"Brysia wir Ffion, Be ti'n neud?"
"Dod 'wan Dad!"
"Mi ddywedaist ti hynna hanner awr yn ôl, fyddi di'n methu'r trên."
Roedd Ffion yn anobeithiol am frysio yn y bore. Roedd hi'n ddigon anodd iddi hi i godi i fynd i'r ysgol mewn pryd, heb sôn am hanner awr wedi chwech ar fore Sadwrn pan ddeffrodd ei thad hi. O'r diwedd, ar ôl llowcio tamaid o dost roedd Ffion yn barod, ac yn teithio ar hyd y ffordd i ddal y trên.
"Pam wyt ti'n dreifio mor araf, fydda ni byth yno mewn pryd?"
"Wel nid arna i fydd y bai, y chdi oedd yn gwrthod codi."
Wedi rhuthro o'r car a charlamu i fyny'r grisiau ac ar hyd y platfform, y trên oedd yn hwyr! Cyn hir clywodd sgrech y trên yn arafu wrth gyrraedd yr orsaf, ffarweliodd Ffion a chamu'n gyflym arni cyn i'r trên symud yn araf ar ei thaith.
Cerddodd yn unig ar hyd ar hyd y trên yn chwilio am le i eistedd, aeth heibio hen hogiau gwirion yng nghefn y cerbyd ac aeth yn ei blaen, doedd na 'run sedd wag i'w gweld, ond yna gwelodd hen wraig yn eistedd ar ei phen ei hun - aeth Ffion tuag ati. Fel roedd y trên yn gadael yr orsaf gwelodd ei thad yn codi llaw arni a gwenodd hithau'n ôl arno.
"Esgusodwch fi ydi'r sedd yma'n wag?" gofynnodd Ffion yn nerfus.
"Ydi tad 'stedda di yna mechan i"
"Be 'di dy enw di?"
"Ffion, i lle da chi'n mynd?"
"O, i weld y ferch yn Llundain, ma'i newydd symud yno. Be' wyt ti'n da ar y trên 'ma ar dy ben dy hun?"
"Dwi'n mynd i aros efo Anti Elin, ma hi'n byw yn Llundain hefyd, mae hi am fynd a fi i weld sioe 'Lion King'"
"Braf iawn arnat ti wir"
Roedd hi'n heulog braf y tu allan ac roedd pawb ar y trên yn sgwrsio. Gallai Ffion deimlo'r awel ar ei wyneb yn dod trwy'r ffenest cyn i'r trên saethu drwy dwnel tywyll. Yn sydyn yn ddirybudd dyma'r golau i gyd yn diffodd, twrw brecs trên yn gwichian a phawb a phopeth yn chwirlio nes glanio'n bentwr yn bendramwnagl yng nghornel y cerbyd.
Allai Ffion weld dim, ond gallai glywed pawb yn sgrechian. Roedd y trên wedi stopio yng nghanol y twnel! Crynai Ffion fel jeli, curai ei chalon fel gordd, poenai y byddai hi yn gaeth yn y cerbyd am byth.
Teimlai pob munud fel awr a doedd dim arwydd o help a neb yn gwneud dim ond dal i sgrechian. Roedd hi'n dywyll fel bol buwch. Clywodd Ffion yr hen wraig wrth ei hochr yn crio.
"Be 'da ni'n mynd i wneud?" llefodd hi.
Cofiodd Ffion am ei ffôn symudol yn ei bag, ymlafniodd i'w roi ymlaen a daeth 'na lygedyn bach o oleuo cornel o'r trên. Yna cafodd pawb yr un syniad a daeth golau ar ffôn pawb yn llewyrch i oleuo'r holl drên. Arweiniodd Ffion yr hen wraig allan ac ar hyd y twnel i ddiogelwch golau dydd unwaith eto.
Roedd Ffion yn arwres ac wedi llwyddo i achub y dydd. Ymhen hir a hwyr cyrhaeddodd trên newydd i gludo'r teithwyr i ben eu taith.
Ar ôl cyrraedd ffarweliodd Ffion a'r hen wraig. Cafodd y ddwy benwythnos gwych yn Llundain er gwaetha'r ddamwain yn y twnel tywyll. Penderfynodd Ffion y tro nesaf y byddai hi'n ymweld â'i modryb byddai'n teithio mewn car!