Yn 1845, sefydlwyd Cymdeithas Frawdgar i ofalu am yr aelodau a oedd yn gweithio yn y pwll. Byddai'n cyfarfod 'ar y Llun cyntaf yn y mis tan arwydd y Llew Coch yn Llansannan ... pan y bydd i bob aelod dalu dau swllt i'r drysorgist'.
"Mae o wir yn esiampl," meddai Rhiannon Davies o Lansannan a ddaeth â'r hanes i'n sylw drwy gopi y daeth Mr Bill Woodhouse o hyd iddo wrth wneud ymchwil i hanes yr ardal. "Mae i gyd yn Gymraeg. Maen nhw'n addo bod yn deyrngar i'r aelodau ac i'r frenhines ac roedd 30 o reolau - i fod yn gyfrifol am beth oedd yn digwydd os oedd yr aelodau yn sâl a thalu budd-dâl iddyn nhw ac yn y blaen."
Os byddai un o'r aelodau yn mynd yn glaf, byddai'n cael saith swllt yr wythnos am hanner blwyddyn. Wedi hynny, tri swllt a chwe cheiniog tra byddai'n dal yn 'afiach'. Hefyd roedd rhaid i'r swyddogion ymweld â'r claf, bob yn ail, unwaith yr wythnos a byddai gofyn i feddyg ymweld â'r claf 'fel bo gofyn'.
Os byddai un o'r aelodau yn marw, byddai ei weddw a'i deulu yn cael arian i'w gladdu ac os byddai gwraig un o'r aelodau yn marw, byddai'r aelod hwnnw yn cael help ariannol i'w chladdu.
Ymysg y nifer o reolau a chanllawiau eraill mae'r rheol na châi neb sy'n filwr neu'n perthyn i 'wasanaeth morawl ei Mawrhydi' fod yn aelod o'r gymdeithas.
|