Llinach Owain
Ar ochr ei dad, Owain Glyndŵr (Owain Glyndyfrdwy) oedd etifedd rheolwyr Powys Fadog, ac, ar ochr ei fam, roedd yn etifedd i'r hyn a oedd yn weddill o hawliau disgynyddion yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth. Daeth llinell wrywol teulu llywodraethol Gwynedd i ben gyda marwolaeth Owain Lawgoch yn 1378. Wedi hynny, a derbyn bod unrhyw Gymro â'r hawl i'r teitl Tywysog Cymru, Owain Glyndŵr oedd hwnnw. Fe'i ganed tua 1350, a daeth yn arglwydd ar yr hyn oedd yn weddill o dreftadaeth ei hynafiaid yng Nglyndyfrdwy a Sycharth.
Cefndir Owain
Un o wŷr y Goror oedd Owain. Milltir sydd rhwng Sycharth â'r ffin â Lloegr. Trigai ei deulu yng nghysgod prif arglwyddi'r ardal, teulu Fitzalan o'r Waun a Chroesoswallt. Priododd Owain ag aelod o un o brif deuluoedd y Mers. Treuliodd gyfnod yn Llundain ac ym myddin brenin Lloegr; yn wir, roedd yn ymddangos yn batrwm o Gymro a oedd wedi derbyn y drefn Seisnig. Serch hynny, roedd yn gyfarwydd â thraddodiadau ei bobl ei hunan. Cai'r beirdd groeso wrth eu bodd yn Sycharth; roeddynt yn chwannog i'w atgoffa pwy oedd ei hynafiaid, ac fel petai'n ei baratoi i fod yn waredydd y Cymry. Ceir darlun credadwy o'r ddwy wedd o'i bersonoliaeth yn nrama Shakespeare Henry IV.
Cefndir y Gwrthryfel
Diorseddwyd Richard II yn 1399, a chipiwyd coron Lloegr gan Harri IV, arglwydd Brycheiniog, Trefynwy, Cydweli ac Ogwr, er mai Edmund Mortimer, perchennog nifer o arglwyddiaethau yn y Mers, oedd gwir etifedd Richard II. Simsan oedd seiliau grym Harri, gan y gwrthwynebwyd ef gan deulu Mortimer a chan deulu pwerus Percy, ieirll Northumberland. Â llawer o uchelwyr Cymru wedi closio at Richard II, darfu i'w ddiorseddiad olygu nad oedd ganddynt mwyach angor yn y drefn frenhinol Seisnig.