Mae gardd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, sydd wedi'i lleoli y tu ôl i adeilad yr Ysgoldy, yn rhan bwysig o weithgarwch y Ganolfan. Tir diffaith oedd yma pan brynwyd y Tŷ Capel a'r Ysgoldy, a threuliwyd 2005 yn cael gwared â'r llystyfiant gyda chymorth gwirfoddolwyr.
Cafwyd cymorth amhrisiadwy gan gangen Dyffryn Nantlle o'r Ffermwyr Ifanc a ddaeth atom ar dri achlysur. Wedi hyn, aed ati i osod y prif lwybrau, i ailgodi'r hen wal gerrig sy'n rhannu'r ardd ac i godi ffensys, gyda chymorth ariannol gan Enfys, Amcan 1 ac Amgylchedd Cymru.
Crëwyd gardd berlysiau draddodiadol yn un rhan o'r ardd, gan geisio efelychu'r hyn a dyfid gan werin gwlad ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Byddai pawb yn y cyfnod hwn yn tyfu rhai o'r perlysiau mwyaf cyffredin at ddefnydd meddyginiaethol a choginiol. Er enghraifft, y wermod lwyd.
Roedd te wermod lwyd yn feddyginiaeth gyffredin gan y werin at anhwylderau'r stumog. Roedd hon yn ddiod chwerw iawn. Câi te wermod ei gyfrif yn feddyginiaeth ddi-guro at lyngyr hefyd, yn enwedig yn siroedd y Gogledd.
Byddid hefyd yn plannu camomeil.
Gwneid te camomeil at anhwylderau'r stumog. Roedd y te hefyd yn boblogaidd iawn at annwyd, yn enwedig ym Maldwyn. Byddai rhai yn ei gymryd cyn mynd i'r gwely, i'w helpu i gysgu.
Mae llawer ohonom yn gyfarwydd â defnyddio rhosmari ar gyfer coginio. Gwneid defnydd meddyginiaethol ohono yn ogystal, yn enwedig at annwyd a pheswch. Byddai rhai yn ychwanegu mêl at y te.
Un arall yw cwmffri.
Enw arall arno yw llysiau'r cwlwm, ac roedd yn feddyginiaeth boblogaidd at friwiau a chlwyfau ac at straen, er enghraifft, pe bai rhywun wedi troi ei droed. Gellid clymu'r ddeilen am y clwyf neu'r straen, neu wneud powltis o'r dail.
Byddai pobl yn tyfu dau fath o fintys yn y gerddi erstalwm, sef y mintys gardd cyffredin at ddefnydd coginiol, a'r pupurfintys at ddefnydd meddyginiaethol. Roedd te pupurfintys yn cael ei gyfrif yn dda at annwyd ac at anhwylder ar y stumog.
Rydym hefyd wedi plannu coed ffrwythau megis cyraints duon, cyraints cochion a chyraints gwynion ynghyd ag eirin Mair neu gwsberins.
Mae ail ran yr ardd wedi'i neilltuo i lwyni traddodiadol a blodau gardd fwthyn. Plannwyd coed drops, rhosyn Saron, rhosod dringo a rhosod mwsg, blodyn tri lliw ar ddeg a chorswigen y gaeaf (viburnum). Rydym hefyd wedi plannu blodau hen ffasiwn megis balchder Llundain, sbectol nain, hocysen fendigaid, na'd fi'n angof, jinifflwârs, bys y blaidd, croes Caersalem a dahlia, a phenderfynwyd plannu eirlysiau a briallu gwyllt ar un o'r cloddiau pridd.
Cyflawnwyd yr holl waith gan dîm o wirfoddolwyr sy'n cyfarfod oddeutu unwaith y mis, neu'n amlach yn ystod yr haf.
Gobeithiwn y bydd yr ardd yn ychwanegu at fwynhad yr ymwelwyr â'r Ganolfan, ac y bydd hefyd yn gyfrwng i addysgu'r genhedlaeth iau am y defnydd meddyginiaethol a wneid o'r planhigion hyn a'r llên gwerin sy'n gysylltiedig â hwy.