91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Un o dyrrau Castel Penrhyn Siwgr a chaethwasiaeth
Fe ddatblygwyd chwareli llechi a chastell mawreddog teulu'r Penrhyn ger Bethesda ar gyfoeth wedi greu gan gaethweision teulu'r Pennant yn Jamaica.
Roedd gan Arglwydd Penrhyn, Richard Pennant, chwech planhigfa siwgr yn Jamaica ac roedd yn berchen ar 600 o gaethweision.

Roedd hefyd yn Aelod Seneddol dros Lerpwl, lle roedd prif borthladd allforio caethweision y byd ac yn ffigwr allweddol yn yr ymgyrch i wrthwynebu diddymiad caethwasiaeth.

Bydd arddangosfa yn cael ei chynnal yn y castell, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o fis Ebrill 2007 ymlaen i adrodd hanes cysylltiad y Penrhyn 芒 hanes caethwasiaeth.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cannoedd o lythyrau a ysgrifennodd Arglwydd Penrhyn i'w asiantau yn Jamaica meddai Marian Gwyn, rheolwr dysgu a chyfathrebu'r castell:

Llun o blanhigfa Denbigh sydd ym meddiant Castell Penrhyn "Mewn un llythyr, mae'r Arglwydd Penrhyn yn rhoi cyngor am sut y dylid gofalu am y caethweision - mae'n pwysleisio na ddylid gorweithio y 'negroes or the cattle'.

"Roedd yn awyddus i ofalu amdanynt ond roedd yn meddwl amdanynt fel livestock."

Teulu o Sir y Fflint oedd yn Penantiaid a ddatblygodd blanhigfeydd siwgr oedd yn defnyddio llafur caethweision yn Jamaica. Etifeddodd Richard Pennant st芒d y Penrhyn drwy briodi Anne Susannah Warburton a buddsoddodd yn y st芒d a'r diwydiant llechi lleol gydag arian o blanhigfeydd ei deulu yn Jamaica.

"Mae dau baentiad o'i blanhigfeydd yn Jamaica ym meddiant y castell. Cawsant eu paentio gan arlunydd lleol anhysbys yn y 1870au - ar 么l diddymu caethwasiaeth," meddai Ms Gwyn.

"Gan fod y teulu Pennant yn wreiddiol o Sir y Fflint, byddent yn rhoi enwau fel Denbigh [enw'r blanhigfa yn y llun uchod] ar eu planhigfeydd yn Jamaica.

"Bydd yma greiriau fel cadwyni a gefynnau ar ddangos ac arddangosfa o'r gwaith mae Ysgol Gynradd Llanllechid wedi bod yn ei wneud gydag ysgol yn Jamaica am y cysylltiad rhwng ardal chwareli Bethesda a'r masnach caethweision.

"Defnyddiodd Arglwydd Penrhyn yr arian i fuddsoddi mewn ffyrdd, rheilffyrdd a chwareli llechi gogledd Cymru, felly mae tirwedd yr ardal wedi ei ffurfio gan y fasnach caethweision."

Cynhelir arddangosfa Sugar and Slavery - the Penrhyn Connection o 4 Ebrill i 4 Tachwedd 2007.

  • Hanes teulu'r Penant a diddymiad caethwasiaeth
  • Prosiect Bethesda - Jamaica, Ysgol Gynradd Llanllechid

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91热爆 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy