Gwegamera'r Morlewod Gwyliwch sioeau'r morlewod yn y sŵ bob dydd ar ein gwegamera.
Lluniau: Anifeiliaid y sŵ Ewch i weld lluniau rhai o anifeiliaid y Sŵ Mynydd heddiw.
"Rydym wedi gorffen adeiladu'r sea lion rock, pwll mawr newydd i'r morlewod. Mae'n llawer mwy a llawer dyfnach na'r hen bwll - mae'n eithriadol o fawr! "Gellwch weld y morlewod yn cael eu bwydo am ddeuddeg a thri o'r gloch bob dydd. Maen nhw'n gwneud triciau bach fel cydbwyso pêl ar eu trwynau. Mae hyn er mwyn iddynt gael amser i chwarae ac i gadw eu synhwyrau'n iach. Mae hefyd yn gwneud i'r morlewod deimlo'n gyfforddus yn cydweithredu efo pobl, sy'n help pan fo angen galw milfeddyg draw i roi triniaeth iddyn nhw, fel rhoi diferion yn eu llygaid neu gael golwg ar eu dannedd.
"Yn ystod yr haf, 'da ni'n cael gorymdaith y pengwiniaid ac mae adar ysglyfaethus yn cael eu dangos.
"Mae ganddon ni hefyd tsimpansïaid, giboniaid a marmosetod yn y tŷ mwncïod. Mae 'na arddangosfa Chimp Encounter hefyd, sef sioe bypedau mecanyddol sy'n esbonio pa mor agos i bobl ydy mwncïod, y bygythiadau maen nhw'n ei wynebu yn y gwyllt a sut y gallwn eu helpu.
"Mae'r sŵ yn un sy'n bridio anifeiliaid, sy'n golygu ein bod yn gweithio i sicrhau goroesiad rhai anifeiliaid. Mae gennym ni raglen y Red Return, sy'n ceisio sicrhau dyfodol y wiwer goch. Mae'n llwyddiannus iawn. Aethon ni â rhai draw i Niwbwrch a dwi'n meddwl eu bod yn gwneud yn dda yno.
"Mae 'na walabi newydd gael ei eni yma hefyd, ond yn anffodus mae ei fam wedi marw. Felly, mae'r cipar yn mynd â fo o gwmpas mewn pac ar ei gefn - yn lle'r pouch byddai gen ei fam. Mae'n aros efo fo dros nos gan ei fod angen cael ei fwydo bob tair awr. Sôn am commitment i'r swydd!
"Mae'r teigrod wedi bod yma ers tua pum mlynedd rŵan, Bryn a Zeta (Bryn Terfel a Catherine Zeta Jones i roi eu henwau cywir!) Fel arfer, mae'r anifeiliaid yn cael eu galw ar ôl beth bynnag sy'n boblogaidd ar y pryd. Felly enwau'r camelod ddaeth atom yn 1999 yn ystod cwpan rygbi'r byd yw lock a flanker ac enw un o'r pengwiniaid yw Dai Peckham. Mae 'na forlew o'r enw Rooney hefyd - bechod!"
|