91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sbwriel yn gorlifo o fin Sbwriel!
Ers symud n么l i gefn gwlad Cymru ar 么l byw yn America mae Paula Stoddard-Jones, sydd wedi ymgartrefu ger Llanddeusant, M么n, wedi synnu at ein hagwedd ddi-hid ni tuag at sbwriel.
"Tri pheth dwi'n cas谩u - dynion yn gwisgo sanau gwyn hefo trwsus du - ofnadwy! Ysmygwyr - pam fuasai rhywun yn gwneud hynna i'w corff? Iach! Ac, yn gyfartal hefo'r ysmygu fuaswn i'n ei ddweud, mae 'sbwriel! IACH A FI!

"Y flwyddyn ddiwethaf symudom yn 么l i Gymru ar 么l byw yn yr Unol Daleithiau am bron i chwe mlynedd. Ardal wledig ar Ynys M么n, Llanfigael, ddewisom fel ein cartref, ac roeddwn wrth fy modd yn dadbacio ar 么l i'r container ddod 芒 gadael ein dodrefn a'r sothach i gyd.

"Y peth oeddwn yn ysu am ei wneud oedd mynd am dro. Roeddwn wedi hiraethu am Gymru yn ddifrifol pan oeddwn i ffwrdd, a gan fy mod yn ferch y werin, o Fryn-Rhyd-yr-Arian yn wreiddiol, roeddwn wedi colli cerdded trwy'r wlad werdd, brydferth.

"Felly - setio allan i ddarganfod fy ardal newydd! Cot drwchus, yr oerni yn mynd yn syth trwyddaf - wel mi oeddwn wedi bod yn byw yn Nghaliffornia, a hithau'n braf trwy gydol y flwyddyn!

"Wedi troedio rhyw ganllath, sylweddolais nad oeddwn i ddim yn medru mynd gam ymhellach. Na, doedd na ddim coeden wedi disgyn i'r ffordd, neu ddamwain wedi fy atal, ond roedd 'sbwriel wedi ei ollwng ym mhobman!! Dydw i ddim yn jocio! Roedd na boteli Lucozade, pacedi creision, caniau diod, popeth o Facdonalds i nodwyddau a thaclau sydd yn cael eu defnyddio i gymryd cyffuriau.

"Roeddwn i wir wedi siomi, sut oedd un o'r llefydd mwyaf prydferth yn y byd yn medru cael ei gam-drin fel hyn?

Paula Stoddard-Jones "Cerddais adref ar fy union a n么l bag plastig a menig a dechrau hel y 'golwg' 'ma. Ar 么l rhyw ugain munud a dim ond wedi mynd hanner canllath, roedd gennyf fag gorlawn ac roedd yn rhaid i mi ddychwelyd adref.

"Ers y diwrnod hwnnw, yr wyf wedi bod yn mynd allan bob yn ail wythnos i hel ysbwriel o gwmpas ein hardal. Mae na gr诺p bach o blant sydd yn dod i'n helpu ac maen nhw wrth eu boddau hefo litter pickers ac yn hel llond bag. Fedra i ddim mynd am dro bellach heb fynd 芒 bag plastig hefo fi!

"Dyma mor ddrwg ydi'r sefyllfa: un p'nawn dyma ni'n cerdded o'n nh欧 i Felin Llynnon, lai na milltir i ffwrdd, ac roeddem wedi hel tri bag seis anferthol, llawn 'sbwriel, a hyn hefo ni'n mynd allan i hel yn y cyfamser hefyd!

"Mae hyn yn fy mhoeni go iawn - be mae pobl sydd yn dod i'n hynys brydferth yn meddwl ohonom? Mae'n amlwg nad oes dim parch at ein hardal. Dwi'n gweld ceir yn mynd heibio a phaced o sigar茅ts yn cael ei luchio allan, a phapur newydd (ia, papur newydd! Mae'n rhaid nad oedd y newyddion 'di plesio'r diwrnod yna!).

"Un tro roeddwn wrthi'n hel, a stopiodd un ddynes i siarad. Gofynnodd beth oeddwn yn ei wneud, (roeddwn yn meddwl ei bod yn reit amlwg i fod yn onest!). Ar 么l i mi ateb dywedodd, 'Well I suppose it gives you something to do!' Mae'n rhaid dweud fy mod yn teimlo'n agos iawn i'w hateb gyda chlip rownd y glust i ddechrau!

"Pan oeddwn yn byw yn yr Awstria a'r Almaen yn fy arddegau, roeddwn wedi dotio hefo pa mor daclus oedd y lle. Yr un peth yng Nghaliffornia - neb yn meddwl gollwng dim byd.

"Mae rhai pobl yn dweud bod rhaid i'r Cyngor wneud mwy, ond dwi ddim yn meddwl fod gan y cyfrifoldeb ddim byd i'w wneud hefo nhw. Gan ein bod yn rhannu'r wlad yma hefo'n gilydd, mae'n rhaid dysgu plant i barchu ein gwlad. Dydw i ddim wedi gweld dim llawer o hysbysebion yn dweud wrthym am beidio lluchio sbwriel. Mae'r cyfrifoldeb yn gorfod dechrau hefo ni.

"Pan oeddwn yn blentyn, roeddem yn mynd i lawr i Ddyfnant ar ein gwyliau, ac wrth i ni gerdded o gwmpas roedd fy nhad yn codi sbwriel a mynd a'i roi yn y bin. Dwi'n cofio teimlo braidd yn chwithig, yn embarrassed. Dyma fi'n gofyn iddo pam roedd o'n gwneud hyn, a'i ymateb oedd, 'Because someone has to'."

Paula Stoddard-Jones, Llanfigael, Ynys M么n .

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy