Tynged y teuluoedd brenhinol Cymreig
Cafodd Gwenllian, merch Llywelyn, ei hanfon i leiandy; felly hefyd Gwladys, merch Dafydd. Treuliodd meibion Dafydd weddill eu dyddiau yn garcharorion. Dim ond un o frodyr Llywelyn, Rhodri, a oroesodd yr helbul, a dewisodd ef fyw yn dawel yn Surrey. Goroesodd gweddillion teulu brenhinol Deheubarth fel m芒n dirfeddianwyr. Dyna'n ogystal fu hanes aelodau o hen deuluoedd llywodraethol Morgannwg a Phowys Fadog.
Cadarnhau'r goresgyniad
Ar 么l rhyfel 1277, sicrhaodd Edward fod pedwar castell sylweddol yn cael eu codi. Erbyn 1283, roedd ganddo gynlluniau mwy uchelgeisiol. Caernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares oedd yr amddiffynfeydd mwyaf gogoneddus i'w codi yn unman yn Ewrop y drydedd ganrif ar ddeg. Maent yn deyrnged i sgiliau gweinyddol Edward ac i ddawn ei bensaer Iago o San Si么r. Maent hefyd yn arwydd o faintioli'r dasg o dorri gafael y Cymry ar eu gorffennol. Yn gysylltiedig 芒 phob castell, sefydlwyd bwrdeistref, rhai ohonynt - Conwy a Chaernarfon, yn arbennig - wedi'u hamgylchynu 芒 muriau gwych. Estron oedd y rheolaeth dros fasnachu yn y diriogaeth o gwmpas y bwrdeistrefi, sail tensiwn sylweddol.
Gwneud y gorau o'r sefyllfa
Bu anghydfod sylweddol yng Nghymru yn y ganrif wedi 1282. Fe'i gwelir yn llenyddiaeth y cyfnod, yn enwedig yn y canu brud, sy'n proffwydo am ddyfodiad gwaredwr. Cafodd fynegiant yng ngwrthryfeloedd Rhys ap Maredudd (1287), Madog ap Llywelyn (1294) a Llywelyn Bren (1316). Roedd anniddigrwydd eang yn y 1340au ac eto yn y 1370au pan fu Owain Lawgoch, 诺yr i Rodri, brawd Llywelyn, yn ceisio cymorth y Ffrancod i adennill ei hawliau etifeddol yng Nghymru. Eto i gyd, roedd y Cymry'n ymwybodol bod rhaid iddynt wneud y gorau o'u byd fel ag yr ydoedd. 脗 hwythau 芒 phrofiad helaeth o ryfela, cawsant yrfaoedd yn gwasanaethu yn lluoedd brenin Lloegr, neu, fel yn achos Owain Lawgoch ac eraill, yn lluoedd brenin Ffrainc. Er mai aristocratiaid Eingl-Normanaidd oedd y prif swyddogion yng Nghymru, o rengoedd yr uchelwyr Cymreig y deuai llawer o'u dirprwyon, y rheini'n awyddus i fanteisio ar bob cyfle i ychwanegu at eu p诺er a'u cyfoeth. Plygu i'r drefn, felly, weithiau'n daeogaidd, weithiau'n surbwch, oedd prif nodwedd Cymry'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ond yna, ar ddechrau'r ganrif ddilynol, digwyddodd gwrthryfel hirhoedlog Owain Glynd诺r.