91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Digwyddiadau

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gig yn Llangernyw
Bu Branwen Chilton yn mwynhau noson gyda Jen Jeniro ac Alun Tan Lan yn Llangernyw ...
Tafarn y Bont
Tafarn y Bont yn Llangernyw lle cynhaliwyd y gig next page
1Ìý 2Ìý 3Ìý 4Ìý 5Ìý 6Ìý 7Ìý 8Ìý

Gig Jen Jeniro ac Alun Tan Lan yn Nhafarn y Bont, Llangernyw, ar gyfer y Cylch Meithrin ar 11 Tachwedd 2005

Awyrgylch:
Braf a chartrefol. Gan fod y bandiau yn lleol (Alun Tan Lan o Bandy Tudur a Jen Jeniro o Lanrwst yn bennaf) roedd pawb yn eu hadnabod ac roedd teimlad hamddenol i'r holl noson. Roedd y dafarn yn llawn, gyda chynulleidfa o bob oedran, a phawb yn mwynhau'r gerddoriaeth. Roedd y gig yn hwyr yn cychwyn gan fod rhaid aros i'r gêm (Cymru v Fiji) orffen yn gyntaf!

Trac y noson:
'Canol y Ffordd' gan Jen Jeniro - cân serch i Bryn Fôn (tafod yn y foch wrth gwrs!)

Perfformiadau:
Pump aelod sydd i'r band Jen Jeniro, a chwaraeodd gyntaf. Maent wedi bod yn chwarae ers cyfnod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni (mi gawsant ail yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2, eu hail gig erioed!). Mae ganddynt nifer fawr o ganeuon gwreiddiol sydd i gyd mewn arddull wahanol ond sydd eto'n swnio'n hollol nodweddiadol ohonynt. Rhyw fath o "indie hiphop gwerin" yw disgrifiad Eryl Jones, y canwr, o'u harddull, ac mae hynny'n reit agos i'r gwir ddeudwn i!

Mae'r gân 'Ddim yn Saff' yn gân am "ddim lot o ddim byd", ond mae'n dynn a thrwm gyda churiad cryf, a gitâr a drymiau ffrwydrol. Mae na 'wuhooos' tebyg iawn i gân Blur, 'Song Two', sy'n grêt pan rydych chi eisiau ymuno yn y canu ond ddim yn gwybod y geiriau!

Eu cân orau yw 'Canol y Ffordd' sy'n tanseilio'r dewis o gerddoriaeth ar Radio Cymru ac yn 'canu clodydd' Bryn Fôn. Mae hon yn gân llawn hwyl a bywiogrwydd, mae'r lyrics mewnweledol yn cael bloedd o chwerthin bob tro, ac mae'r gerddoriaeth yn grêt, yn dilyn eu harddull nodweddiadol o benillion hamddenol, rapio ysgafn, a chytgan cyhyrog, pendant. Band sydd yn sicr yn mynd i fynd yn bell!

Alun Tan Lan wedyn, sy'n berfformiwr byw gwych ac yn adnabyddus led led Cymru. Mae o'n rhoi perfformiad 'agos atoch' a phwerus, ac mae'n ysgrifennu am bethau y mae o'n eu hadnabod ac sy'n cael effaith arno, felly mae'r caneuon yn swnio'n wirioneddol 'o'r galon'. Mae'n anodd disgrifio arddull ei gerddoriaeth, mae mor unigryw, ond gitâr acwstig a chwarae teimladwy fasai'r disgrifiad cyffredinol ma'n siŵr. Mi blesiodd o'n fawr drwy chwarae 'Banjo', un o fy hoff ganeuon ac un sydd wedi dod yn glasur erbyn hyn! Roedd y dewis o ganeuon yn wych ac roedd Alun yn amlwg yn mwynhau, yn rhoi perfformiad egnïol a chofiadwy.

Uchafbwynt y noson:
Rhaid i fi ddweud Alun Tan Lan a'r gân 'Banjo' - ffantastig!

Y peth gwaethaf:
Doedd na ddim un!

Achlysur roc a rôl:
Doedd o ddim y math yna o gig rîli - dwi'n meddwl mai'r peth mwyaf roc a rôl oedd Alun yn stopio yng nghanol cân am fod y bâs allan o diwn (odd o'n ddoniol iawn, rhaid oedd bod yno i allu gwerthfawrogi'n iawn!)

Beth sy'n aros yn y cof:
Jen Jeniro yn chwarae 'Iechyd Da' gan y Gorky's- crynhoi teimlad y noson i'r dim.

Talent gorau:
Alun Tan Lan yn chwarae gitâr ac organ geg ar yr un pryd - ac yn ei wneud yn dda!

Marciau allan o 10:
10!

Un gair am y noson:
Poeth!

Branwen Chilton

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



Cerddoriaeth
Radio Cymru
Lluniau


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý