"Mae TÅ· Newydd Sarn wedi cael enw fel un o lefydd gorau gogledd orllewin Cymru i weld bandiau byw. Dydi'r dafarn sydd ynghanol Pen LlÅ·n ddim yn edrych yn wahanol i unrhyw dafarn arall yng nghefn gwlad Cymru, ond y tu mewn ceir noson o gerddoriaeth Gymraeg ar ei gorau.
Wedi gyrru ar hyd y lonydd troellog tu hwnt i Bwllheli roedd gweld Tŷ Newydd yn olwg cysurlon. Roedd criw o ddynion wedi ymgynnull wrth y drws a chefais wên fawr gan un oedd yn edrych yn chwil a dweud y lleiaf! Y tu mewn roedd y lle yn llawn pobl yn dathlu ac yn groesawus iawn i'r ddau ddiethryn. Er i'r noson ddechrau ychydig yn hwyr roedd pawb yn ddigon hapus yn sgwrsio a mwynhau'r parti pen-blwydd oedd yn digwydd yno.
Mewn chwinc roedd aelod o'r staff yn bloeddio fod y band cyntaf am ddechrau. Diflanodd pawb, gan gynnwys finnau, i mewn i'r ystafell gefn i sŵn offerynau BOB. Mae'r band ifanc yma yn dechrau cael ei ystyried fel un o'r bandiau gorau sydd wedi dod ar y sîn yn ddiweddar drwy eu cerddoriaeth roc caled sydd yn ffinio ar punk. Uchafbwynt eu perfformaid oedd y sengl gafaelgar a hwyliog 'Defaid' - roeddwn i'n dal i ganu'r gytgan wrth yrru am adref! Er nad oedd ymateb y dorf yn arbennig, doedd hynny ddim yn lleihau egni'r band. Wedi dweud hynny hoffwn i fod wedi gweld mymryn mwy o rocio ar y llwyfan gan rai o'r aelodau.
I'r rheini ohonon ni oedd wedi eistedd yng nghongl bellaf yr ystafell, roedd seibiant bach rhwng y ddau fand yn braf. Ar ol peint sydyn roedd Twm Colt, Edgar Sgarled a Dei Morlo wedi cyrraedd ar eu ceffylau dychmygol o Fotwnnog ac yn barod ar y lwyfan. Mae hillbilly punk Cowbois Rhos Botwnnog wedi cael llwyth o sylw yn ddiweddar, yn enwedig am eu perfformiadau byw; ac nid oedd y noson yma'n siom. O'r dechrau roedd pobl yn dawnsio i gerddoriaeth nodweddiadol Cowbois Rhos Botwnnog. Mae'n anodd peidio eistedd yn eich unfan pan fo caneuon fel 'Y Moch' a 'Cadfridog Cariad' yn chwarae. Drwy'r ystafell roedd pobl o bob oedran yn nodio eu pennau i bob curiad y drwm ac roedd y rhan fwyaf o'r dorf yn canu'r geiriau i ffefrynnau fel 'Musus Glaw'. Roedd hi'n noson llawn hwyl, diod, dawnsio a cherddoriaeth at ddant pawb.
Mae'n anhygoel meddwl fod y band yma wedi gwneud eu perfformiad cyntaf ychydig dros flwyddyn yn ôl oherwydd safon uchel eu perfformaid. Mae'n glir fod y band yma yn dechrau ar daith wefreiddiol ym myd roc a phop Cymru ac mae ganddynt ddigon o gefnogwyr i'w dilyn ar eu taith i'r brig." Angharad Williams Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|