Cyfrifiad Crefydd 1851
Cynhaliwyd unig gyfrifiad crefydd Prydain yn 1851. O'r 898,442 o eisteddleodd yn addoldai Cymru, roedd dosbarthiad yr enwadau fel a ganlyn: yr Eglwys Wladol, 32%; y Methodistiaid Calfinaidd, 21%; yr Annibynwyr, 20%; Bedyddwyr, 13%; Wesleaid, 12%; eraill, 2%.
Nid oedd mor hawdd cofnodi faint oedd yn mynychu'r addoldai. Fe ddywedir yn aml fod pedwar o bob pump o bobl Cymru oedd yn mynychu lle o addoliad ar 30 Mawrth 1851 yn mynd i gapeli'r Anghydffurfwyr, ond gan fod yr Anghydffurfwyr yn tueddu i fynychu mwy nag un gwasanaeth a'r Anglicaniaid gan amlaf ond yn mynychu un, mae'n debyg fod hyn yn gorbwysleisio cryfder Anghydffurfiaeth. Os oedd o leiaf bumed ran o'r boblogaeth yn mynychu'r Eglwys Wladol, ac efallai ddwy ran o bump ddim yn mynychu lle o addoliad o gwbl, y mae'n anodd derbyn bod mwyafrif pobl Cymru yn oes Victoria yn gapelwyr selog.
Enwadaeth
Deilliodd twf yr enwadau Anghydffurfiol o egni diwygiadau efengylaidd y ddeunawfed ganrif. Aeth yn anos i'r Methodistiaid Calfinaidd barhau fel mudiad o fewn Eglwys Loegr. Yn 1811 ffurfiasant enwad ar wah芒n a mabwysiadu trefn Bresbyteraidd o lywodraeth eglwysig. Yr oedd yn drefn oedd yn canoli gweithgarwch ei heglwysi, yn wahanol iawn i drefn yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, oedd yn pwysleisio sofraniaeth yr eglwys leol.
Gwrthododd y Methodistiaid Wesleaidd, enwad a chryn gefnogaeth y gogledd ddwyrain ac mewn ardaloedd a ddenodd nifer o fewnfudwyr o Loegr yn byw, hefyd 芒 threfn ganolog. Ymhlith yr enwadau eraill ceid yr Undodiaid a'r Crynwyr - dau enwad a chyfrannodd llawer o syniadau radicalaidd - a'r Mormoniaid, a oedd wedi dod yn gymharol ddiweddar o America.
Yn 1851 y Bedyddwyr oedd yr enwad cryfaf yn Sir Fynwy, yr Annibynwyr ym Morgannwg, Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog, yr Eglwys Wladol yn Siroedd Penfro, Maesyfed, Trefaldwyn a'r Fflint, a'r Methodistiaid Calfinaidd yn y pum sir arall.
Adfywiad yr Eglwys Wladol
Gwendidau'r Eglwys Wladol oedd wrth wraidd peth o leiaf o lwyddiant yr Anghydffurfwyr. Roedd ei system blwyfi yn feichus, ei hesgobion yn Saeson a chredid bod ei chlerigwyr yn ddiffygiol mewn s锚l.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ganrif, aed ati o ddifri i geisio unioni'r diffygion hyn. Sefydlodd Thomas Burgess, esgob T欧 Ddewi rhwng 1803 a 1825, goleg yn Llanbedr Pont Steffan i hyfforddi clerigwyr Cymreig; dysgodd y Gymraeg a chysylltodd Eglwys 芒 gweithgareddau diwylliannol Cymreig.
Yn y 1830au ad-drefnwyd system weinyddu eiddo ac incwm yr Eglwys. Gweithiodd cefnogwyr yr Eglwys Wladol i greu rhwydwaith o ysgolion elfennol oedd yn dysgu'r athrawiaeth Anglicanaidd; erbyn 1870 roedd tua mil o'r ysgolion hyn yng Nghymru o'u cymharu 芒 thri chant o ysgolion anenwadol.
Cafodd cannoedd o hen eglwysi plwyf eu hadnewyddu a gwnaed ymdrech lew i sicrhau bod addoldai Anglicanaidd ar gael yn yr ardaloedd diwydiannol oedd ar gynnydd. Daeth Mudiad Rhydychen, a bwysleisiai agweddau Catholigaidd Anglicaniaeth, a 'phrydferthwch sancteiddrwydd' Uchel Eglwysig i lawer cymuned ddifreintiedig. Yr un pryd gwnaeth y mudiad lawer i gryfhau teimladau gwrth-Gatholig yr Anghydffurfwyr a'r Isel Eglwyswyr, teimladau oedd eisoes wedi eu corddi gan raddfa'r mewnfudo o Iwerddon a oedd wedi chwyddo rhengoedd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.