91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys M么n

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bwthyn To Gwellt Swtan
Sefydlwyd cwmni Swtan Cyf ym 1998 er mwyn adfer hen adfeilion Swtan, y t欧 hir to gwellt olaf ym M么n. Gwilym Jones, a anwyd yn y bwthyn, yw trysorydd Cyfeillion Swtan ac sy'n adrodd hanes ei adfer.

Bwthyn Swtan
Saif Bwthyn Swtan ar lecyn sy'n edrych allan dros y M么r a Phorth Swtan. next page
12345678910
1112

"Fy mam oedd y person olaf i fyw yn y bwthyn, ond gadawodd ym 1975 oherwydd salwch ac fe ddadfeiliodd y t欧.

"Y simnai oedd yr unig ran oedd yn dal yn gyfan. Roedd trawst - cilbren o long hwyliau - yn rhedeg o dalcen i dalcen yn y to.

"Ond mi bydrodd hwnnw ac i lawr ddaeth y to. Gan nad oedd neb yn byw yno, mi ddadfeiliodd yr adeilad.

"Criw o bobl leol gafodd y syniad o adfer y t欧, gan ddechrau drwy wneud ychydig o ymholiadau. Fe brynwyd y lle gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd ddim ond eisiau'r tir.

"Felly fe aeth y criw ati i ffurfio cwmni er mwyn cael grantiau.

"Un o delerau'r grant a'r cytundebau oedd bod pobl ifanc yn dysgu'r hen grefftau ac mae'r bwthyn wedi ei adeiladu yn unol 芒'r hen ffordd.

"Tyllwyd am glai o gae cyfagos i ddal y waliau at ei gilydd yn lle defnyddio mortar neu goncrid.

"Y to gwellt ydi'r unig un yn Sir F么n. Dwi ddim yn gwybod pa mor bell sydd raid mynd i ganfod un arall. Dwi'n gwybod bod rhai yn y de, yn Iwerddon ac ar Ynys Manaw.

"Roedd bywyd yno yn syml - heb dd诺r, heb fath na thoiled ond roedd gennym drydan.

"Roedd mam yn gorfod codi'n fore i lanhau'r gr芒t, codi lludw a berwi'r tegell cyn gwneud brecwast.

"Rydym wedi ceisio gwneud y tu mewn yn debyg i fel oedd hi yn 20au'r ganrif ddiwethaf gyda hen ddodrefn. "Mae'n deimlad od mynd i mewn i'r lle r诺an - dwi'n disgwyl gweld yr hen deulu yno.

"Mae yna lawer o ddiddordeb yn y lle gyda grwpiau ysgol, Merched y Wawr a'r WI yn ymweld. "Ar hyn o bryd rydym yn ceisio gwella'r lle ac rydym yn bwriadu cael tywysydd sain a fydd yn arwain pobl o gwmpas y t欧.

"Mae'n gyfle i bobl weld sut oedd bywyd ganrif yn 么l."

Mae'r bwthyn ger Porth Swtan, Rhydwyn ar agor ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul, 12.00 - 16.30. Ffoniwch 01407 730501 am fanylion. Mae'n cael ei redeg gan Gyfeillion Swtan ac mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.


Cyfrannwch

Dafydd Bates, Pwllglas, Rhuthun
Dw i erioed wedi ymweld a Phorth Swtan, ond me glywais i Gwilym Jones yn siarad am y bwthyn yn y rhaglen Galwad Cynnar. Diddorol iawn, iawn. Dw i'n benderfynol i fynd yno cyn bo hir!!

Chelsea o Llanddeusant
Gwilym Jones is my Taid. He told me a lot of stories about his childhood when I was young, and I used to go to the cottage time after time. I'm glad it is kept in such good shape, it gives a great opportunity for young people from across the world to see how people had to live, and how they survived.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy