Cliciwch i weld y gwiwerod
"Be ydi'r hud yma sy'n perthyn i'r wiwer goch? Be sy'n ei gwneud hi'n gymaint o ffefryn ymhlith yr anifeiliaid? A pham mae hi'n ysgogi cymaint ohonom ni i ddweud 'O'?
"Mae'n si诺r gen i fod y gynffon ffantastig yna sydd ganddi yn cyfrannu at y cyfaredd, a'r llygaid gochelgar, call.
"Mae yna gylch o flew goleuach o gwmpas ei llygaid, a gan fod y llygaid un bob ochr i'r pen, mae'n gallu gweld o'i chwmpas yn wych.
"Gan fod ganddi lygaid craff, mae'n gallu sylwi ar berygl o bellter mawr.
"Mae'r mymryn blewiach sydd ganddi hi ar y clustiau hefyd yn apelio, yn ogystal 芒'r lliw browngoch cyfoethog sydd ar ei ch么t.
"Mae'n anifail cynhenid i'r ynysoedd yma, ond yn anffodus wedi prinhau'n drybeilig yn ystod y ganrif ddiwethaf.
"Rydym yn ffodus iawn ym M么n fod yna rai gwiwerod coch wedi llwyddo i oroesi'r llanw mawr o gyfeiriad y gwiwerod llwyd.
"Gan mai hadau o foch coed conifferaidd ydi peth o'i hoff fwyd, mae i'w chanfod fwy na heb erbyn hyn mewn coedwigoedd conifferaidd ble mae yna ddigon o'r coed yma'n tyfu.
"Mae i'w chanfod mewn coedwigoedd llydanddail mewn ambell i fan, ble mae'n bwyta cnau a mes ac mi wnaiff hefyd fwyta blagur, pryfetach a ffwng.
"Planhigfa o goed conifferaidd ar Fynydd Llwydiarth yn ne-ddwyrain M么n yw Coed Llwydiarth ac yma mae'r wiwer goch wedi llwyddo i ddal ei gafael.
"Mae stori'r wiwer goch ym M么n yn stori o lwyddiant, ond mi allai pethau'n hawdd iawn droi'n fethiant.
"Ers rhai blynyddoedd bellach mae Dr Craig Shuttleworth wedi bod yn gwneud gwaith arloesol ar wiwerod coch Mynydd Llwydiarth.
"Erbyn 1998 roedd ei waith ymchwil yn dangos fod y sefyllfa'n wirioneddol argyfyngus ac mai ar Fynydd Llwydiarth yn unig roedd gwiwerod coch ym M么n a dim ond 40 yn unig oedd ar 么l.
"Yn dilyn gwaith trapio eang, llwyddwyd i ddal a difa nifer helaeth o wiwerod llwyd sy'n cystadlu yn rhy llwyddiannus o lawer am le a bwyd y wiwer goch.
"Rhoes hyn gyfle i'r gwiwerod coch gynyddu a dechrau ffynnu ym M么n unwaith yn rhagor.
"O fewn dwy flynedd roedd niferoedd y gwiwerod coch wedi dyblu, ac roedden nhw wedi dechrau lledaenu i goed llydanddail Wern y Wylan gerllaw.
"Fel un o 'Gyfeillion' y wiwer goch ar yr ynys, mi fydda i'n ymweld ag ysgolion cynradd M么n i siarad gyda'r plant am y wiwer goch, ac yn arwain teithiau natur i weld cynefin y wiwer goch ar yr ynys.
"Mi greda i ei bod yn bwysig iawn dysgu ein plant am y mamal hardd yma sydd gennym ar yr ynys, pa mor ffodus ydym fod gennym wiwerod coch ar 么l yn M么n, a pha mor bwysig yw diogelu'r wiwer goch a'i chynefin.
"Rydym hefyd wedi paratoi Pecyn Addysg y Wiwer Goch (pecyn addysg dwyieithog) yn benodol ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 a 2.