Does dim llawer ers siom y genedl o fethu a llwyddo, o drwch blewyn, i fynd trwodd i rowndiau cyn derfynol Ewro 2004.
Fodd bynnag does dim llawer o amser i bori dros y peth, oherwydd mae hi'n amser meddwl am Gwpan y Byd 2006. Does dim llawer o amser ers i grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd gael eu cyhoeddi. Roedd Mark Hughes wrth ei fodd wrth glywed y canlyniad fod Cymru mewn grŵp diddorol iawn. Ie, Lloegr yw'r prif elyn, 'dyw'r ddwy wlad heb gyfarfod mewn gêm o bêl-droed ers 1983! Bydd Cymru yn gobeithio i adeiladu ar y gêm yno gan mai y nhw enillodd!
Byddai Mark Hughes yn cofio'r gêm yna cystal â neb gan mai fo sgoriodd unig gôl y gêm, efallai ddim y mwyaf rhagorol o'i yrfa ond yn sicr un o'r pwysicaf. Dyma sut mae grŵp 6 yn edrych:
AzerbaijanGogledd IwerddonCymruGwlad PŵylAwstriaLloegr
Dyna'r timoedd ond beth mae'r cyhoedd yn credu? Dyma beth fydd cyfartaledd y canlyniad yn y diwedd yng ngrŵp 6: Cymru, Lloegr, Gwlad Pŵyl, Awstria, Gogledd Iwerddon, AzerbaijanDim ond amser all benderfynu dyfodol Cymru.
Sôn am amser, y tro diwethaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd oedd nôl yn 1958.
Mae gobeithion y bwcis yn isel i Gymru fynd trwadd, dim ond gobeithio allwn ni eu bod nhw yn anghywir!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |