91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eglwys Ganol Oesol yn Llwydfaen ger Caerhun Hanes o'r awyr
Os nad yw ein hanes yn weladwy o'r ddaear, beth am edrych lawr arno o'r awyr? Toby Driver sy'n chwilio am olion archeolegol o'r awyr.
Cyfle i weld yr ardal o'r awyr.

Mae rhai pethau o bwys archeolegol mond wir yn weladwy o'r awyr. Mae tirlun gogledd Cymru wedi cael ei aredig droeon ers y Canol Oesoedd felly mae olion ein hanes wedi ei cuddio.

Ond yn yr haf, yn enwedig ar 么l sychder, mi wnaiff y cnydau a'r glaswellt sychu gan amlygu cyfrinachau hanes yr ardal wrth i ni hedfan uwchben.

Yr haf gorau i mi oedd 2006. Ddaru ni ddod o hyd i ugain o Geiri Canol Oesol newydd ym Mhen Ll欧n; roedd un o dan gae p锚l-droed yn Efail Newydd. Mae o wir yn gwneud i chi ystyried eto sut le yw/oedd eich pentref neu dref.

Yn 2006 ddaru ni hefyd ddarganfod sylfaen eglwys Ganol Oesol yn Llwydfaen ger Caerhun (Conwy). Rydym yn tybio ei bod yn dyddio yn 么l i 1088, pan roedd y Normaniaid yn ceisio lledaenu eu dylanwad dros ardal Deganwy. Ond wedyn ddaru Tywysogion Gwynedd ymestyn allan i'r dwyrain ac unai ddaru nhw byth gorffen adeiladu'r eglwys neu yr oedd yn un pren, gan nad oes strwythur cerrig erioed wedi sefyll ar y sylfaeni.

Ychydig iawn o safleoedd fel yma sydd yng Nghymru, felly roedd yn wych darganfod yr eglwys yma. Wrth ffilmio'r rhaglen deledu Hidden Histories, ddaru ni wahodd y ficer lleol i ddod draw ac er mai tir fferm ydy o, mae o am gynnal gwasanaeth ar y safle.

Ddaru ni hefyd ddarganfod gwersyll Rhufeinig ger Brithdir. Rydym yn meddwl mai caer i filwyr aros ynddi dros nos oedd o, wrth iddynt fynd ar ymgyrchoedd i goncro'r ardal.

Mae lonydd Rhufeinig hefyd yn gyffro i'w ddarganfod o'r awyr. Roedd wastad wedi bod s么n am lon o Abergwyngregyn i Fangor a draw i Gaernarfon ac o'r diwedd, daeth i'r amlwg, eto yn 2006. Roedd y Rhufeiniaid yn beirianwyr sifil o fri ac felly roedd yn bosib gweld amlinelliad y graean oedd ar wyneb y ffordd, nawr o dan y glaswellt, o'r awyr, yn ogystal 芒'r pyllau graen pob ochr i'r ffordd.

Cyfnod cyffroes arall oedd yr Oesoedd Tywyll ac ymweliad y Llychlynwyr. Ddaru ni ddarganfod setliad Llychlynnaidd ger Llanbedrgoch (Ynys M么n) ac rydym yn sicr fod yna lawer mwy yn yr ardal, yn ogystal ag olion llysoedd y tywysogion Cymreig.

Peth arall i ni ddarganfod o'r cyfnod yma oedd beddi, neu grugiau mawr sgw芒r, o dan gae p锚l-droed. Byddai boneddigion y cyfnod wedi cael eu claddu yn y rhain.

Mae'r gaeaf hefyd yn gallu bod yn amser da i gael lluniau diddorol o'r awyr, yn enwedig pan fo'r golau yn isel a 'bach o eira ar y tir. Rydym wedi darganfod sawl fferm a chaer Canol Oesol ar uwchdiroedd Gwynedd adeg yma o'r flwyddyn.

Ond mae'n si诺r mai'r peth pwysicaf rydym erioed wedi ddarganfod wrth hedfan dros y wlad yw'r sarnau caeedig sy'n dyddio yn 么l chwe mil o flynyddoedd. Roedd y rhain ymhlith yr adeiladau cyntaf ym Mhrydain, ym mhell cyn Stone Henge. Mae yna rai yn Sir Benfro ac un ar Ynys M么n, er rydym yn ffyddiog fod yna lawr mwy ohonynt yng Nghymru. Nid ydynt yn hollol gaeedig fel caer amddiffynnol; mae yna fylchau yn y waliau cerrig i adael pobl i fynd a dod, yn debyg i farchnad.

Er nad ydym wedi cael haf cyn boethed a 2006, ddaru ni hel digon o luniau o olion hanesyddol i'n cadw yn brysur am flynyddoedd i ddod!

Toby Driver o'r Comisiwn Frenhinol Henebion Cymru.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91热爆 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy