"Mae fy nheulu wedi byw ar Ynys Enlli am ganrifoedd. 'Dwi'n bysgotwr a hefyd yn hwylio pobl draw i'r ynys am wyliau ac felly 'dwi wedi dod i adnabod byd natur yr ardal yn dda.
"Mae 'na adar prin ofnadwy ar yr ynys, fel Aderyn Drycin Manaw (Manks Shearwater - isod). Mae'r ynys yn bwysig ofnadwy i'r aderyn yma wrth iddo fudo'r holl ffordd o Frasil bob blwyddyn. Maen nhw'n gallu byw i fod yn 50 mlwydd oed.
"Mae dros 30,000 ohonynt yma - dydyn nhw ddim ond i'w cael mewn tri neu bedwar o lefydd eraill ym Mhrydain. Maen nhw'n gwneud mor dda ar Enlli am nad oes yna lygod mawr yma, 'na dim arall i ddwyn yr wyau neu frifo'r cywion.
"Mae yna hefyd adar ysglyfaethus - cudyll coch a glas, gwalch glas, peregrin - mae Enlli ar y llwybr ymfudo i nifer fawr o adar gwahanol.
"'Dwi hefyd wedi gweld llamhidydd (porpoise), dolffin a morloi. Mae 'na gannoedd o forloi llwyd yr Iwerydd yma. Mae rhywfaint yn aros trwy'r flwyddyn ond mae'r niferoedd yn cynyddu'n fawr yn ystod yr haf, yn enwedig pan ddaw'r cywion bach. Mae'r olygfa yn ffantastig, dwi bron erioed wedi gweld dim byd tebyg, gyda'r holl weiddi a'r twrw - cannoedd efo'i gilydd ar y creigiau.
"Dwi ddim yn meddwl bod yr ynys wedi newid llawer o ran natur dros y blynyddoedd - dim ond fod 'na lai o bobl yma r诺an ac felly mwy o le i'r anifeiliaid a'r adar. Ers talwm byddai rhai yn saethu'r morloi, ond dydi hynny ddim yn digwydd r诺an.
"Mae'r daith dros y m么r i Enlli yn dibynnu ar y tywydd wrth gwrs ond mae'r peiciau, neu'r cerrynt, yn rhai cryf yma - mae hynny'n gallu bod yn fantais weithiau!
"Ar 么l i'r tymor pysgota am grancod a chorgimwch orffen gyda'r gaeaf, dwi'n gadael yr ynys ac yn dod draw i Aberdaron i adeiladu cychod. Roedd y diwydiant yma yn un pwysig flynyddoedd yn 么l ac erbyn hyn mae 'na fwy a mwy o alw am gychod wedi eu hadeiladu o ddefnydd traddodiadol Cymreig.
"Roedd tyfu i fyny ar yr ynys yn hollol normal i mi ac yn brofiad hapus iawn." Am fwy o wybodaeth am natur Ynys Enlli a gwibdeithiau i'r ynys ewch i wefan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli: .
|