"Pwysa hiraeth yn drwm arnaf pan na fyddaf ym mro fy mebyd. Fy mharadwys ydi bod yn nghysgod gwarchodol mynyddoedd Uwchaled.
Bydd cysgod y Foel Goch yn dal ei chrafangau yn gryf amdanaf. Ni derfydd fy hiraeth am Llangwm.
Pan droediwch tua Llangwm, rhaid crwydro mynyddoedd hynafol y fro i sylweddoli gwir harddwch yr ardal. Cewch eich syfrdanu gan las y meysydd, a'r ffriddoedd gwastad sy'n gartref i fywyd gwyllt o bob lliw a llun.
Nid yw'r gog na'r wiwer goch yn ddieithriaid yma, mae'r bwrlwm yn gyson a'r amrywiaeth yn ddiddiwedd. Yn ddyddiol gwelwch adar yn nythu a'r dylluan wen yn hofran yn hamddenol o gwmpas ysguboriau'r ardal.
Celfyddyd yw gwaith y waliau a wnaed gan ddwylo medrus fy nhad, fy nhaid a fy hen deidiau, yn warchodlys o amgylch y ffermydd a a gâi eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf. Maent yn llinell amser. Yn dreigl o hanesion, a'r plygion ar wyneb y creigiau yn archifdy o hanes.
Plethwaith o dir mynyddig a chreigiog a welwch wrth ymweld â phentref bach yn nghanol muriau cartrefol y cwm. Gwledig iawn yw'r ardal a'r ffermwyr yn troedio'r tir yn ddyddiol yn didoli eu defaid.
Fe sylwch ar hen enwau trawiadol sydd i'r ffermydd yn agor llyfr hanes eu hunain megis Bryn Owen, Tyddyn Eli, Ystrad Bach lle cewch y graen tir gorau a welwch erioed. Gwena'r haul dros y cwm, boed hi'n wynt neu'n law, rhew neu'n eira.
Wrth grwydro'r cefnffyrdd a'r llwybrau defaid troellog sylwer ar y natur a'r fraint o fyw yn y wlad. Wrth synfyfyrio drwy'r pentref mae un bocs teliffon unig yn sefyll yn stond wrth y bont gadarn, lle y bu erioed. Pentref twt iawn ydyw, y lloer yn ariannu lli a tincl yr afon yn canu yn y cwm. Ceir awel dirion yn swyno hen atgofion o'r hen Eglwys, sydd nawr ond yn llun ar gerdyn post. Cewch eich swyno gan gân yr adar fel miwsig clychau. Er fod Hydref yn brysur ffarwelio mae dal mwyar ar y llwyni, cnau yn eu cyll, ac er bod hwyr ddyddiau yn nosi, mae hi bob amser yn glir fel crisial yn y bore.
Saif rhai murddunnod unig ac ysbrydol yn nghysgod du'r melinau gwynt.
Sylwch ar y dail yn murmur yn yr awel yn nghesail y moelydd unig a'r llechweddau'n myned tua'r nefoedd. Paradwys hedd ydi Llangwm. Mae'r harddwch a'r heddwch bob amser yn gyfoethog yma." Iona Davies, Corwen Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|