Bydd 'Sioe Ar Daith: Hanes Menywod Cymru' olaf Gogledd Cymru yn cael ei chynnal yn Oriel Ynys M么n dydd Sadwrn, 25 Ebrill 2009 rhwng 11.30 a 3.00 y pnawn. Bydd yn cael ei hagor gan Nia Powell o Adran Hanes Cymru Prifysgol Bangor, a bydd yna sgwrs am 12 o'r gloch gan Annie Williams o Goleg Harlech. Mae Annie'n enedigol o Gaergybi, ac mae wedi gwneud ymchwil i hanes merched Ynys M么n.
Dyma brofiad yr awdures Angharad Tomos o ddarganfod mwy am hanes merched ei theulu hi.
"Mynd 芒 nhw draw ddaru mi i weld a oeddent o unrhyw ddiddordeb. Tan r诺an, dydyn nhw ddim wedi gadael cartref fy mam - casgliad o lyfrau cownt a gadwyd ers y flwyddyn 1951, wedi i fy mam briodi. Yr ydwyf yn falch bellach fy mod wedi mentro.
Mae Archif Menywod Cymru yn archif sy'n casglu ffynonellau am bob math o agweddau ar hanes merched yng Nghymru. Hwn yn aml yw'r hanes 'coll'. Yn ddiweddar bum yn ymweld 芒 Chwarel y Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog, amgueddfa ddiddorol iawn, ond mae hanes y merched yn gwbl anweledig. Hanes dynion a gawn, a dim byd arall. Mae pethau dipyn yn well yn Amgueddfa Pwll Mawr (Big Pit), lle cofnodwyd gwaith y merched, ac roedd eu dioddefaint yn anhygoel.
Dangoswyd diddordeb mawr yn llyfrau cownt fy mam. Nid yn unig roeddent yn nodi prisiau neges wythnos yn ddi-dor am dros hanner canrif, ond roedd llawer o gilfachau cudd. Un peth a gadwyd rhwng cloriau un o'r llyfrau oedd cerdyn aelodaeth Plaid Cymru, 1946. Wrth i Catrin Stevens fy holi am hwn, dechreuais s么n am Bwyllgor Merched Arfon o Blaid Cymru, a sylweddoli mai fy mam yw un o'r ychydig aelodau o'r pwyllgor hwn sydd yn dal yn fyw.
O ganlyniad, aeth fy mam i chwilio am y llyfr cofnodion, a chaiff hwn ei gadw yn ddiogel yn awr. Mae llawer o ferched wedi cofnodi eu hatgofion, ond mae canran fawr ohonynt yn dod o dde Cymru, yn perthyn i'r Blaid Lafur ac yn ddi-Gymraeg.
Byddai'r Archif yn falch iawn i gael hanes mwy o ferched o gefndiroedd gwahanol, o gefndir gwledig, yn genedlaetholwragedd, ac yn Gymry Cymraeg.
Yn y llyfrau cownt, roedd pob math o enwau. Dyma'r peth agosaf at ddyddiadur a gadwodd Mam. Roedd maint traed ni blant i gyd yn un, a'r dyddiad y cawsom esgidiau newydd. Yn yr un 1969, roedd cofnod o lythyr a sgrifennodd fy chwaer (pan yn 5 oed) i Dafydd Iwan pan oedd yn y carchar.
Ar dudalennau cefn y rhain ysgrifennai Mam nodiadau os clywai unrhywbeth o ddiddordeb ar y radio. Yn y llyfrau hyn y cadwodd nodiadau wedi mynychu darlithoedd y WEA ar lenyddiaeth Gymraeg. Ymysg y tudalennau roedd toriadau papur newydd - rhywun wedi marw neu briodi, neu bwt o gerdd. A gyda phob tudalen, deuai llond c么l o atgofion.
Pethau eraill euthum gyda mi oedd llyfr lloffion fy Nain, gyda'i dudalennau hardd wedi'u paentio, a chyfarchion o 1900. Gwag iawn oedd llyfr ei brawd, ond nid rhyfedd mo hyn gan iddo golli'i fywyd yn 23 oed yn y Rhyfel Mawr.
Beth am i ddarllenwyr hwn felly gael cip ar beth sydd ganddynt hwy gartref. Os oes gennych luniau, llythyrau, dyddiaduron, cofnodion capeli neu gymdeithasau, gwnewch yr ymdrech - da chi - i gysylltu 芒'r Archif. Peidiwch 芒 meddwl nad ydynt yn ddigon pwysig, mae pob peth yn taflu rhywfaint o oleuni ar fywydau gwragedd yng Nghymru. Ewch draw i rannu profiad fel y gall eich stori gael ei hychwanegu at y clytwaith brau sydd mawr angen gwn茂o arno. Mwya'n y byd o ferched wnaiff gyfrannu at y project, mwya diddorol fydd o.
Does dim rhaid i chi ffarwelio 芒'ch llythyrau a'ch lluniau. Gall y merched dynnu lluniau o'ch defnyddiau, a gwneud nodyn ohonynt. Ar y llaw arall os ydych chi'n fodlon i'r deunydd gael ei gadw, bydd eich trysorau mewn dwylo diogel. Drwy wneud hynny, bydd hanes merched ar gael i ferched y dyfodol, ac mae hanes merched wastad yn ddifyr."
Dyma brofiad yr awdures Angharad Tomos o ddarganfod mwy am hanes merched ei theulu hi. (Trwy ganiat芒d Golygydd Y Wawr).