91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cricieth
DG Jones (Selyf) Eisteddfotwyr o fri
Doedd 'steddfodau Eifionydd ers talwm ddim yr un fath heb fod y ddau gyfaill yma'n cystadlu. Cyn hyfforddwr Bryn Terfel, DG Jones a'r cyn adroddwr, Huw Gruffydd Roberts sy'n s么n am y dyddiau da.

DG Jones o Langybi (Selyf)
"Mi roeddwn yn cystadlu mewn eisteddfodau am flynyddoedd. Roeddwn hefyd yn feirniad cerdd dant yn y Genedlaethol.

"Mi fyddwn i a fy ffrind mawr, Huw Fron, yn mynd o 'steddfod i 'steddfod yng nghar fy nhad. Doedd gennym ni ddim lot o arian ar y pryd - byddai'r holl arian gwobr yn mynd ar betrol! Ond mi gawsom lot o hwyl ac enillais y Genedlaethol sawl gwaith yn y 1950au.

"Fel Selyf roeddwn i'n cael fy adnabod mewn eisteddfodau, dyna oedd fy ffug-enw. Mi ddechreuais efo Deio, am mai Dafydd oedd fy enw cyntaf, ond mi newidiais i o i Selyf ac wedyn mi ddechreuodd pobl fy ngalw i'n Selyf. A phan gefais fy nerbyn i'r orsedd, roedd hi'n naturiol mai fel Selyf ro'n i'n cael fy adnabod. Bryn Selyf oedd enw fy nghartref i yn Llangybi. 'Gerallt' oedd enw cystadlu Huw a dyna pam ddaru ni alw'r mab yn Gerallt, am fy mod yn ffrindiau efo Huw!

"Mi ddysgais gerdd dant i Bryn Terfel am gyfnod pan oedd yn bymtheg mlwydd oed, tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 1978 dwi'n meddwl. Mae pobl yn s么n erbyn hyn am ba mor dda yw Bryn am ynganu geiriau ym mhob iaith ac mae o'n dweud mai'r hyfforddiant cerdd dant sy'n gyfrifol a'i fod wedi bod yn gymorth mawr iddo. Beth sy'n bwysig mewn cerdd dant ydy'r geiriau, mwy na'r d么n - rhaid ynganu'r geiriau yn iawn."

Huw 'Fron' Gruffydd Roberts (Gerallt)Huw Gruffydd Roberts o Gricieth
"Yn 1922 roeddwn yn aelod o Aelwyd yr Urdd lewyrchus iawn ym Mhentreucha ac yn dilyn o hynny mi ddechreuais gystadlu ar adrodd mewn eisteddfodau bach.

"Gweithio gartref ar y fferm oeddwn i yr adeg honno, ond mi fyddwn yn cystadlu ym mhell ag agos o gartref. Pan roeddan ni'n ifanc ac yn wirion roeddan ni'n mynd yn bell iawn - draw i Steddfod Powys a M么n ac i'r Genedlaethol. Ond wnes i ddim ennill fanno, er i mi fod ar y llwyfan unwaith. Roeddwn yn cnocio yn erbyn rhai caled o ochrau Rhosgadfan - Megan Cadfan, Brynfa a Christmas Jones, Penygroes.

"Roedd fy ngwraig yn hogan o Benmaenmawr ac yn rhyfedd iawn, hi oedd trefnydd yr Urdd yn Sir Feirionnydd - ac wedyn daeth y mab yng nghyfraith yn drefnydd i'r ardal hefyd!

"Mi ges i fy ngalw'n bob enw wrth gystadlu - Huw Gruffydd, Huw Fron, ar 么l y fferm ac yn y diwedd, mi ddes yn Huw Gerallt, am fy mod yn byw ger-yr-allt. Ddaru fy ffrind mawr DG Jones (Selyf) alw ei fab yn Gerallt hefyd!

"Dwi ddim yn perfformio erbyn hyn. Roeddwn yn gwneud lot o feirniadu efo'r Urdd am flynyddoedd cyn rhoi'r gorau iddi yn wythdeg oed.

"Mi fues i'n gweithio i gwmni Amaethwyr Eifionydd am 25 mlynedd ac mi rydan ni wedi bod yn byw yng Nghricieth 'ma ers rhyw 16 mlynedd r诺an. Ddaru ni 'rioed feddwl am dd诺ad yma - yn Chwilog magwyd y ddwy ferch ac roeddwn yn ysgrifennydd yr eisteddfod yno am 12 mlynedd.

"Ond un diwrnod, daeth ffrindiau draw a dyma ni'n mynd 芒 nhw i lawr i Gaerdyni, sy' heb fod ymhell o fferm Plymouth. A dyma ni'n edrych lawr ar Griccieth a dywedodd un ffrind: 'Yn dydy Criccieth yn lle braf, mi faswn i'n licio byw yma!' ac mi ddywedodd fy ngwraig: 'Yndi mae o, ond dwi'm yn si诺r os fyswn i'n hoffi byw yma chwaith!' A dyma ni r诺an yn byw yma, ac mae o'n lle braf!"


Cyfrannwch

John Pritchard o Ganada
Cyfaill pennaf fy mrawd, Gwynedd Pritchard, Cwm Clynnog yn nyddiau ei ieuenctid oedd Selyf. Ond fel Dafydd Pentyrch [ei gartref] yr adnabyddid ef ar ein haelwyd ni.

Cof gennyf am fynd hefo Gwynedd i Pentyrch i saethu ffesant rhyw bnawn Nadolig. Cododd ffesant nepell oddiwrth Dafydd a dyma danio! Disgynodd fel carreg i ganol rhyw frwyn. Chwythodd Dafydd y mwg o flaen ei wn, a cherddodd yn hamddenol i nol y wobr. Ond o y siom-'roedd y ffesant wedi diflannu ac wedi dianc i dir nad oedd hawl i'w ddilyn.Dyna un gystadleuaeth na enillodd Dafydd!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy