"Adeiladwyd yr eglwys fawr ger Bont y Borth yn 1858. Cyn hynny, hen eglwys y plwyf oedd yr eglwys fach ar yr ynys ger llaw.
"Mae'n amhosib dweud pa mor hen yw'r eglwys ar Ynys Tysilio yn y Fenai. Mae'r plac uwchben y drws yn dweud ei bod wedi ei chodi ar sylfeini o'r seithfed ganrif ond mae'r adeilad a welir heddiw yn dyddio n么l i'r bymthegfed ganrif ac mae'r bedyddfaen oddi mewn yn dyddio n么l i'r 13eg ganrif.
"Dwi'n credu bod yr eglwys wedi ei chodi yno oherwydd ei fod yn lle sanctaidd yn barod. Mae ynysoedd bach yn aml yn llefydd ysbrydol ac mae mewn lleoliad mor arbennig, yn edrych draw dros ddyfroedd y Fenai.
"Mae'n bosib croesi'r sarn i'r ynys drwy'r adeg gan ei fod mor uchel allan o'r d诺r. Yn 么l hen fap gan
Lewis Morris (un o Forisiaid M么n), mae yna sarn arall i'r ynys, ond mae hwnnw o dan y d诺r weithiau ac mae bwlch mawr ynddo erbyn hyn lle mae olion hen felin oedd yn cael ei rhedeg gan y llanw.
"Nid oedd y fynwent yno erioed 'chwaith - mae'n si诺r fod 'na un bach ger yr eglwys ond defnyddiwyd rhan helaeth o'r ynys ar gyfer ffermio. Roedd yna fferm lle saif adeilad o'r 1930au heddiw, ac yn 么l y Cyfrifiad roedd mwy nag un teulu yn byw ar yr ynys. Dwi'n si诺r fod ganddyn nhw fferm fach gyda buwch, mochyn a ieir a dwi'n si诺r y bydden nhw wedi bod yn bysgotwyr. Mae 'na olion o'r diwydiant yma ar hyd glannau'r Fenai a physgota oedd y prif ddefnydd a wneid o'r Fenai cyn iddo droi'n lle i gael hwyl ar y d诺r.
"Ar dop yr ynys y mae cofgolofn Porthaethwy. Mae'n un brydferth - croes Geltaidd sy'n edrych draw dros y Fenai.
"Cafodd ei chreu gan Harold Huws, pensaer ac archeolegydd. Cafodd ei gladdu ar yr ynys ac mae ei fedd jest i'r dde wrth i chi ddringo i dop yr ynys - croes Geltaidd fach yng ngolwg y groes fawr.
"Mae 'na sawl ynys yn y Fenai wrth gwrs. Ger y pier, mae Ynys Faelog sydd r诺an yn eiddo i adran Gwyddor Eigion y Brifysgol. Yna, mae Ynys Gaint, sydd bellach yn eiddo preifat, ac wedyn Ynys y Castell - does gen i ddim syniad beth yw'r cysylltiad efo'r castell!
"'Does neb wir yn gwybod hanes yr ynysoedd gan nad oes neb wedi ysgrifennu amdanynt dros y canrifoedd. Mae'n si诺r eu bod wedi bod yn gartref i bysgotwyr ac o ddefnydd mawr i'r cychod wrth iddynt lywio drwy ddyfroedd y Fenai.
"Bob blwyddyn, rwyf yn arwain taith hanes o amgylch Ynys Tysilio yn ystod G诺yl Gerdded Ynys M么n. Cychwynnwyd yr 诺yl gyda chymorth Menter M么n ac erbyn hyn mae'n boblogaidd iawn ac yn denu ymwelwyr o bell i ffwrdd. Mae 'na deithiau hamddenol fel f'un i, rhai mwy egn茂ol o amgylch yr ynys neu dripiau i weld adar a chynhelir adloniant gyda'r nos."
|