Gorsaf Ynni Ffestiniog oedd gorsaf trydan dŵr gyntaf gwledydd Prydain.
Cafodd ei hadeiladu i ddarparu trydan yn sydyn pan fyddai'r galw mwyaf amdano.
Mae'r pwerdy wrth droed y Moelwyn ger Tanygrisiau ar ochr y ffordd sy'n arwain o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog.
Mae trydan yn cael ei gynhyrchu wrth i ddŵr o Lyn Stwlan uwchben gael ei ollwng i droi twrbinau yn y pwerdy islaw. Mae'r dŵr wedyn yn cael ei gadw mewn llyn arall a grëwyd ger y pwerdy ar gyfer ei bwmpio'n ôl i Stwlan.
Llyn naturiol ydi Stwlan ond fe'i ehangwyd yn 1898 gan y Yale Electricity Company i gynhyrchu trydan ar gyfer y chwareli.
Caeodd y pwerdy gwreiddiol oedd yn cael ei adnabod fel Dolwen yn 1964.
Ger Stwlan mae olion hen chwarel y Moelwyn a oedd yn eiddo i'r Barwn Rothschild yn wreiddiol.
Oddi ar argae Stwlan gellir gweld craig ag iddi siâp wyneb dyn. Yn lleol mae'n cael ei hadnabod fel Hen Ddyn y Moelwyn. Yn anffodus, fodd bynnag, mae'r hen greadur o'r golwg mewn niwl lawer o'r amser.
Ar ddyddiau felly, pan fo'r Moelwyn dan gwmwl, dywedir yn lleol, "Mae'r Moelwyn yn gwisgo'i gap."
Yn 1948 y dechreuwyd meddwl am y cynllun trydan presennol a daeth caniatâd i fynd ymlaen â'r gwaith yn 1955 ond ni ddechreuwyd gweithio ar y safle tan 1957.
Yr oedd yn gynllun enfawr i'r ardal ac yn golygu gwaith i bobl o bell ac agos.
Agorwyd y pwerdy yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth II ar Awst 10, 1963.
Y mae'n bosib ymweld â'r pwerdy a theithio i Lyn Stwlan ac mewn canolfan gyfagos mae arddangosfa o luniau sy'n dangos y gwaith adeiladu.
|