91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bae Colwyn
Tim Pel-droed Bae Colwyn Pêl-droed y Bae
Aled Williams o Glwb Pêl-droed Bae Colwyn sy'n sôn am waith clwb y Gwylanod yn y gymuned.

"Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn yn aelod o Adran Gyntaf Cynghrair Gogledd yr UniBond a bu'r clwb yn dathlu 125 o flynyddoedd ers sefydlu'r clwb yn ystod tymor 2005/2006.

Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau gan y clwb yn ystod tymor 2005/06 i nodi'r garreg filltir honno.

Bu bron i'r Gwylanod sicrhau dyrchafiad i Brif Adran Cynghrair UniBond ar ddiwedd tymor 2006/2007, ond iddynt golli yn rownd gyn derfynol y gemau ail gyfle.

Gwelwyd gwelliannau i'r maes yn Ffordd Llanelian yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys gosod 403 o seddi ac mae cynlluniau ar y gweill i wella'r llifoleuadau.

Mae'r clwb yn awyddus i chwarae rhan flaenllaw yn y gymuned leol, gyda sawl cynllun i ddenu mwy i gefnogi ac ymwneud â'r clwb.

Y tymor hwn mae'r rhai dan 16 yn cael mynediad am ddim, yng nghwmni oedolion, i gemau cartref diolch i gynllun ar y cyd gyda Coleg Llandrillo Cymru.

Eleni mae'r tîm yn gwisgo crysau gyda logo Hosbis Tŷ Gobaith gyda'r clwb yn cefnogi'r elusen leol.

Yn ogystal â'r tîm cyntaf, mae'r clwb yn cynnwys tîm merched hynod lwyddiannus a timau iau, dan 13 a dan 15, sy'n ffynnu'n flynyddol ac yn aelodau o Gynghrair Iau Aberconwy a Cholwyn."

Hanes y clwb...


Lleol i Mi
Trefi
Chwaraeon


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý