag yn eu bywyd ysbrydol. Gwnaeth yr ymgyrch dros ddatgysylltu pwysleisio pwysigrwydd maint aelodaeth yr enwadau, ac aeth nifer yr aelodau i ymddangos yn bwysicach na gwir deyrngarwch. Roedd nifer aelodau'r capeli ar ei uchaf yn 1907 pan roedd yng Nghymru 750,000 o gymunwyr a llu o 'wrandawyr' achlysurol.
Wedi hynny, gostwng yn gyson a wnaeth y rhif. Cyfrannodd nifer o ffactorau at y gostyngiad - sinigiaeth wrth weld clerigwyr yn recriwtio adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, y chwalfa yn y cymunedau traddodiadol, y cynnydd mewn diddordebau hamdden newydd, a'r cynnydd mewn ymbleseru a threulyddiaeth. Erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain dim ond un o bob deg o drigolion Cymru oedd yn mynychu lle o addoliad yn gyson, sefyllfa wahanol iawn i'r un ganrif ynghynt pan oedd pobl Cymru yn cael eu clodfori am eu duwioldeb.