91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Muse Hoff fand
Eu gwreiddioldeb a'u cyngherddau byw sy'n gwneud y grŵp Muse yn wych yn ôl Dan a Nemos o Ysgol Tywyn. Darllenwch ymlaen i weld pam eu bod yn cael eu hysbrydoli gan y band.
"Ni, Dan a Nemos o Ysgol Tywyn, yw dau o gefnogwyr mwyaf y grŵp roc Muse, a dyma pam:

Mae Muse yn grŵp sydd yn dod o lawer o lefydd ar draws Lloegr. Mae 'na dri aelod:

  • Matt Bellamy - gitâr, canu, piano - geni yn Rhydychen yn 1978
  • Chris Wolstenholme - bâs, canu - geni ym Manceinion yn 1978
  • Dominic Howard - drymiau - geni yn Rotherham yn 1977.Dechreuodd y band yn gynnar yn Ionawr 1994. Gofynnodd Bellamy i Wolstenholme os byddai eisiau chwarae bâs yn ei grŵp roc, Rocket Baby Dolls ac erbyn 4 Chwefror enillon nhw 'Battle of the Bands' lleol a newidion nhw eu henw i Muse.

    Ar Mai 8, 1998, ddaru Muse rhyddhau eu 'debut', o'r enw Muse EP ac yna ar 4 Hydref 1999, eu albwm gyntaf, Showbiz.

    Yna ddwy flynedd wedyn Origins of Symmetry ac yn Medi 2003, Absolution.

    Gyda'r albwm hwn cawsant eu lansio i'r byd a dod yn enwog yn yr UDA. Cyn hynny, yna pan yn America, roedden nhw'n chwarae i dyrfa o tua 30 o bobl tra yn Ewrop roedden nhw'n arfer chwarae i dorf o 200,000!

    Mae Muse wedi gwneud lot o ganeuon da, rhai sydd wedi mynd yn uchel iawn yn y siartiau ac wedi eu chwarae ar y radio. Sing for Absolution yw un o'r rhain a gyrhaeddodd rhif saith yn y siartiau.

    Maen nhw'n defnyddio offerynnau gwreiddiol i grŵp roc, fel cymysgu piano gyda gitâr, bâs a drymiau. Hefyd maen nhw'n defnyddio llawer o effeithiau i wneud sŵn i wneud i chi wrando mwy!

    Ond y peth gorau am Muse yw eu gigiau - maen nhw'n wych, gyda llawer o oleuadau llachar ac maen nhw'n perfformio yn arbennig o dda! Mae Matt yn gwneud llawer o symudiadau fel sleidio ar ei benliniau a neidio o gwmpas y llwyfan.

    'Mae'r llwyfannau yn rhy fach a mae ein 'egos' yn rhy fawr. Rhaid i ni dawelu pethau 'chydig!' meddai Matt Bellamy.

    Rŵan yn 2005 maen nhw'n dechrau meddwl am albwm rhif pump. Mae'r cefnogwyr yn disgwyl lot o'r grŵp ar ôl popeth maen nhw wedi gwneud. Gallwch chi ddisgwyl llwyth o bethau - mae popeth yn bosib gyda Muse."


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Adolygiadau


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý