91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Faenol

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Faenol
Yr arlwy ar deledu a radio
Bydd y 91Èȱ¬ yn darlledu rhannau helaeth o'r ŵyl ar deledu a radio eleni.
DYLAN A MEINIR O'R FAENOL
Dydd Llun, Awst 28, 91Èȱ¬ Radio Cymru, 2.45pm
TÂN Y DDRAIG
Dydd Llun, Awst 28, 91Èȱ¬ Radio Cymru, 8pm
bbc.co.uk/radiocymru
  • Gwrando'n fyw

  • Mae cyngerdd Tân y Ddraig wedi hen ennill ei blwyf fel finale cyffrous i Å´yl y Faenol, a dyw eleni yn ddim gwahanol. Ond yr hyn sydd yn wahanol yw y bydd 91Èȱ¬ Cymru yn darlledu'r cyngerdd yn fyw yn ei holl gyffro, ar 91Èȱ¬ Radio Cymru ac ar y we, am y tro cyntaf erioed.

    Ac am y tro cyntaf hefyd bydd Radio Cymru yn darlledu yn y prynhawn, er mwyn cyfleu holl gynnwrf a phrysurdeb y paratoi.

    Yn Dylan a Meinir o'r Faenol (Llun, Awst 28) bydd Dylan Wyn a Meinir Gwilym yn crwydro'r safle yn y Faenol gan ddod â holl fwrlwm y paratoi. Mi fydd y ddau yn rhoi cip y tu ôl y llwyfan i weld beth sy'n mynd ymlaen wrth i'r llwyfan ei hun gael ei wisgo a'r perfformwyr ymarfer. Bydd y ddau hefyd yn cael sgwrs â'r rhai awyddus hynny fydd yn siwr o fod yn ciwio yn barod i gael safle da, ac yn dal hwyl yr achlysur wrth i bawb edrych ymlaen am wledd y nos.

    Y bandiau a fydd wrthi yn y cyngerdd yw Anweledig, The Proclaimers, Huw Jones a'r Band, Elin Fflur a'r Band, Dyfrig Evans a Nathan Williams a'r Band, a bydd Radio Cymru yn darlledu'r cyngerdd yn fyw am y tro cyntaf erioed, o 8pm ymlaen, ar yr orsaf ac ar y we.

    I wneud yn siwr bod y gwrandawyr yn cael gwledd ddi-baid, mae Radio Cymru wedi trefnu setiau acwstig arbennig a fydd yn cael eu cynnal rhwng y prif berfformwyr, fel na fydd oedi gwag rhwng yr perfformiadau, ond yn hytrach wledd ddi-dor, ddi-baid o oreuon cerddorol Cymru.

    Bydd y setiau acwstig yn cynnwys Mim Twm Llai, Dan Amor, Meinir Gwilym a Gwyneth Glyn.

    I wrando trwy'r wefan, ewch i bbc.co.uk/radiocymru

    SIAN PARI HUWS FOR JAMIE OWEN
    Dydd Llun Gŵyl y Banc, Awst 28, 91Èȱ¬ Radio Wales, 11am
    Mae 91Èȱ¬ Radio Wales hefyd yn rhannu rhannau gorau'r ŵyl eleni gyda'i gwrandawyr. Ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, bydd Siân Pari Huws yn eistedd yn sedd boreol Jamie Owen, i ddod â'r sioe yn fyw o'r Faenol.

    IN CONCERT SPECIAL
    Dydd Llun Gŵyl y Banc, Awst 28, 91Èȱ¬ Radio Wales, 8pm
    Yna am 8pm, bydd 91Èȱ¬ Radio Wales yn darlledu In Concert Special gyda'r cantorion o'r Alban The Proclaimers. Bydd y cantorion gwerin, sy'n fwyaf adnabyddus am ganeuon stompiog fel Letter From America ac I'm Gonna Be (500 Miles) - yn perfformio yn noson Tân y Ddraig wedi haf o ymddangosiadau byw mewn gwyliau fel Isle of Wight Festival a T In The Park.

    SHIRLEY BASSEY AT FAENOL
    Dydd Mercher, Awst 30, 91Èȱ¬ One Wales, 9pm
    Bydd diva Cymru, y Foneddiges Shirley Bassey yn tanio'r llwyfan mewn cawod o sequins sbarcli yn sbloets awyr agored Bryn Terfel yn ngŵyl y Faenol.

    A bydd camerâu 91Èȱ¬ Cymru yno i ddal pob eiliad o gyngerdd cyntaf y ferch o Tiger Bay yng ngogledd Cymru ers ei pherfformiad yng ngala Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn 2003.

    Yn Shirley Bassey at Faenol bydd Shirley yn perfformio nifer o'i chaneuon enwocaf dros bum degawd ar frig y diwydiant cerddoriaeth yn ei steil ddihafal ei hun.

    Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn troi'r sŵn i fyny a'r golau i lawr wrth i ddiva enwoca'r byd eich llorio gyda Goldfinger, Diamonds Are Forever, I (Who Have Nothing) Big Spender ynghanol prydferthwch stâd y Faenol.

    TÂN Y DDRAIG
    Nos Sadwrn, 2 Medi, 7.50pm, S4C
    Mae elfen gref o nostalgia yn perthyn i gyngerdd Tân y Ddraig, y noson sy'n cloi Gŵyl y Faenol bob blwyddyn.

    Eleni, y canwr fydd yn ein tywys yn ôl i ddyddiau da'r 1970au fydd cyn Brif Weithredwr S4C, Huw Jones, a bydd cyfle i fwynhau perfformiad Huw a gweddill sêr Tân y Ddraig eleni mewn rhaglen uchafbwyntiau arbennig nos Sadwrn ar S4C.

    Cyfaddefa Huw, oedd yn ganwr poblogaidd yn y 1960au a'r 1970au cynnar, ei fod yn teimlo'n nerfus wrth feddwl am gamu i'r llwyfan ar y noson.

    "Pan dderbyniais y gwahoddiad wnes i fethu â meddwl am esgus ddigon da i wrthod y cynnig, ac yr un pryd, rhywsut, roedd o i'w weld yn syniad da! Mi roedd 'na apêl hefyd yn y syniad o chwarae gyda band. O'r blaen ro'n i'n llwyr ddibynnol ar fy ngitâr fy hun ac mae hwnnw allan o bractis erbyn hyn!"

    Mi wnaeth Huw roi'r gorau i ganu'n gyhoeddus dros 30 mlynedd yn ôl, ym 1975. Roedd yn hynod o brysur yn dilyn sefydlu'r cwmni recordiau Sain. "Mi ro'n i'n rhoi fy egni creadigol i mewn i'r cwmni ac mi wnes i roi'r gorau i sgwennu caneuon. Doedd gen i ddim digon o amser."

    Serch hynny, dywed ei fod wedi mwynhau'r canu hyd nes i'w brysurdeb ei orfodi i roi'r gorau iddi.

    "Roedd yn grêt cael bod yn rhan o gyfnod cynhyrfus y 1960au a'r 1970au, gwneud lot o ffrindiau a dod i 'nabod Cymru'n dda iawn oherwydd fy mod i'n teithio i ryw neuadd bentref yn rhywle bob penwythnos.

    "Os oes rhaid i mi ddewis fy hoff gân o'r cyfnod hwnnw, mi faswn i'n gorfod d'eud Dŵr. Mae'n gân sy'n cynrychioli gymaint. Mae'n gân wahanol ei natur i'r rhan fwyaf o ganeuon pop Gymraeg at y pryd. Ac mae'n gân sy'n gofyn am lot o egni i'w chanu. Mae'n creu argraff ac yn ennyn ymateb oddi wrth y gynulleidfa, a dyma oedd record gyntaf Sain."

    Mae Huw yn dipyn o ffan o Å´yl y Faenol.

    "Dwi'n edmygu Bryn Terfel am iddo ei chreu hi, a'i chynnal hi ac ymestyn ei hapêl hi i gynnwys ystod eang o gerddoriaeth. Mae'r mix yn wych. Mae o hefyd wedi deall beth ydy cryfder ac apêl canu pop Cymraeg ac mae'n mynnu iddi gael ei lle yn yr ŵyl."

    Yn rhannu llwyfan Tân y Ddraig efo Huw eleni bydd Nathan Williams, Dyfrig Evans, Elin Fflur a'r Band, y Proclaimers, ac i orffen y noson, y band o'r Blaenau, Anweledig.

    GALA OPERATIG GÅ´YL Y FAENOL 2006
    Nos Sul, 3 Medi, 8.00pm, S4C
    Yn ymuno â Bryn Terfel ar lwyfan Gala Operatig Gŵyl y Faenol 2006 bydd y soprano fyd-enwog, Angela Gheorghiu, a'r tenor talentog, Rolando Villazón, a bydd uchafbwyntiau o'r cyngerdd mawreddog yn cael eu darlledu ar S4C, nos Sul 3 Medi.

    "Mae'r ŵyl hon yn denu rhai o enwau mwyaf y byd opera i'w llwyfan bob blwyddyn ac rydym yn croesawu rhai o sêr amlycaf y diwydiant i'r Faenol ac i S4C yn 2006," meddai Ceri Sherlock, Comisiynydd Cerdd S4C.

    Yn wreiddiol o Adjud yn Rwmania, mynychodd Angela Gheorghiu Academi Gerdd Bucharest o dan diwtoriaeth Nia Barbu cyn graddio ym 1992 a pherfformio'n broffesiynol am y tro cyntaf yn ystod yr un flwyddyn gyda Chwmni Opera Covent Garden.

    Erbyn heddiw, mae hi'n cael ei chydnabod fel un o sopranos gorau'r byd, ac hefyd fel diva diarhebol y sîn opera ryngwladol.

    Yn briod â'r tenor Ffrengig, Roberto Alagna, mae'n debyg i lais anhygoel Gheorghiu beri i'r arweinydd byd-enwog, George Solti, grïo pan glywodd ef hi'n canu am y tro cyntaf.

    Ond, yn ôl pob sôn, mae ochr dywyll i'r gantores sy'n cael ei hadnabod fel 'Draculette' gan rai yn y diwydiant. Magodd Gheorghiu enw drwg yn dilyn ei diswyddiad gan Gwmni Opera Metropolitan Efrog Newydd ym 1999 am wrthod syniadau cyfarwyddwr y cwmni, Franco Zeffirelli a hefyd am wrthod gwisgo penwisg benfelen draddodiadol cymeriad Micaela yn yr opera Carmen.

    Er hynny, oherwydd ei llais gwefreiddiol a'i phrydferthwch naturiol, Angela Gheorghiu yw un o gantorion mwyaf poblogaidd y byd opera ac uchafbwynt Gŵyl y Faenol eleni.

    Cafodd y tenor Rolando Villazón ei eni a'i fagu yn Ninas Mecsico ym 1972 cyn dechrau ar ei yrfa operatig ym 1990 o dan diwtoriaeth Arturo Nieto ac Enrique Jaso. Erbyn heddiw, ef yw un o denoriaid mwyaf adnabyddus y byd ac mae wedi perfformio gyda chwmnïau Opera Metropolitan Efrog Newydd a Covent Garden, ymhlith nifer.

    Mae Rolando wedi ennill nifer o wobrau yn ddiweddar, gan gynnwys 'Canwr y Flwyddyn 2005' Gwobrau Cerddoriaeth Clasurol ECHO, yn ogystal â chael ei enwebu am Grammy am ei gryno-ddisg o ariâu Ffrengig.

    Cerddorfa a Chorws Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, o dan arweiniad Gareth Jones, fydd yn cyfeilio i'r cyngerdd.



    Cerddoriaeth
    Radio Cymru
    Gwyliau
    Eisteddfodau


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý