Porsche Carrera GT Mae'r Porsche Carrera GT yn un o'r ceir cyflyma fedrwch eu gyrru ar lonydd Prydain. Y Porsche Carrera GT oedd y car cyflymaf rownd trac Top Gear, gyda'r Mercedes SLR yn ail. Cafodd y car ei greu fel car Le Mans i Porsche i gychwyn, wedyn yn y flwyddyn 2000 dechreuodd Porsche droi y car i fewn i gar delfrydol. Mae'n gar andros o gyflym gydag injan v10 sy'n cyrraedd 205 milltir yr awr. Mae'n wir i ddweud bod y Porsche Carrera GT yn un o'r ceir gorau a chyflymaf ar y ddaear ar hyn o bryd. ![Bentley Hunaudières](/staticarchive/e532fd25597310cdf048e8b6a3e4d89e6b6e3f20.jpg) Bentley Hunaudières Ymddangosodd y car pwerus yma am y tro cyntaf yn sioe modur Geneva yn 1999, i syndod y cyhoedd a'r wasg. Yr Hunaudières yw'r car cyntaf i ddangos effaith perchnogaeth Volkswagen ar y cwmni enwog Prydeinig. I ddweud y gwir, roedd y syniad yn bodoli cyn i VW cymryd drosodd Bentley, ond cafodd y syniad ei dderbyn gan y cadeirydd, Ferdinand Piech, ŵyr i Ferdinand Porsche. Pan oedd yn gweithio i'r cwmni teuluol, creodd y 917, y car a enillodd i Porsche eu ras Le Mans cyntaf yn 1970. Crëwyd yr Hunaudières gan beirianwyr Prydeinig ac Almaeneg yn ffatri 'prototype' VW yn Wolfsburg. Cymerodd y crëwyr agweddau o'r Lamborghini Diablo. Prynodd VW y cwmni yma yn 1998. Yng nghalon y coupè mae injan canolig 8 litr, 623 bhp V16, gyda dim llai na 64 falf. Mae'r car yn symud i ffwrdd o confensiwn, ac yn lle 2 rhes o 8 cilindr, mae yna blociau o bedwar wedi eu paru. Mae'r trefniant yma yn gwneud i'r injan fod mor gryno a V8. Mae gerbocs awtomatig 5 cyflymder yn cael ei ddefnyddio. Mae'r tu mewn yn cynnwys lledr ac alwminiwn sy'n adlais o'r 1920au. A'r enw anghyffredin? Mae'n dod o'r rhan syth ar y trac Le Mans, lle ennillodd y Bentleys mawr gwyrdd yn 1924 ac yn olynol o 1927 i 1931. Allai hanes ailadrodd ei hun? Mae'r car wedi ei orffen mewn lliw rasio gwyrdd...
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |