Lluniau o Sioe M么n '08
Cyfrinachau cystadlu a mwy am fwynhau'r sioe...
Heblaw am eich arbenigedd chi, beth arall sydd dda i'w wneud yn y sioe?
Gareth Jones: Un o'r pethau mwyaf cyffrous i'w gwylio yw'r gystadleuaeth cneifio, yn enwedig dosbarthiadau'r cystadleuwyr agored sy'n gallu cneifio dafad mewn rhyw hanner munud! Mae pobl o gefndir ffermio a phobl sydd heb unrhyw gysylltiad yn mwynhau cyffro'r gystadleuaeth yma. Mae yna sylwebaeth ar y cystadlu hefyd, sy'n ychwanegu at y cyffro a'r h诺yl.
George Thomas: Gweld pob peth fedrwn ni - dyma ein gwyliau ni a da ni'n joio'n hunain yn fawr, yn enwedig y ceffylau a'r gwartheg - da ni ddim yn bobl moch.
Nerys Haf:
Cymdeithasu; mae o'n le i weld pobl dda chi ddim yn gweld o un flwyddyn i'r llall. Mi fyddem yn aros mewn caraf谩n, sy'n gyfle i fod efo pobl gwartheg a cheffylau eraill a chael hwyl.
Eleanor Hughes:
Mae'r babell cynnyrch yn werth ei weld ac mae cymdeithasu'n bwysig iawn hefyd! Dyma'r sioe fwyaf, heblaw am y Sioe Frenhinol, a hwn oedd y diwrnod mawr i forynion a gweision fferm flynyddoedd yn 么l - eu unig ddiwrnod o wyliau!
Ond dydy o ddim yn lle ar gyfer pobl fferm yn unig. Mae rhai ymwelwyr yn dod i Sir F么n adeg yma o'r flwyddyn yn arbennig i fynd i'r sioe - mae yna rywbeth i bawb.
Dwi hefyd yn hoffi mynd i chwilio am fargeinion ymhlith yr holl stondinau. Mae yna digon o ddillad, offer t欧^, popeth yn ymwneud a cheffylau a hyd yn oed busnesau gwerthu ceir.
Beth yw'r peth gorau i'w wneud os yw'n bwrw glaw?
Gareth Jones:
Os yw'n bwrw glaw, mae 'na ddigon o weithgareddau dan do. Er enghraifft, mae'r babell gynnyrch yn lle diddorol a difyr i basio'r amser ac mi fyddwch yn saff o weld rhywun y byddwch yn ei adnabod yr un pryd.
Mae'r babell adloniant yn cynnig pethau fel adloniant byw a sioeau ffasiynau, a rhywbeth i ddiddori plant fel arfer. Os ydych yn mwynhau profi cynnyrch lleol, beth am y neuadd fwyd, sydd yn cael ei gynnal mewn adeilad parhaol (yn hytrach na phabell) - yn ogystal 芒 stondinau mae yno arddangosfeydd coginio.
Nerys Haf:
Da ni dal gorfod cario 'mlaen, beth bynnag yw'r tywydd. Nid yw'r show jumping na'r dangos gwartheg yn stopio oherwydd y tywydd.
Eleanor Hughes:
Mae yna bafiliwn parhaol ar y maes, ac mae yna ddigonedd o bethau'n mynd ymlaen fanno. Dyna le bydd un o fy hoff stondinau, sy'n gwerthu esgidiau Eidaleg - mi gewch chi fargen arnynt, a bagiau llaw hefyd.
Mae yna ffyrdd Tarmac ar y maes hefyd, felly nid yw hi mor ddrwg 芒 hynny os oes yna law.
Beth yw'r peth gorau i'w fwyta/yfed yn y sioe?
Gareth Jones:
Fe fydda i bob amser yn anelu am stondin Cig Oen Maethlon, o fferm Erw Faethlon yn ardal Towyn, Meirionydd. Hefyd dwi'n hoffi cefnogi Cymry Cymraeg sy'n gwerthu cynnyrch cartref.
Mae adeilad y Ffermwyr Ifanc a stondin Merched y Wawr yn dda iawn am baned a chacen/bisged - dydyn nhw ddim yn gwerthu lluniaeth, ond mi allwch roi cyfraniad iddynt, felly mi gewch baned da a helpu achosion teilwng yr un pryd.
Fy ffefryn i ar gyfer rhywbeth i'w yfed yw'r stondin ysgytlaeth a choffi llefrith; fyddai yn ymweld 芒 hi yn aml iawn yn ystod dau ddiwrnod y sioe.
George Thomas:
Byddai'n ddigon bodlon gyda'r hufen ia.
Nerys Haf:
Mi fyddem yn mynd i'r babell country land owners. Mae'n rhaid cael tocynnau arbennig i fynd yma ond mae'r bwyd a'r diod yn wych.
Eleanor Hughes:
Mi fyddaf yn mynd i babell yr Is-Lywyddion, sydd efo bwyd poeth neis. Mae o ar agor i bawb erbyn hyn, er bod yna ddigonedd o bethau ar y maes - hot dogs, hog roast - a bar hefyd.
Unrhyw gyngor i rywun sydd am gystadlu am y tro gyntaf?
Gareth Jones:
Dwi'n canolbwyntio ar ychydig o ddosbarthiadau llysiau yn hytrach na thrio gyda bob dim; mae'n well gwneud joban dda gydag ychydig bach o bethau na chael dim byd efo cant a mil ohonynt.
Ar yr un pryd, peidiwch ofni mentro cystadlu yn erbyn pobl brofiadol a llwyddiannus - mae'n rhaid cychwyn yn rhywle. Ond os nad yw'r cynnyrch o safon erbyn diwrnod y sioe, byddai'n well peidio cystadlu yn y dosbarth hwnnw na gwneud eich hun yn destun sbort i bobl eraill!
Hefyd, dysgwch gan bobl brofiadol; mae'r rhan fwyaf o bobl yn fwy na bodlon rhannu cynghorion, yn enwedig gyda chystadleuwyr ifanc a newydd.
George Thomas: Yr unig beth allai ddweud yw peidio disgwyl cael gormod o lwyddiant y flwyddyn gyntaf. Ac ar 么l ennill sawl gwaith, mae'n anodd aros ar y top!
Nerys Haf:
I fwynhau eich hunain. Mae'n bwysig iawn i bobl leol cystadlu gan fod lot o bobl o bell yn dod i gystadlu - dyma ein sioe fawr ni felly dewch a mwynhewch!
Cyfrinachau cystadlu a mwy am fwynhau'r sioe...