Y mae Rory Francis, swyddog wasg Coed Cadw, efo sawl hoff le i ymweld ag amser yma o'r flwyddyn, gan gychwyn efo ffawydd Aber Artro, Harlech.
"Mae'r awyrgylch yn y goedwig yma yn arbennig," meddai Rory. "Mae yna l么n yn rhedeg trwyddi felly mae'n bosib stopio a mwynhau lle nad yw wedi cael ei sbwylio.
"Yn yr hydref, mae yna dail euraidd dros lawr y goedwig, gan eu bod yn tyfu'n fwy trwchus ar y ffawydden na'r dderwen. Mae wir yn brydferth yma."
Mi all Rory hefyd cynnig Allt Soar a Coed Garth Byr ger Talsarnau a Hafod y Llyn, Maentwrog, ar ochrau Llyn Bryn Mair uwchben Plas Tan y Bwlch.
"Rydym yn falch iawn o Hafod y Llyn, ar 么l i ni ennill gwobr amdani yn y Sioe Frenhinol," meddai Rory. "Derw ydy o ran fwyaf, gydag ychydig o gonwydd, er rydym wedi bod yn gwneud ein gorau i gael gwared ohonynt dros y pymtheg mlynedd diwethaf gan nad ydynt yn frodorol."
Mae'n bosib gweld y goedwig yma o dr锚n Rheilffordd Ffestiniog sy'n rhedeg ar ei hyd.
Yn agosach i'w gartref ym Mlaenau Ffestiniog, mae Rory yn mwynhau ymweld 芒 Choed Cymerau, coedwig dderw arall sy'n ymestyn dros glytwaith o gaeau bach, bryncynnau a nentydd yng nghysgod y Moelwyn.
"Lle aros hyfryd yw Parc Mawr uwchben Conwy," meddai Rory.
Pellach i'r de y mae Coed Nant Gwernol, sydd ar waelod rheilffordd Tal-y-llyn ger Tywyn.
"Os ewch ar y tr锚n reit i'r top, ac yna cerdded draw i Abergynolwyn, mi wnewch chi gerdded trwy Goed Nant Gwernol", meddai Rory. "Mae o mewn ceunant coediog felly mae o'n llaith iawn yna, gyda nant yn rhedeg trwy'r canol. Mae yna fwsog a rhedyn ar bob carreg a choeden. Mae o wir yn lle prydferth, yng nghysgod Cader Idris."
Efallai bod y goedwig yma yn enghraifft o beth hoffai Rory alw yn fforest law Geltaidd.
"Mae coed brodorol Gogledd Cymru yn arbennig oherwydd yr hinsawdd," meddai Rory. "Mae'r prif wyntoedd yn dod o'r de-ddwyrain, dros y m么r, felly maen nhw'n rhai llaith iawn."
Ond ydych chi erioed wedi meddwl pam yn union y mae'r dail yn newid lliw?
"Mae'n digwydd oherwydd bod y siwgr yn y dail yn dirywio," meddai Rory. "Maen nhw'n cychwyn creu cemegau gwahanol, fel carotene, sy'n lliw oren, ac anthocyanin, sy'n fwy coch."
Yn anffodus i ni, mae'n bosib bod yr haf yma, oedd braidd yn siomedig, wedi amharu ar ba mor llachar bydd lliwiau'r hydref eleni. Er hynny, mae o wedi bod yn flwyddyn arbennig o dda ar gyfer aeron mawr goch.
"Mae'r ddraenen wen wedi bod yn cynhyrchu aeron gwych," meddai Rory. "Ddaru sawl un dod draw atom ar faes yr Eisteddfod yn y Bala a gofyn am gerddinen gan eu bod wedi clywed pa mor dda oedd yr aeron oherwydd yr holl law rydym wedi gael."
Mi fydd y niferoedd mawr o aeron llachar yn gwneud y coedwigoedd yn llefydd prysur iawn yr hydref yma, gyda'r holl anifeiliaid bach yn tewhau ar gyfer y gaeaf.
Ond mae ein tywydd newidiol yn gwneud hi'n anoddach rhagweld pryd fydd yr amser gorau i fwynhau lliwiau'r tymor yma.
"Mae o'n eithaf hynaws ar hyn o bryd," meddai Rory. "Os daw cyfnod oerach, mi fydd y dail yn newid lliw yn llawer cyflymach."
Mwynhewch liwiau'r hydref.