"Roedd hi'n ddiwrnod i'r brenin gyda'r haul yn tywynnu ar gae pêl-droed Llangernyw ar ddydd Sadwrn 3ydd o Fehefin a chynulleidfa deilwng wedi ymgasglu i wylio gêm bêl-droed arbennig iawn.
Ond roedd hi'n 'ddiwrnod i'r brenin' mewn ystyr mwy llythrennol hefyd wrth i chwaraewyr Bro Cernyw o'r presennol a'r gorffennol ddod ynghyd i ddathlu ymddeoliad brenin diamheuol pêl-droed yr ardal.
Prin fod angen i mi ei enwi, ond Euryn Williams yw'r gŵr dan sylw wrth gwrs, neu Euryn Tŷ'r Ysgol i drigolion Gwytherin a Sparki i nifer o'i ffrindiau. Mae Euryn wedi chwarae i CPD Bro Cernyw er ffurfio'r clwb ym 1990, a dros y 16 tymor wedi llwyddo i rwydo 683 o goliau - ystadegau a fyddai'n siŵr o synnu hyd oed y rheini heb unrhyw ddiddordeb yn y gêm. Mae'n anodd pwysleisio pa mor bwysig mae Euryn wedi bod yn hanes y clwb a gymaint o ddylanwad mae wedi cael ar yr holl hogia ifanc (a hen!) sydd wedi chwarae i Fro Cernyw dros y blynyddoedd.
Doedd dim syndod felly fod gymaint o gyn-chwaraewyr wedi dod allan o ymddeoliad i chwarae un gêm arall fel teyrnged i'r prif sgoriwr.
I fod yn onest, roedd llawer o gymeriadau chwedlonol ymysg y rhai oedd yn nhîm y gorffennol - Dyfrig a Cernyw Howatson, Jac Bryniog, Dwyfor Roberts, a Geraint Nanerth yn eu mysg. Roedd nifer o hogia ffyddlon yn y tîm presennol hefyd gyda Rhys a Bryn Griffiths, Trystan Williams, Sion Jones a Michael Evans yn chwarae i Fro Cernyw ers blynyddoedd bellach. Gyda Toni Schiavone yn derbyn y dasg o gadw trefn ar y cyfan, roedd yn argoeli i fod yn gêm a hanner a ni chafodd y gynulleidfa fawr mo'i siomi.
Gydag Euryn yn penderfynu chwarae iddyn nhw, dechreuodd tîm y gorffennol ar dân, ond wedi chwarter awr galed a cholli Dwyfor i anaf roedd yn amlwg eu bod yn blino. Nid oedd yn syndod felly gweld Trystan Williams yn rhoi'r tîm ifanc ar y blaen, er gwaethaf awgrym o gamsefyll a dadlau chwyrn Aled Tŷ Capal!
Yn fuan iawn wedyn sgoriodd tîm y presennol eu hail gôl trwy Rhys Griffiths. Gyda hyn, penderfynodd y tîm hŷn ei bod yn bryd manteisio ar y rolling subs a gwneud newidiadau, a rhoddodd hyn hwb iddynt. Daeth eiliad fawr Euryn tua hanner awr mewn i'r gêm wrth iddo fanteisio ar gyfathrebu gwael yn yr amddiffyn a rhwydo gyda'i hyder nodweddiadol, er i Mic Evans wneud ei orau i gadw'r bêl allan ar y llinell. Ond, byr iawn oedd yr adfywiad wrth i'r tîm ifanc orffen yr hanner gyda thrydedd gôl diolch i Rhys 'Des' Davies.
Gwelwyd llawer o newidiadau i'r ddau dîm ar yr egwyl ac arweiniodd hynny at ail hanner llawer mwy tynn gyda'r chwarae'n llifo o un pen i'r llall. Os rhywbeth, roedd y cyn-chwaraewyr i'w gweld yn cael y gorau o'r chwarae a gorfodwyd y golwr, Charlie Jones, i wneud sawl arbediad da - wedi dweud hynny, efallai fod y modd roedd nifer chwaraewr y tîm profiadol yn ymddangos i ymestyn wrth i'r gêm fynd ymlaen yn ffactor!
Roedd hyn i gyd yn rhan o'r hwyl wrth gwrs, ac erbyn y diwedd roedd gan y ddau dîm 15 dyn yr un ar y cae. Wrth gwrs, roedd rhaid i'r gair olaf fynd i Euryn a daeth cyfle pan ddyfarnwyd cic o'r smotyn yn y funud olaf, ac nid oedd y sgoriwr profiadol yn mynd i wastraffu'r cyfle gan gladdu'r bêl yng nghornel y rhwyd. Nid oedd yn syndod clywed y chwiban olaf gyda hyn, y tîm presennol yn fuddugol o 3-2.
Felly dyna ddiweddglo arbennig o addas i gêm a hanner a fydd yn byw'n hir yng nghof cefnogwyr a chwaraewyr Bro Cernyw, a gêm sy'n sicr o barhau'n glir yng nghof pêl-droediwr gorau'r ardal.
Fel un arwydd arall o deyrnged, safodd chwaraewyr y ddau dîm gyferbyn â'i gilydd i greu twnnel gan gymeradwyo'r arwr wrth iddo adael y cae. Doedd dim ar ôl felly ond mynd draw i Dafarn y Bont am lymaid haeddiannol a chyflwyno ambell i anrheg i Euryn am ei wasanaeth.
Heb os roedd y gêm yn ddigwyddiad addas iawn i dalu teyrnged i'r chwaraewr gorau welodd Bro Cernyw erioed, ac efallai yn fwy na dim yn gyfle i'w gydchwaraewyr ddweud diolch am y pleser o gael chwarae yn yr un tîm ag ef. Diolch Euryn."
Owain Schiavone
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.