Ganed hi ym mro Llandyrnog yn Nyffryn Clwyd ac ar 么l byw yn I芒l ger Wrecsam gydag ewythr fe briododd ddwywaith.
Gyda'i hail 诺r aeth i fyw ym melin Llanelian ger Hen Golwyn ond bu ef farw. Priododd unwaith eto ac aeth i fyw ym Metws-yn-Rhos; cynhaliodd ei hun drwy nyddu a gwneud brethyn.
Roedd gallu arbennig ganddi: medrai wella anifeiliad efo meddyginiaeth a wn芒i ei hun - fersiwn oedd hi o'r dyn hysbys, yn gwella cleifion ac yn dod o hyd i eiddo coll.
Taliwyd iddi mewn cynnyrch, megis bwyd neu gwl芒n.
Defnyddiai 'swynion' hefyd i wella anifeiliad a'r werin o'i chwmpas - doi llawer o bell iawn i ymofyn gwelliant. Adroddai hi swyn mewn ffurf adnod, un ohonynt yn dechrau gyda'r geiriau 'Yn henw yr tad yr mab as yspryd gl芒n...'
Byddai'n apelio am amddiffyniad rhag drwg, salwch a thrychineb - a hefyd am waredigaeth rhag cymdogion drwg, a oedd yn tebygu i 'fleiddiaid rheibus'.
Petai Gwen wedi aros yn ei phlwyf ei hun buasai wedi cael byw.
Ond gwnaeth beth peryglus iawn - ymyrrodd ym musnes un o deuluoedd mwyaf grymus y wlad.
Darganfuwyd swyn ysgrifenedig - wedi ei hysgrifennu y tu 么l ymlaen, ac felly yn beryg iawn - yng Ngloddaith, plasty yn yr hen sir Gaernarfon (safle Coleg Dewi Sant ger Llandudno heddiw). T欧 crand oedd hwn, cartref Thomas Mostyn, ustus heddwch a dyn pwysig dros ben.
Roedd cysylltiad rhwng Gwen a Jane Conway, dynes o'r Marl. Roedd Jane wedi bod mewn anghydfod 芒 Mistar Mostyn, gan iddi honni nad oedd wedi talu dyled iddi.
Cyfaddefodd Gwen ferch Ellis iddi dreulio'r nos unwaith yng Ngloddaith pan oedd Thomas Mostyn oddi cartref.
A diwedd y g芒n oedd iddi gael ei thaflu i'r carchar yn Y Fflint yn 1594, pan oedd hi tua 42 mlwydd oed; yna holwyd hi gan esgob Llanelwy.
Yn hwyrach yn 1594 cynhaliwyd arholiad yn eglwys Diserth yn Llansanffraid, Glan Conwy, gyda saith o dystion - pum g诺r a dwy wraig - yn barod i'w herlyn.
Honai Elin ferch Richard o Lanelidan bod ei mab wedi'i drawo gan Gwen ar 么l ffrae a'i fod wedi mynd yn wallgof.
Ymddangosodd Gwen o flaen y Sesiwn Fawr yn sir Ddinbych yn yr Hydref wedi'i chyhuddo o lofruddio un dyn drwy ddewiniaeth; rheibio dyn arall trwy dorri ei fraich, a rheibio gwraig trwy achosi i'w haelodau fynd yn ddiffrwyth.
Ni ddangoswyd unrhyw drugaredd tuag ati a bu farw ar y grocbren.
Er y gwelid achosion yn gynt na hyn yn ymwneud 芒 dewiniaeth neu swyngyfaredd, hwn oedd yr achos cyntaf o'i fath yn deillio o honiadau o ddewiniaeth ddu neu maleficium.
Bu llawer wedyn - er enghraifft, yn 1623 cafwyd Rhydderch ap Evan a'i ddwy chwaer, Lowri ac Agnes, o Lanbedrog, yn euog o ddefnyddio dewiniaeth i ladd Margaret Hughes o Lanbedrog ac i gloffi ei chwaer Mary, a'i gwneud yn fud.
Roedd dewiniaeth yn bwnc llosg yn y cyfnod hwn - fel y dangosir yn y ffaith bod Jane Conway o'r Marl yn fam i ddau arbenigwr yn y maes, Robert a Henry Holland. Graddiodd y ddau yng Nghaergrawnt a buont yn offeiriaid eglwys yn Lloegr; cyhoeddodd y ddau ohonynt bamffledi ynghylch dewiniaeth.
Ceir fersiwn llawn o'r stori hon yn Y Ddewines o Gymraes Gyntaf i'w Dienyddio: Achos Gwen Ferch Ellis, 1594, gan Richard Suggett, erthygl yn Cof Cenedl XIX, golygydd Geraint H Jenkins, Gomer.