91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sinema Tystysgrifau ffilm - ia ta na?
Oes yna werth rhoi tystysgrifau ar ffilmiau i wahardd pobl ifanc rhag eu gweld? Dyma farn Rachel, Gwen, Wendy a Manon o Ysgol David Hughes.

Ydych chi erioed wedi cael eich gwrthod rhag mynd i mewn i ffilm gyda thystysgrif pymtheg neu fwy?

Rydym ni am sôn am eich hawliau chi a'r gyfraith.

Felly, beth ydych chi'n ei feddwl? Ydi o'n iawn cael tystysgrifau ar ffilmiau, neu ddylai ffilmiau heddiw fod i bawb?

Dyma stori Gwen pan aeth hi i weld ffilm ar gyfer pobl dros 15:

"Pan oeddwn i yn 11 es i weld film, Ali G in da House (sydd yn ffilm i bobl dros 15). Gwisgais glustdlysau cylch, jîns a top Nike.

"Edrychodd y ddynes ticed arnaf, roeddwn yn gallu dweud fod hi ddim yn siŵr am fy oedran. Ond cadwais wyneb syth. Dywedodd hi ddim er dwi'n amau fod hi ddim wedi ei pherswadio, ond holodd hi ddim a gadawodd fi i fewn.

"Roeddwn wedi cael sioc fod hi heb ofyn fy nyddiad geni hyd yn oed, ond doeddwn i ddim yn cwyno!"

Be ydi pwrpas rhoi tystysgrif oedran ar ffilmiau felly? Pwy sy'n cymryd sylw ohonyn nhw?

Fe benderfynon ni fel criw fod yna ddim pwynt iddo oherwydd mae hogan 12 oed yn medru cael i fewn. Dyma ei stori hi:

American Pie 2Pan roedd Tara yn 12 cafodd hi fewn i weld American Pie 2, er ei bod hi o dan oed.

Roedd hi wedi gwneud ei gwallt ac yn edrych yn hÅ·n gyda'r colur roedd hi yn ei wisgo. Gofynodd ei ffrind am diced yn gyntaf heb ddim problem. Ei thwrn hi oedd nesaf, cadwodd wyneb syth a chafodd ei thiced heb ddim problem.

Doedd gan y cwmni sinema ddim clem ei bod hi o dan oed.!

Holiadur
Dyma'r canlyniadau gawson ni pan ofynnon i 15 merch ac 15 hogyn o dan 15 ar ei barn nhw am dystysgrifau ffilmiau i bobl dros 15 neu 18:

  • Roedd 73% o'r genod a 60% o'r hogiau wedi rhentu ffilm gyda tystysgrif 15 oed neu drosodd, heb fod oedolyn yn bresennol.
  • Roedd y genod i gyd wedi gwylio ffilm dros ei hoedran nhw mewn sinema.
  • Roedd 73% o'r hogiau wedi methu cael i fewn i'r sinema i weld ffilm dros eu hoedran.
  • Roedd 80% o'r hogiau a 77% o'r genod yn meddwl bod hi'n deg rhoi tystysgrif ar ffilmiau.

  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý