Diweithdra'n cynyddu
Gwelwyd arwyddion gwae ganol y 1920au pan gododd diweithdra ymhlith y glowyr o 2% ym mis Ebrill 1924 i 12.5% ym mis Ionawr 1925 ac i 28.5 ym mis Awst. Maes glo de Cymru, a oedd yn dibynnu'n drymach ar allforio na meysydd glo eraill Prydain, ddioddefodd fwyaf.
Bu cwymp yn y galw am lo o dramor am nifer o resymau: roedd gwledydd eraill yn cynhyrchu mwy o lo, olew yn cael ei ddefnyddio fwyfwy yn ei le fel tanwydd, cyfradd cyfnewid y bunt yn uchel, yr Unol Daleithiau yn cipio marchnadoedd de America, dulliau cynhyrchu hen ffasiwn y diwydiant ym Mhrydain, a cholli'r farchnad Ewropeaidd wrth i'r Almaenwyr dalu iawndal mewn glo.
Ddiwedd y 1920au, gwaethygwyd problem diweithdra strwythurol y maes glo gan y diweithdra cylchynol a achoswyd gan gwymp Wall Street yn 1929. Erbyn Awst 1932, a diweithdra'n cyrraedd 42.8% ymhlith gwrywod yswiriedig Cymru, roedd Cymru yn un o wledydd mwyaf dirwasgedig y byd.
Er mai'r glowyr a ddioddefodd waetha, effeithiodd y dirwasgiad yn ddrwg hefyd ar y gweithwyr dur ac alcam, y chwarelwyr a'r gweithwyr cludiant. Roedd yn galed ar fyd amaeth hefyd, a llawer oedd 芒 gwaith llawn amser ar y tir yn ennill llai na'r rhai oedd yn derbyn budd-dal diweithdra.
Effaith y dirwasgiad
Rhoddodd y dirwasgiad derfyn ar y cynnydd diwydiannol a fu'n mynd ar garlam am ganrif a hanner. Ymfudodd pobl o Gymru wrth eu miloedd, a chollodd y wlad 390,000 o bobl rhwng 1925 a 1939. Nid tan 1973 yr ail-gyrhaeddodd nifer trigolion Cymru'r lefel y cyraeddasai yn 1925.
Prif ganlyniad y segurdod a orfodwyd ar y gweithwyr oedd ffataliaeth ac anobaith. Roedd byw ar enillion bychan yn effeithio ar iechyd y bobl ac ar gyflwr y stoc dai. Arweiniodd y prawf moddion -system o roi llai o fudd-dal diweithdra i deuluoedd oedd yn cael incwm o ffynhonnell arall - at wrthdystiadau enfawr, yn eu plith protest ar 3 Chwefror 1935 ar strydoedd Cymru gan hyd at 300,000 o bobl.
Rhoddodd methiant ymddangosiadol cyfalafiaeth hwb i achos y sosialwyr, ac yn arbennig i'r achos y comiwnyddion a oedd ar flaen y gad ym mhob protest. Profodd tlodi'r ardaloedd diwydiannol yn ergyd galed i ddiwylliant y capeli a'r iaith Gymraeg.
Arweiniodd ffrae yngl欧n 芒 chynorthwyo'r di-waith at gwymp Llywodraeth Lafur 1929-31, ac ym marn y Llywodraeth Genedlaethol a ffurfiwyd wedi hynny nid oedd dim i'w wneud ond aros i bethau wella. Fodd bynnag, yn 1937 dechreuodd y llywodraeth roi cymorth i gwmn茂au greu swyddi mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel, man cychwyn y polis茂au economaidd rhanbarthol hynny a fyddai mor fanteisiol i Gymru.
Ond er y swyddi newydd, yn enwedig yng ngwaith dur Glynebwy a stad ddiwydiannol Trefforest, 芒 chynifer o bobl ddi-waith yn cefnu ar Gymru ni fu fawr o welliant yn economi'r wlad. Yn y mis olaf cyn y rhyfel, Awst 1939, roedd 15.2% o wrywod yswiriedig Cymru yn ddi-waith.