Diwylliant llenyddol
Rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, roedd newidiadau cymdeithasol a chrefyddol, dyfodiad y wasg argraffu a'r Dadeni yn trawsnewid diwylliant llenyddol traddodiadol Cymru. Wrth i'r tirfeddianwyr mwyaf ymseisnigo fwyfwy, wrth i'r mân sgweieriaid golli cyfoeth ac wrth i ddiddordebau diwylliannol newid, crebachodd byd y beirdd. Tan o leiaf flynyddoedd cynnar yr ail ganrif ar bymtheg, ysgrifennwyd llu o gerddi yn y mesurau caeth, er i'r llywodraeth geisio ffrwyno'r clerwyr llai parchus. Ond roedd y beirdd yn drwgdybio'r gair printiedig a gwerthoedd y Dadeni, arwydd o'r meddylfryd caeedig a fyddai arwain at dranc eu traddodiad.
Ymhlith dyneiddwyr Cymreig y Dadeni roedd awydd i ddiogelu purdeb a chyfoeth y Gymraeg, a rhoi iddi'r parch a ddangosid i ieithoedd y byd clasurol. Aethant ati i greu geiriaduron a llyfrau gramadeg, i ddadlau o blaid honiad Sieffre o Fynwy bod gan y Cymry dras lawn mor urddasol â thras y Rhufeiniaid, ac i ysgrifennu am hanes eu gwlad a'u siroedd. Yn bennaf oll, sicrhawyd bod y Gymraeg yn iaith addoliad. Gellir priodoli hynny'n gymaint i falchder diwylliannol ag i sêl grefyddol. Hefyd, chwedl yr hanesydd R. T. Jenkins, 'mynnai'r bobl ryw fath o lenyddiaeth', ac roedd rhai'n fwy na pharod i'w bodloni trwy gynhyrchu almanaciau, baledi, anterliwtiau, caneuon, carolau ac emynau. Wrth i'r hen draddodiad llenyddol edwino, arweiniodd yr awydd i ddiogelu'r dystiolaeth ohono at lawer o gasglu a chopïo llawysgrifau. Erbyn y ddeunawfed ganrif, cafwyd ymdrechion i adfer yr hen fesurau, yn enwedig felly gan y bardd o Ynys Môn, Goronwy Owen.
Y celfyddydau eraill ac ysgolheictod
Daeth pensaernïaeth y Dadeni i Gymru yn y 1570au gyda'r adeiladau a godwyd yn Sir Ddinbych gan y marsiandwr, Richard Clough, yntau â chysylltiad agos â dinasoedd cyfoethog yr Iseldiroedd. Er hynny, perthyn i'r traddodiad is-ganoloesol yr oedd trwch yr adeiladau a godwyd. Yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg ac yn y ddeunawfed ganrif, adeiladwyd nifer o dai crand yng Nghymru a harddwyd trefi megis Aberhonddu a Threfaldwyn gan ffasadau tai oedd wedi eu haddurno'n gain. Cefnwyd ar gerddi ffurfiol, fel honno yn Aberglasne, a ffafriwyd tirlunio mwy naturiol trwy blannu coed a chreu llynnoedd. Ni chyflawnwyd ryw lawer yng Nghymru ym meysydd arlunio a cherflunio, er i rai o'r tirfeddianwyr mwyaf diwylliedig ddod yn gasglwyr o fri. Doedd dim cymaint o fynd ar gerddoriaeth draddodiadol ond parhaodd y diddordeb mewn canu â chanu'r delyn, a gellir canfod egin y diddordeb mewn cerddoriaeth gorawl.
Ysgolhaig mwyaf Cymru'r cyfnod modern cynnar oedd Edward Lhuyd. Sefydlodd y cysylltiad rhwng yr ieithoedd Celtaidd a chynigiodd ddamcaniaethau ystyriol ynglŷn ag arwyddocâd hynafiaethau, botaneg a daeareg Cymru. Hybu ysgolheictod Cymreig oedd un o amcanion Cymdeithas y Cymmrodorion a sefydlwyd gan Gymry Llundain yn 1751.