Addysg
Yng Nghymru'r canol oesoedd roedd rhywfaint o addysg ar gael hwnt ac yma yn y mynachlogydd a chanolfannau crefyddol eraill. Denwyd myfyrwyr o Gymru i'r prifysgolion, yn enwedig i Rydychen. Roedd addysgu lleygwyr yn elfen ganolog o'r Dadeni ac roedd llythrennedd o bwys mawr i'r Protestaniaid. Sefydlwyd Coleg yr Iesu - y coleg cyntaf yn Rhydychen i'w sefydlu wedi'r Diwygiad Protestannaidd - yn 1571, ac roedd addysgu Cymry yn ganolog i'w bwrpas. Dechreuodd meibion teuluoedd cefnog Cymru fynychu ysgolion bonedd yn Lloegr.
Erbyn 1603 roedd deunaw ysgol gramadeg wedi'u sefydlu yn nhrefi Cymru. Ychydig o ddarpariaeth oedd ar gyfer trwch y boblogaeth tan y 1650au pan sefydlodd y Weriniaeth ysgolion ym mhob canolfan drefol yng Nghymru. Parhaodd y gwaith o dan adain y Welsh Trust rhwng 1674 a 1681, ac yna gan y Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Gristnogol o 1700 ymlaen. Sefydlodd yr Anghydffurfwyr academ茂au, rai ohonynt o safon uchel, i addysgu gweinidogion.
Y garreg filltir bwysicaf oedd ymgyrch Griffith Jones o Landdowror yn Sir Gaerfyrddin rhwng 1734 a 1771. Sefydlodd ysgolion cylchynol - canolfannau dros dro yn canolbwyntio ar ddysgu plant ac oedolion i ddarllen. Gellir dehongli ei ystadegau i ddangos bod 200,000 o bobl - bron i hanner poblogaeth Cymru - wedi dysgu darllen i ryw raddau oherwydd ei ymdrechion.
Newidiadau crefyddol
Fel y gwelwyd, ni wnaeth 'llwybr canol' yr Anglicaniaid fodloni pawb yng Nghymru. Roedd gan Gatholigion Rhufeinig eu cadarnleoedd, yn enwedig yn Sir Fynwy a Sir y Fflint. Ond wedi helyntion gwrth-Babyddol 1678-9, dilewyrch fu hanes yr Eglwys Gatholig nes i'r Gwyddelod ddechrau mewnfudo i Gymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a sefydlu eglwysi Catholig yn y wlad. Stori wahanol oedd stori Protestaniaeth radical. Dan ddylanwad y Rhyfel Cartref a'r Werinlywodraeth, cynyddodd y cynulleidfaoedd mwy efengylaidd eu tuedd o ddau i ddwsinau. Cawsant eu herlid wedi adferiad y Stiwartiaid ond erbyn 1689 cawsant rywfaint o oddefiad.
Araf oedd y symud at Anghydffurfiaeth. Yn 1676 rhyw un ym mhob 20 o drigolion Cymru, o bosib, oedd yn mynychu gwasanaethau'r Sentars, ac yn 1716 rhyw 20 o gapeli oedd yn y wlad o'i gymharu 芒 bron i fil o eglwysi plwyf.
Y Diwygiad Methodistaidd
Taniwyd brwdfrydedd efengylaidd y Protestaniaid ymhellach gan y Diwygiad Methodistaidd, a gychwynnwyd gan Howel Harris ac eraill yn y 1730au. Yn wahanol i'r Methodistiaid yn Lloegr yr un adeg, mabwysiadodd Methodistiaid Cymru ddiwinyddiaeth Calfin gan ddatblygu eu strwythurau gweinyddol eu hunain.
Erbyn 1750 roedd 428 o seiadau, cyfarfodydd y frawdoliaeth Fethodistaidd, yng Nghymru. Meddyliai'r arweinwyr am eu mudiad yn nhermau adfywio'r Eglwys sefydledig, a gwadent mai eu bwriad oedd creu enwad ar wah芒n.
Yn ystod y ddeunawfed ganrif, denodd y Methodistiaid ragor o ddilynwyr, gan annog yr enwadau Anghydffurfiol, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, i ymestyn cylch eu dylanwad. Ac wrth ddilyn y trywydd yma daeth Cymru erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn wlad o Anghydffurfwyr yn bennaf.