Y newid yn natur cynrychiolaeth seneddol
Yn y 1850au roedd pob aelod seneddol yng Nghymru fwy neu lai yn perthyn i ddosbarth y meistri tir; erbyn 1906 roedd landlordiaid bron wedi diflannu o rengoedd aelodau seneddol Cymru. Digwyddodd y newid yma yn bennaf yn etholiadau 1868 ac 1885.
Yn y naill sicrhaodd Henry Richard fuddugoliaeth ddramatig ym Merthyr Tudful, ac fe gollodd nifer o landlordiaid eu seddau, teuluoedd megis teulu Douglas-Pennant o Gastell Penrhyn. Yn y llall trechwyd perchennog Wynnstay ac etifedd y Gelli Aur, y mwyaf a'r ail fwyaf o holl stadau Cymru.
Er bod rhai o'r teuluoedd oedd yn berchen tir yn cefnogi plaid y Chwigiaid, Tor茂aid oedd y mwyafrif. O ganlyniad i hynny, c芒i Cymru ei chynrychioli yn y senedd gan aelodau adain dde yn bennaf. Ond yn 1880, dim ond pedwar Ceidwadwr a gafodd ei ethol, a dim un yn 1906.
Goruchafiaeth y Rhyddfrydwyr
Y Blaid Ryddfrydol elwodd fwyaf o'r diwygiadau. Hon oedd y brif blaid wleidyddol yng Nghymru rhwng y 1860au a 1922. Llwyddodd i ddenu cefnogaeth o bob dosbarth a haen o gymdeithas yng Nghymru. Roedd diwydianwyr yn hoffi ei pholisi yngl欧n 芒 masnach rydd; cymeradwyai'r dosbarth proffesiynol y pwyslais ar hunangymorth, fel y gwn芒i'r dosbarth gweithiol ar y dechrau; hoffai tenantiaid ffermydd ei chefnogaeth i fesurau diwygio tir, a gwelai'r Anghydffurfwyr mai dyma'u gobaith gorau o weld datgysylltiad yr Eglwys.
I ganol llwyfan Rhyddfrydol ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y camodd David Lloyd George. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol ryfeddol pan gafodd ei ethol yn aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon yn 1890. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, mae'n ymddangos bod gwrthdaro rhwng yr hen ddaliadau Rhyddfrydol yngl欧n 芒'r farchnad rydd a llywodraeth gyfyngedig a'r galw am ddiwygio cymdeithasol. Ond llwyddodd Lloyd George, drwy gyflwyno cynlluniau pensiwn i'r henoed, yswiriant cenedlaethol a chyfyngu ar bwerau T欧'r Arglwyddi, sicrhau bod gan ei blaid ddelfrydau radicalaidd newydd. Fodd bynnag, bu cyflafan y Rhyfel Byd Cyntaf yn ergyd farwol i ragolygon Rhyddfrydiaeth.