Rhyfeloedd y Rhos
Rhwng y 1450au a'r 1480au problem fawr coron Lloegr oedd yr ymrafael rhwng llinachau Lancaster a York. Disgynyddion trydydd mab Edward III oedd y Lancastriaid, a'r Iorciaid yn ddisgynyddion, trwy'r Mortimeriaid, i ail fab Edward a hefyd ei bedwerydd mab. Yn 1460 cafodd y Lancastriad, Harri VI, w欧r Harri IV, ei ddiorseddu gan Edward IV o linach York. Yn 1485 cafodd brawd Edward, y trawsfeddiannwr Richard III, ei ddiorseddu gan y Lancastriad Harri VII. Priododd Harri 芒 merch Edward IV, a daeth eu mab, Harri VIII, i gynrychioli'r ddwy linach. Cafodd yr ymrafael yma gryn effaith ar Gymru. Ar y dechrau roedd Tywysogaeth Cymru yn un o gadarnleoedd y Lancastriaid, tra roedd y Mers, yn enwedig arglwyddiaethau'r Mortimeriaid, yn ganolog i ymgyrch yr Iorciaid. Yn y diwedd, Harri Tudur fu'n fuddugol; trwy ei fam, roedd yn ddisgynnydd i Edward III, trwy ei dad, roedd yn ddisgynnydd i Ednyfed Fychan, prif gynghorydd Llywelyn Fawr. Daeth y Tuduriaid yn ffocws i deyrngarwch yr uchelwyr Cymreig, er dichon y gorliwiwyd eu cysylltiadau 芒 hen dywysogion Cymru.
Y Tuduriaid
Teulu'r Tuduriaid a fu'n llywodraethu Lloegr, Cymru ac Iwerddon o 1485 i 1603. Dangosodd Harri VII rywfaint o ffafriaeth tuag at Gymru - gwlad ei daid ar ochr ei dad - ac roedd gan ei wyres, Elizabeth I rywfaint o gydymdeimlad tuag at y wlad hefyd. Yn wir, efallai mai presenoldeb y Tuduriaid ar orsedd Lloegr oedd y rheswm pam fod y berthynas 芒'r Saeson yn fwy cymodlon yng Nghymru nag ydoedd yn Iwerddon.
Gyda'r goron yn ben ar y dywysogaeth yn ogystal ag arglwyddiaethau'r Lancastriaid a'r Iorciaid yn y Mers, roedd bron y cyfan o Gymru yn uniongyrchol atebol i awdurdod y brenin. Cadwodd Harri VII Gyngor y Mers, corff a oedd wedi'i sefydlu yn Llwydlo gan Edward IV, a dileodd taeogaeth yn y rhan fwyaf o'r gogledd, ond ni wnaeth fawr ddim arall. Aeth ef a'i fab ati i ddinistrio awdurdod rhai o brif deuluoedd Cymru, gan gynnwys teulu Stanley yn y gogledd ddwyrain, teulu Dinefwr yn y de orllewin a dug Buckingham yn y de ddwyrain.