Bu farw Dic yng Nhanada yn 98 mlwydd oed, er iddo barhau i ymddiddori mewn hanes a bywyd yn ol yng Nhymru.
Yma, rhannodd Dic ei atgofion am ymweliad 芒 Nant Gwrtheyrn, canolfan iaith erbyn hyn, yn y 20au pan oedd y Nant yn bentref prysur.
Yn ystod haf 1928 pan oeddwn i'n ddeunaw, roeddwn i'n gweithio yn siop ddodrefn Jays ar y Maes yng Nghaernarfon. Roedd ein gwerthwr teithiol wedi gwerthu llond lori o ddodrefn i'r rheolwr newydd yn y chwarael ithfaen (Nant Gwrtheyrn). Roedd o a'i deulu ar fin symud i'r t欧 mawr, sef y Plas (llun uchod) ychydig is law'r pentref yn edrych dros y m么r.
Llwythwyd y fan y noson cynt er mwyn i ni gychwyn yn gynnar. Roedden ni'n griw o saith y diwrnod hwnnw sef John Flynn, John Pritchard, brawd y gwerthwr Elias Pritchard, John Griffith, John Angel, John Keyes, Dic Edwards a minnau.
Gadawsom y Maes am 6.30am. Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig. Wrth inni agosau at yr Eifl gwelsom fod y tri phigyn tan gwmwl. Gadawsom y brif ffordd yn Llanaelhaearn, troi i fyny at Llithfaen a throi i'r dde i fyny'r mynydd i'r maes parcio uwch ben y Nant. Roedden ni rwan o du ucha'r cymylau - am olygfa - dim ond cymylau'n tonni am a welech.
Dechreuwyd ar y dadlwytho. Fy llwyth cyntaf i oedd matres gwely a sgw芒r congoleum wedi'i glymu iddo. Roedd hi'n anodd iawn cerdded i lawr y ffordd gan ei bod wedi gwisgo yn y canol i ffurfio 'V'. Pan gyrhaeddais y t欧, gyda chymorth un o'r bechgyn, roedd rhaid imi ddadlwytho'r congoleum a'i osod, ac yna rhoi'r fatres at ei gilydd. Roedd rhaid rhoi popeth at ei gilydd yn y fan a'r lle.
Fy ail lwyth oedd cist pum dror wedi'i glymu efo webbing ac roeddwn i'n ei gario ar fy nghefn. Fe wnaethon ni bedwar trip i gyd i fyny ac i lawr yr allt. Fe gyrhaeddon ni yn 么l i Gaernarfon am saith y noson honno yn flinedig iawn.
Yn ystod yr wyth mlynedd y bum i yn gweithio i Jays mi gefais i gyfle i fynd i'r Nant bump o weithiau. Yn ystod un ymweliad daeth y newydd i'r pentref am ladd merch ifanc, sef merch un Mrs Owen, cwsmer arall i Jays, mewn damwain motobeic yn Llanystumdwy.
Bellach, 'dwi'n 93 oed a dim ond fi sydd ar 么l o'r criw a aeth i'r Nant y diwrnod hwnnw. Y tro diwethaf imi fynd i'r Nant ddiwethaf oedd ym 1985 a hynny yng nghwmni Eluned Vaughan. Roeddwn i yn 75 oed ac Eluned yn 70 ac roedd yna wers Gymraeg yn cael ei chynnal i ddysgwyr ar lawnt un o'r tai. Mi gawson ni sgwrs efo'r athro, oedd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth. Mi fum i'n byw yn Aberystwyth am ddwy flynedd fy hun yn ystod y 1940au.