Dylanwad y Rhufeiniaid
Bu Cymru'n rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig am dros dri chan mlynedd. Yn y cyfnod hwnnw, daeth arferion Rhufeinig i fod yn dderbyniol mewn rhannau helaeth o'r wlad. Serch hynny, yn wahanol i'r rhan fwyaf o orllewin Ewrop, ni lwyddodd Lladin y Rhufeiniaid i ddisodli'r iaith frodorol. Ond ni fu Lladin heb ei dylanwad, oherwydd o'r iaith honno derbyniwyd i'r Frythoneg eiriau am bethau megis caer, ffenestr, ystafell a llyfr - geiriau a drosglwyddwyd i'r Gymraeg. Bu i gelfyddyd Rufeinig adael ei marc hefyd, gan iddi ddisodli celfyddyd Geltaidd y Brythoniaid. Ymhlith y dosbarth uchaf o leiaf, yr oedd parodrwydd i dderbyn mai Rhufeiniaid oeddynt, yn enwedig wedi i'r Ymerawdwr Caracalla ddatgan yn OC 214 bod pob dyn rhydd, ledled yr Ymerodraeth, yn ddinesydd Rhufeinig.
Faint o gysylltiad?
Eto i gyd, dros rannau helaeth o'r wlad, bychan oedd y dylanwad Rhufeinig. Dichon na fyddai trigolion pentrefi mynyddig megis Tre'r Ceiri ond yn dod i gysylltiad 芒'r Ymerodraeth ar eu hymweliadau prin 芒 vicus Segontium - y farchnad a'r setliadau sifil y tu allan i furiau caer Segontium (Caernarfon). Mewn mannau eraill, diau y bu cyfathrach fwy sylweddol. Mae'n si诺r i Frythoniaid weithio ym mwyngloddiau aur Dolau Cothi, yng ngwaith teils Holt ac yng ngwaith haearn Ariconium.
Dyfodiad Cristnogaeth
Roedd y byd naturiol i gyd yn gysegredig i'r Brythoniaid, ac, fel y Rhufeiniaid, roedd ganddynt lu o dduwiau. Gyda threigl y canrifoedd, bu tuedd i uniaethu duwiau'r Brythoniaid 芒 rhai'r Rhufeiniaid. Ond erbyn tua 300 OC, roedd crefydd newydd - Cristnogaeth - yn dechrau ennill addolwyr. Yn 313, caniatawyd i Gristnogion arfer eu crefydd ledled yr Ymerodraeth. Anodd yw darganfod i ba raddau y lledodd Cristnogaeth drwy Gymru yng nghyfnod rheolaeth y Rhufeiniaid. Roedd yna esgobion ym Mhrydain erbyn 313 - un efallai yng Nghaer-went - ond yn y cyfnod 么l-Rufeinig y gwreiddiodd Cristnogaeth o ddifrif yng Nghymru.
Uchelgais y cadfridogion
Mae rhesymau cymhleth dros gwymp yr Ymerodraeth. Nid y lleiaf ohonynt oedd uchelgais arweinwyr y fyddin i gipio'r orsedd. Yn 383, darfu i Facsen Wledig (Magnus Maximus) ymadael 芒 Phrydain gan fynd 芒 thrwch garsiwn y dalaith gydag ef i'w gynorthwyo i ymgodi'n ymerawdwr.
Cymru'n llithro o afael yr ymerodraeth
Llawn cyn bwysiced ag uchelgais y cadfridogion oedd her y bobl a drigai y tu draw i ffiniau'r Ymerodraeth. Yn 410, meddiannwyd Rhufain ei hun gan luoedd Gothig Alaric, a doedd gan yr ymerawdwr yr un dewis ond annog trigolion talaith Britannia i fynd ati i'w hamddiffyn eu hunain. Roedd hynny'n gryn orchwyl, gan fod y Pictiaid yn ymosod ar y dalaith o'r gogledd, y Gwyddelod o'r gorllewin a'r Sacsoniaid o'r dwyrain. Ni fu ymdrechion y Brythoniaid heb eu llwyddiannau. Ond yn y pen draw, bu tro ar fyd, a daeth cenhedloedd y Cymry, y Saeson a'r Albanwyr i fodolaeth.