A brid y defaid hynny sydd wedi magu cynefin ac sy'n dal i bori yn "y cwm tecaf" hyd heddiw.Yr oedd Ellis Owen mae'n debyg yn ffermwr o flaen ei oes ac wrth symud o'r fferm ar droed yr Wyddfa i'r cwm yn Eifionydd yr oedd yn gwella'i fyd. Er hynny doedd pethau yn Eifionydd ddim yn f锚l i gyd. Yr oedd yna un peth yn arbennig a oedd ar goll yno o safbwynt Ellis Owen, a hynny oedd marchnad gyfleus i brynu a gwerthu anifeiliaid.
Fy mwriad yn y traethawd hwn yw olrhain ychydig o hanes y mart a agorwyd yn Bryncir yn y cyfnod hwnnw ac sydd wedi parhau yno, bron yn ddi-dor dros gyfnod o tua phedwar ugain mlynedd.
Er mwyn gwneud hynny y cam cyntaf i mi oedd ceisio cael gafael ar rai pobl a fyddai'n cofio dechreuad y mart. Un ohonynt yw dyn o'r enw Robert Owen, Ymwlch Ganol, Cricieth.
Roedd ef yn fab i Ellis Owen, Cwrt Isaf, y soniwyd amdano ar y dechrau a thair oed oedd o pan symudodd o'r Foty (Hafodty) i Gwm Pennant. Difyr iawn oedd gwrando arno yn sgwrsio am ei atgofion o ddechrau'r mart, a chael dysgu rhywfaint am natur yr arwerthiannau cynharaf i gael eu cynnal yno.
Fel y dywedodd Robert Owen wrth s么n am ei dad:
"Mae'n debyg nad ef oedd yr unig ffermwr i deimlo'r diffyg hwn (diffyg marchnad) ond efallai mai ef, oherwydd ei gysylltiadau, oedd yr un a ddylanwadodd fwyaf ar ddyfodol prynu a gwerthu yn Eifionydd."
Aeth Robert Owen ymlaen i egluro mai cyfaill agos i'w dad a'r un a oedd yn was priodas iddo oedd g诺r o'r enw R.G. Jones, arwerthwr o Gaernarfon. Ato ef yr aeth Ellis Owen mewn ymgais i ddatrys ei broblem o brynu a gwerthu da byw yn lleol. Yr oedd y gwas priodas yn falch o gynorthwyo ei gyfaill.
Yn Yr Herald Gymraeg, Chwefror 24ain 1920, ymddangosodd yr hysbyseb cyntaf erioed am Fart yn Brynkir fel a ganlyn:
Brynkir Station
Ar gais amaethwyr y cylch, cynhelir
ARWERTHIANT MISOL
Yn gyson yn y lle uchod.
Cymer y sale gyntaf le yn ystod MIS MAWRTH Manylion eto.
Felly, cafodd Ellis Owen, Cwrt Isaf, ei ddymuniad pan gynhaliwyd y s锚l gyntaf erioed yn Bryncir ar Ddydd Gwener, Mawrth y 19ain 1920 dan arolygaeth R.G.Jones.
Mewn adroddiad diweddarach yn yr Herald adroddwyd hanes yr arwethiant yn fanwl a nodwyd mai'r anifeiliaid a werthwyd yno oedd "tua 60 o wartheg a 100 o ddefaid ac un eboles wedd a werthwyd am 拢36-5-0."
Roedd gan Robert Owen gof plentyn o chwarae criced ar y tir lle'r adeiladwyd y mart, ond yn arbennig cofiai am natur y tir hwnnw. Dywed fod y rhan uchel, lle mae adeiladau cyntaf y mart yn dal i sefyll heddiw yn dir sych, cadarn a hwnnw'n gyfleus iawn ger y rheilffordd. Ond, roedd y rhan isaf o'r tir yn wlyb ac yn gorsiog iawn. Rhy wlyb i osod anifail arno hyd yn oed!
Nid oedd Mr. Owen yn cofio sut na gan bwy y cafwyd y tir ar gyfer y mart ond yn sicr un rheswm dros ddewis y safle ym Mryncir (ar wah芒n ei fod yn gyfleus i Ellis Owen!) oedd fod y rheilffordd yn rhedeg trwy'r ardal a gorsaf hwylus yn y pentref a oedd yn ei gwneud yn gyfleus iawn i gludo'r anifeiliad i'r mart ac oddi yno. Fel y nodwyd mewn rhifyn o'r Herald Gymraeg yn y flwyddyn 1923 ger hysbyseb am y s锚l nesaf yn Bryncir, dywedwyd ei fod "yn hynod o gyfleus wrth ochr y station."
Er hyn roedd yna adegau pan fyddai'r s锚l yn rhedeg yn hwyr, a'r anifeiliaid yn colli'r tr锚n i'w cludo adref. Cofia Bob Owen fel y byddai'n rhaid iddo yntau a gweddill y dynion ar 么l, gerdded yr anifeiliaid i'w cartrefi newydd. Weithiau, roeddynt yn gorfod eu cerdded cyn belled 芒 Chaernarfon, cyn eu rhoi ar gwch i Foel y Don yn Sir F么n. Byddent wedi gofalu meddai bod merlen a throl yn eu dilyn ar eu taith er mwyn arbed eu coesau ar y ffordd yn 么l!
Er gwaethaf llwyddiant y Mart, yr oedd rhai ffermwyr yn parhau i werthu'n annibynnol. Ambell i dro, byddai fferm Cwrt Isaf, gan fod ganddynt gymaint o anifeiliaid i'w gwerthu, yn meddiannu holl adeiladau'r mart er mwyn cynnal s锚l breifat yno.
Difyr dros ben oedd clywed fel y byddai gan yr un fferm hon gymaint 芒 mil o ddefaid neu wyn a chant o heffrod newydd ddod 芒 lloi i'w gwerthu ar yr un diwrnod ac fel y byddid yn eu godro cyn mynd a hwy i'r mart a thrwy wneud hynny yn cael digon o laeth oddi wrthynt i wneud menyn fyddai'n para am y gaeaf i deulu Cwrt Isaf.
Roedd rhai eraill fodd bynnag na fynnai ddefnyddio adeiladau'r mart. Yr oedd y ffermydd hyn, megis Gilfach a Brongadair, yn dewis cynnal eu harwerthiannau mewn cae yng Nglandwyfach, i lawr y l么n o Bryncir. Ni wyddai Robert Owen y rheswm dros hyn, ond dywedodd fod y ffermwyr hyn yn dod i Fryncir yn achlysurol, felly nid oeddynt yn llwyr ymwrthod 芒'r mart newydd. Mae'n debyg mai teyrngarwch i arwerthwr arall oedd yn peri iddynt barhau a'r arferiad hwn oherwydd Mr. Dafydd Parry fyddai yn gwerthu iddynt hwy.
Yn wahanol iawn i sut y mae pethau heddiw, ychydig iawn o waith papur a oedd yngl欧n 芒 phrynu a gwerthu anifeiliaid yr adeg honno. Yn 么l Mr. Owen, ychydig iawn a glercod ac ysgrifenyddion a gofiai ef yn y mart, ond un cymeriad pwysig yn hun o beth oedd dyn o'r enw Louis Thomas, Bryncir Arms. Ef oedd yn gyfrifol am dderbyn yr 'entries' i bob s锚l ers y dechreuad ac am gyfnod go dda wedi hynny. Cawn gadarnhad o hyn yn yr Herald Gymraeg wrth hysbysebu'r s锚l oedd i ddod: "Yr entries i Mr Louis O. Thomas, Brynkir Arms."
Yn ogystal 芒 hyn, ef hefyd oedd y saer a adeiladodd adeiladau cyntaf y Mart, ychydig o gytiau sinc a choed, ar gais R.G. Jones. Awgrymodd amryw o ffermwyr y bum yn siarad a hwy mai eiddo Louis Thomas oedd y tir ble yr adeiladwyd y mart ond methais a chael cadarnhad o hyn yn un man.
Ymlaen i'r ail dudalen ...