"Mae'n amlwg o edrych yn ôl ar berfformiadau byw yr haf yma fod cerddoriaeth gyffrous yn fyw ac yn iach yn fy ardal.
Yn ddiweddar cefais y fraint o weld tri band eithaf newydd, ac mae dyfodol disglair ar y gorwel i bob un ohonynt.
Pan gyrhaeddais DÅ· Newydd roedd y dafarn yn orlawn, ac aelodau o fandiau eraill ymhlith y gynulleidfa gyffrous. Roedd yr awyrgylch yn groesawgar ac roedd naws parti yn Sarn wrth i bobl drafod y perfformiadau i ddod.
Daeth y dorf ynghyd yn y bar cefn lle roedd Pwsi Meri Mew ar fin dechrau. Cychwynnodd y noson yn arbennig gyda'u set acwstig. Roedd y dorf yn amlwg yn mwynhau pan gododd sawl un ar eu traed i ddawnsio. Hwn oedd y tro cyntaf i mi weld Pwsi Meri Mew a, chyda melodica yn cael ei chwarae mewn gig byw, 'dw i'n gobeithio gweld llawer mwy! Cawsom wledd o ffync gan y band yn ogystal, gyda chaneuon fel 'Y Gnawas'.
Roedd y band nesaf yn paratoi a cherddoriaeth yn parhau yn y cefndir. Bydd llawer o bobl eisoes yn adnabod aelodau Y Rei; Aron Elias, gynt o Pep le Pew ac aelodau Gola Ola, Alex a Rich.
Yn llawn egni a hyder, agorodd y band eu set gyda 'Misirlu', Pulp Fiction a chydiasant yn y dorf gyda rhai o'u caneuon gorau, gan gynnwys fy ffefryn 'Hogan Ddrwg'.
Roedd pawb yn mwynhau eu caneuon - 'Mitsubishi' a 'Psychoprydferth' yn enwedig.
Roedd eu roc egnïol yn plesio'r gynulleidfa a dweud y lleiaf, ac roedd unawd gitâr Aron yn anhygoel, heb sôn am adael y llwyfan gydag un o draciau James Brown.
Mae Y Rei yn mynd o nerth i nerth a 'dw i'n rhagweld dyfodol disglair (ar sail y noson yma'n unig) i'r band unigryw hwn sydd wir yn fy nghyffwrdd.
Roedd gan Derwyddon Dr Gonzo waith i'w wneud os am ddilyn Y Rei. Dw i wedi clywed peth wmbrath am y band ifanc yma o ardal Llanrug, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Ond roedd hi'n amlwg fod llawer o'r dorf wedi dod yn arbennig i'w gweld.
Daeth Brasil i Sarn drwy samba trawiadol Derwyddon Dr Gonzo a'r llwyfan yn orlawn gyda chymaint o aelodau. Ymunodd aelodau meddw o'r gynulleidfa gyda nhw hefyd.
Daeth yr MCs i'r meic yn ystod y gân 'Talwrn y Beirdd' ar ffurf Mr Phormula ac Aron Elias, a rhaid i mi ddweud fy mod i wedi eu mwynhau yn fawr.
Roedd hi'n noson lwyddiannus dros ben gyda pherfformiadau rhyfeddol a gwahanol gan bob band. Roedd y noson arbennig hon o frodorion cerddorol Gwynedd yn llawn egni a mwynhad. Dw i'n falch fy mod yn dod o ardal mor dalentog."
Angharad Dubheasa, Penrhyndeudraeth
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.