"Yn y cystadlaethau cadet (16 i 18 oed) llwyddodd Manon Hughes o glwb
Sakura (Caernarfon) i wella ar ei medal arian y llynedd i gipio'r wobr
gyntaf yn y cystadleuaeth kata. "Hefyd o'r un clwb llwyddodd Jenni Jones
i ennill fedal efydd yn y cystadleuaeth kumite (ymladd) i feltiau du a
llwyddodd Iram Haq i gael Efydd yn y cystadleuaeth kata i feltiau brown.
O glwb y Seki Ryu Zan o Fangor llwyddodd Leah Evans i gipio dwy fedal -
efydd yn y cystadleuaeth kumite i feltiau brown ac arian yn y kata.
"Yn yr adrannau uwch i oedolion daeth hyd yn oed mwy o lwyddiant i glwb y
Seki Ryu Zan o Fangor. Yn cystadlu am y tro cyntaf erioed chwalodd
Angela Hollett ei gwrthwynebwyr i ennill y fedal aur kumite (ymladd) i
ferched gradd kyu (beltiau lliw). Yn y cystadleuaeth cyfatebol i ddynion
daeth medalau efydd i Tom Evans a Paul Dundee. "Yn y cystadleuaeth kata i
ddynion gradd kuy llwyddodd Tom Evans i amddiffyn ei wobr gyntaf o'r
llynedd tra cipiodd Guy Barlow o Fangor y fedal arian. Yn hwyr yn y dydd
daeth y llwyddiant olaf i glybiau'r gogledd pan enillodd Huw Wyn Jones o
Fangor fedal arian yn y gystadleuaeth kumite i feltiau brown. Trydydd
llwyddiant Huw mewn tair blynedd o gystadlu."
|