Hunaniaeth genedlaethol yn cael ei chydnabod
Yr allwedd i allu'r Cymry i ennill cydnabyddiaeth i ffaith ddiymwad eu hunaniaeth oedd natur gynyddol ddemocrataidd y gymdeithas Gymreig.
Roedd y bonheddwyr Anglicanaidd, a fu mor ddylanwadol am ganrifoedd, yn gweld eu hunain yn yr un dosbarth 芒 gweddill gw欧r mawr Prydain. Er bod ganddynt rywfaint o gydymdeimlad tuag at Gymru, roeddent yn tueddu i glosio at ei gilydd pan fyddai eu tenantiaid yn eu herio, a phan fyddai Cymreictod yn amlygu ei hunan a hynny, gan amlaf, yng ngwisg Anghydffurfiaeth radical.
Hawliau'r Cymry fel Anghydffurfwyr sy'n cael eu pwysleisio gan Henry Richard, aelod seneddol Merthyr Tudful o 1868 i 1888. Roedd gan wleidyddion iau, megis Thomas Edward Ellis, aelod seneddol Meirionydd o 1886 i 1899, ddaliadau llai sectyddol. O dan ddylanwad y mudiad hunan lywodraeth yn Iwerddon gwnaeth Ellis ac eraill bwyso am fesur o hunan lywodraeth i Gymru, system addysg Gymreig, a deddfwriaeth i ryddhau tenantiaid Cymru o afael eu landlordiaid.
Roedd eraill am fynd ymhellach: galw am annibyniaeth lwyr i Gymru wnaeth Michael D Jones, a oedd wedi cefnogi'r ymgais i ffurfio Cymru newydd ym Mhatagonia yn y 1860au. Credai Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) bod sicrhau statws swyddogol llawn i'r Gymraeg yn allweddol i sicrhau urddas pobl Cymru.
Erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf roedd y gydnabyddiaeth o hunaniaeth Cymru yn fwy amlwg. Ym maes addysg a diwylliant y gwelwyd y newidiadau pennaf. Rhoddwyd rhywfaint o statws i'r Gymraeg yn yr ysgolion yn 1889. Yn sgil sefydlu Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn 1872, a cholegau Caerdydd a Bangor yn 1880au, ffurfiwyd Prifysgol Cymru yn 1893. Derbyniodd y Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa Genedlaethol siarteri brenhinol yn 1907. Daeth bri i ysgolheictod Cymreig, diolch i gyfrolau J E Lloyd ar hanes Cymru (1911) a gwaith John Morris-Jones ar yr iaith Gymraeg (1913).