91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Disbyglion ysgol Cyffuriau yn yr ysgol
Dyma Katie a Beth o Ysgol David Hughes yn trafod y pwnc llosg - a ddylid profi disgyblion am gyffuriau yn yr ysgol?


Beth yw eich barn am brofion cyffuriau mewn ysgolion?

Ceisiom ni weld beth sydd yn digwydd heddiw mewn ysgolion yng Nghymru a chymharu gydag ysgolion sydd yn eu defnyddio yn barod.

Mae rhai ysgolion yn America yn defnyddio profion cyffuriau. Ond ydyn nhw wedi mynd tipyn dros ben llestri? Mae plant bach mewn ysgolion meithrin o dan bump oed hyd yn oed yn cael eu profi!

Barn yr athrawon
Gofynnom ni i rai o'r athrawon yn ein ysgol beth oedden nhw yn ei feddwl am brofion cyffuriau mewn ysgolion. Roedd rhan fwyaf o'r athrawon yn erbyn profion cyffuriau mewn ysgolion achos roedden nhw'n dweud eu bod nhw yn labelu pobl, yn gallu creu awyrgylch amheus rhwng disgyblion ac athrawon - a pwy sydd yn mynd i dalu amdanynt?

Gofynnom ni hefyd i'r prifathro Dr Brian Jones i weld beth oedd ganddo ef i'w ddweud.

Dywedodd ei fod o "ddim o blaid achos roedd yn torri hawliau unigolion."

Ar y funud y gosb yn Ysgol David Hughes os ydych yn cael eich dal yn defnyddio cyffuriau yw cael eich gwahardd am gyfnod, cysylltu â'ch rhieni a mynd ar ôl gwasanaeth helpu cyffuriau.

Os ydych chi'n cael eich dal yn gwerthu cyffuriau fyddwch yn cael gwaharddiad parhaol.

Mae'r prifathro yn credu nad ydy tynnu pobl allan o'r ysgol yn datrys y broblem a mae rhoi help yn bwysicach na chosb. Dydy'r prifathro ddim yn meddwl bod yna fwy o broblem cyffuriau yn yr ysgol yma nag mewn unrhyw ysgol arall.

Mae o'n credu fod yna broblem yn y gymdeithas efallai sydd weithiau yn gallu dod i mewn i'r ysgol. Dywed fod hyn yn rhywbeth eitha cyffredin yn y gymdeithas.

Y Gyfraith
Ers amser, mae'r gyfraith wedi sôn am gyflwyno profion cyffuriau i blant mewn ysgol uwchradd dros Prydain Fawr. Nid ydynt wedi penderfynu eto beth maent am wneud am y broblem felly edrychwch allan am adroddiadau ar y newyddion.

Rydym eisiau clywed eich barn chi am y broblem - ydych yn adnabod unrhyw ysgolion sydd yn gwneud profion cyffuriau yn barod?


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý