91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goleudy Goleudy Pwynt Lynas
Mae David John Williams, neu David Point fel mae'n cael ei adnabod yn lleol, wedi gwneud ymchwil manwl i hanes goleudy Point Lynas, Llaneilian ar arfordir gogledd M么n, lle cafodd ei fagu.
"Saif Point Lynas, Trwyn y Balog yn y Gymraeg, ar orynys ar arfordir gogledd ddwyreiniol Ynys M么n, ar odre gogleddol Mynydd Eilian gydag Amlwch i'r gorllewin a Bae Moelfre i'r Dwyrain.

"Y rheswm am ei godi oedd bod llongau masnach porthladd Lerpwl yng nghanol yr 17eg ganrif wedi cael awdurdod gan y Senedd yn Llundain i sefydlu cyfundrefn i ddefnyddio peilotiaid i gyfarwyddo'r llongau yn saff i mewn ac allan o borthladd Lerpwl a oedd yn tyfu'n fasnachol yr adeg honno - tua canol yr ail ganrif ar bymtheg.

"Ar ddechrau'r 18fed ganrif, roedd Ymddiriedolaeth Porthladd Lerpwl yn awyddus i drefnu cyfundrefn o gyfarwyddwyr llongau i dywys y llongau yn saff i'r porthladdoedd ar lannau'r Mersi heibio'r peryglon ar arfordir gogledd Cymru.

"Yn y flwyddyn 1762 pasiwyd deddf (George III Cap 86) yn y Senedd yn rhoi'r awdurdod hefyd i godi goleudai a sefydlu cyfundrefn i gyflogi a rheoli peilotiaid i dywys y llongau i'r porthladd, ac i godi tollau i dalu am y gwasanaethau hyn.

Pwynt Lynas (Llun gan Sion Jones)"Sefydlwyd Safle Peilotiaid mewn adeilad gyferbyn 芒 Phorth yr Ysgaw ar dir yn perthyn i Henry Morgan yn 1779. Yn 1781 symydwyd i d欧 ar ran uchaf y penrhyn. Dangoswyd golau o ffenestr oedd yn wynebu'r gogledd i fod yn gymorth i fordwyo yn yr ardal gyfagos.

"Yn 1835 addaswyd yr adeilad ar Eilianus Point yn oleudy gyda llusern 12 troedfedd o ddiamedr. Y goleuni oedd 13 lamp Argand gyda drych i'w cefnau, a hyn i gyd yn cael ei guddio am ddwy eiliad bob deg. Y gyfundrefn gyntaf oedd bwrdd coed yn cuddio'r golau am y ddwy eiliad ac wedyn yn cael ei godi gan beiriant cloc oedd yn gweithio yn yr un modd 芒'r cloc mewn t诺r eglwys trwy fod pwysau trwm yn disgyn i lawr ac yn rhoi ynni i'r peiriant. Yr oedd yr offer hon yn cael ei ddirwyn bob hanner awr i'w gynnal. Yn 1874 estynwyd y llusern i 15 troedfedd o ddiamedr: hon yw'r llusern bresennol.

"Yn 1827, adeiladwyd 11 Gorsaff Teligraff o ben Mynydd T诺r, yn cynnwys Mynydd T诺r, Carreglwyd, ac un ar Fynydd Eilian sef Point Lynus, ac Ynys Seiriol yn Ynys M么n i gyfathrebu dyfodiad llongau i'r porthladd gyda Pier Head, Lerpwl. Hwn oedd yr unig fodd o drosglwyddo negeseuon o'r llongau i'r llongfeddianwyr a oedd wedyn yn medru cyflogi dynion i ddadlwytho a llwytho'r llongau mewn amser mor fyr 芒 phosib. Un o'r safleoedd yma oedd Point Lynus ar gopa Mynydd Eilian. Symudwyd y safle dair gwaith nes ei sefydlu mewn adeilad mwy addas yn 1841 a oedd yn wynebu dros Eilianus Point.

"Ymhen amser, daeth ffordd newydd o gyfathrebu, sef y teligraff trydan. Am nad oedd angen mwyach ar yr hen orsafleoedd, caewyd y rhan fwyaf ac, yn eu mysg, roedd yr un ar Fynydd Eilian - Point Lynus.

"Yn y flwyddyn 1879 adnewyddwyd y goleudy, ac adeiladwyd dau fwthyn ar y safle i'r ceidwaid oedd i redeg y teligraff trydan a'r goleudy o hyn allan. Roedd y ddau gyfundrefn wedi ymuno erbyn hyn.

"Gosodwyd lens Fresnel newydd yn y llusern, sef Lens Prif Safon Dwyoptig Sefydlog. Roedd hon yn 4' 6" (1.37m) o ddiamedr efo 206 gradd o wyladwy ac roedd yr opteg yma mewn siap cwch-gwenyn yn cynnwys, (Isaf, 6 band o prisms), (Canol, lens amgrwm 10" (252 mm) o drwch gyda 6 band o prisms islaw ac uwchben), (Uchaf 16 band o prisms) y goleuni oedd Lamp Argand gyda phump wic yn llosgi fel tanwydd: yn y dechrau olew colsa ddefnyddiwyd ac wedyn paraffin. Yr offer i greu'r arwydd oedd silinder tin yn gorchuddio'r golau am ddwy eiliad o bob deg. Roedd hwn yn gweithio yn yr un modd 芒'r un o'r blaen gyda pheiriant cloc.

"Ar 21 Awst 1899, holodd Yr Ordnance Survey, Y Bwrdd Dociau a Harbwr Mersi yngl欧n ag enw'r goleudy. Ar y pryd roedd amryw o enwau, sef Eilianus Point, Point Lynus, Phoint Leinws a Point Lynas. Roedd rhaid dewis un enw, a hwnnw yn unig fel yr enw swyddogol i'w ddefnyddio ar fapiau a chartiau mordwyo o hynny allan. Yr enw a ddewiswyd oedd Point Lynas ar 1 Medi 1899.

"Yn 1904 daeth modd newydd llachar i oleuo'r llusern, sef y Llosgwr Olew Gwynias (I.O.B.), tebyg i lamp Tilley neu Colman heddiw lle mae'r tanwydd paraffin dan bwysau aer yn cael ei anweddu i nwy i oleuo mantl 3" (75mm). Roedd gan y golau yma, sydd yn llachar dros ben, amrediad o 20 milltir ar y safle yma nes i'r goleudy newid i drydan ym mis Gorffennaf yn y flwyddyn 1951 pan y gosodwyd offer cynhyrchu trydan ar y safle.

"Yn 1919 gosodwyd llusern arwyddo trydan ar ben yr hwylbren 75' (22 m), a oedd yn cael trydan oddi wrth gynhyrchydd Lister bychan. Ar yr hwylbren hwn hefyd roedd y rhaffau i ddangos baneri'r c么d arwydd rhwngwladol a oedd ei angen i gysylltu 芒 llongau tramor.

"Cyn 1939 roedd y goleudy wedi ei liwio'n wyn. Yn ystod yr ail ryfel 1939-1945 cuddliwiwyd yr holl adeilad gyda lliwiau o frown, melyn, gwyrdd a du. Yn y Hydref 1945, ar derfyn y rhyfel, cuddiwyd y paent cuddliw gyda phaent gwyn Snowcem. Dyma oedd lliw adnabyddiaeth swyddogol y goleudy. Cafodd y gwaith ei gyflawni gan Gwmni F.W. Wheatley a'i gwbwlhau ym mis Tachwedd. Wedyn, yn 1949, cafodd ail g么t o baent gan Feistri Richard a William Williams, Amlwch.

David John Wiliams "Yn 1947 adnewyddwyd to'r llusern a'i hailwydro. I gyflawni'r gwaith yma heb ddiffodd gwasanaeth y goleudy, adeiladwyd t诺r dros dro 50 llath (46 m) i'r gogledd-ddwyrain o'r goleudy. Yn y llusern hon roedd golau llachar nwy acetylene hunanysgogol. Roedd hwn mewn bodolaeth tra roedd yr holl waith atgyweirio yn cael ei gyflawni rhwng 23 Ebrill a 14 Gorffennaf.

"Hyd at ddiwedd yr ail ryfel byd, doedd dim arwydd-niwl ar drwyn Point Lynas. Pwysleisiodd y peilotiaid a chapteiniaid llongau bod hyn yn beryglus dros ben gan fod llongau yn llawer mwy, felly'n anoddach i'w harafu a'u llywio mewn argyfwng. Yr ymateb oedd sefydlu arwydd ar benrhyn i'r gogledd i'r goleudy. Codwyd adeilad gan Gwmni Hughes, Wrecsam, a'i gwbwlhau ar y 10fed o Fai. Ar 28 Mehefin gosodwyd Offer Dryll Nwy Moyes yn ei le gan beirianwyr y Meistri William Moyes a'i Feibion, Glasgow.

"Cwblhawyd profion gan y gosodwyr ar ran Y Bwrdd Dociau a Harbwr Mersi gan Mr Bob Morris, prif beiriannydd y Bwrdd. Mae'r Dryll yma yn ddefnyddio nwy acetylene dan bwysedd sydd yn cael ei danio gan wreichionen callestr i roi ergyd bob 90 eiliad. Yn ddiweddarach, ar 么l 1973, fe newidwyd y Dryll i Com-Niwl Trydan hunanysgogol sydd yn canu am 5 eiliad bob 45 eiliad, mae hwn yn gweithio pam nad ydy Ynys Amlwch i'w weld oherwydd niwl tew.

"Yn y flwyddyn 1951, penderfynwyd newid y golau o nwy paraff卯n i fwlb trydan. Adeiladwyd adeilad ar gyfer yr offer-cynhyrchu trydan gan Meistri Harold Evans, Amlwch, a'i gwbwlhau ar 13 Ebrill yn barod i beirianyddion mecanyddol a thrydanol osod yr offer.

"Ar 17 Ebrill dechreuodd Mr Hugh Parry, peiriannydd trydanol Cwmni A.V.Milton, osod y gwifrau i'r llusern ac ystafell wylio'r goleudy a thri th欧'r ceidwaid. Roedd y gwaith yma wedi ei gwbwlhau erbyn y 29 o Fehefin. Erbyn hyn roedd yr offer-cynhyrchu wedi ei osod yn ei le a'r unig beth ar 么l i'w wneud oedd dychwelyd i gysylltu bwrdd-swits y gyfundrefn.

"Ar 8 Mai daeth Mr Brock a'i ddynion a'r ddau beiriant cynhyrchu, tanc tanwydd a'r holl bibellau a falfiau i'r offer, i'r safle. Dechreuodd Mr Owen, peiriannydd, a Mr McCann, Met, y gwaith o osod yr holl offer yn ei le a chwbwlhau'r gwaith ar 19 Mai. Ar yr un diwrnod, 19 o Fai, daeth 55 o fatris 2 gell o Gwmni Chloride yn barod i'w cysylltu 芒'r cynhyrchydd - y cyfan i ddarparu 110 folts D.C.. Erbyn 25 o Orffennaf roedd yr holl waith wedi ei gwbwlhau.

"Cyn gynted ag yr oedd y gyfundrefn trydan wedi ei sefydlu a'i phrofi, diffoddwyd y golau nwy paraffin am y tro olaf ar fore'r 25 o Orffennaf a goleuo'r golau trydan hunanysgogol ar fachlud haul ar yr un diwrnod. Hefyd, rhag argyfwng, gosodwyd golau nwy acetylene hunanysgogol yn y llusern rhag colli'r trydan i'r bwlb yn y llusern. Roedd hwn yn cael ei gadw i un ochr, a'i roi yn y canal os oedd ei angen fel oedd ar noson y 15fed o Fedi 1954 am 20 munud, pan dorrwyd gwifrau'r offer hunanysgogol ac angen ei newid ganol nos.

"Yn y flwyddyn 1957 daeth cyflenwad trydan i'r ardal. Roedd yn rhatach o lawer na chynhyrchu trydan ar y safle, felly newidwyd i'r gyfundrefn hon, sef 240 folts A.C. i'r tai a'r ystafell wylio, ond gadawyd y prif olau yn y llusern a'r offer yn 110 folts D.C. 1,000 watt.

"Yr adeg honno roedd Point Lynas yn safle arwydd pwysig iawn, yn cysylltu gyda'r llongau peilotiaid a'r llongau oedd yn mynd i Chwarel Dinmor, Llanddona. Hefyd roedd yn gwylio ar ran Gwylwyr y Glannau ac yn dangos arwydd cyfeiriad storm. Daeth y gwasanaethau hyn i gyd i ben yn 1973 pan gymerodd Corfforaeth T欧'r Drindod, Llundain drosodd y cyfrifoldeb o redeg y lle. Erbyn hyn mae'r Com-Niwl a'r Goleudy yn gweithio yn ddi-geidwad ac yn hollol hunanysgogol.

"Ar ddechrau 2004 adnewyddwyd y goleudy, gosodwyd golau llachar newydd metal halide yn y llusern a golau newydd argyfwng ar do'r llusern.

"Mae'r safle'r Peilotiaid yn 么1 lle cychwynnodd yn 1779 ger Porth-yr-Ysgaw, gydag adeilad a glanfa gerllaw i'r cychod sydd yn cael eu cadw yn Harbwr Porth Amlwch.

"Mae'r penrhyn, sydd yn cynnwys y goleudy ac 18 acer o dir, wedi ei werthu i bobl breifat a'r goleudy yn cael ei brydlesu yn 么l gan D欧'r Drindod.

"Roedd fy nhad, John Edward Williams, yn brif geidwad ar y safle hwn o 1949 hyd iddo ymddeol yn 1963 pan gymerwyd drosodd gan Walter Edward Schofield a oedd yn dal yn brif geidwad pan gymerodd T欧'r Drindod drosodd yn 1973.

"Manylion y goleudy:
Lleoliad - 53* 25' 11'' Gog, 04* 17' 17'' Gor.
Rhestr y Morlys o Oleudai 4160

Gorsaf Telegraff, Point Lynus, Mynydd Eilian.

"Yn 1827 adeiladwyd 11 gorsaf cyfathrebu negeseuon morwrol ar hyd arfordir gogledd Cymru gan gynnwys y safle uchod gan Ymddiriedolaeth Porthladd Lerpwl. I ddefnyddio'r dull semeffor i gyfathrebu negeseuon o'r llongau oedd yn cysylltu 芒'r orsaf ar Fynydd T诺r, Caergybi, rhwng y gorsafoedd a thrwy'r unarddeg safle i Pier Head, Lerpwl, mewn ychydig o funudau.

"Yr adeilad presennol yw'r ail ar y mynydd. Roedd y cyntaf ar y copa, ond roedd niwl yn ei guddio yn aml iawn, felly pan newidwyd safle Carreglwyd i Gefn Du roedd wedyn yn bosib adeiladu safle yn is i lawr o niwl y mynydd. Adeiladwyd hwn yn 1841 ond erbyn 1854 roedd yr adeilad mewn cyflwr drwg. Codwyd yr adeilad o'r newydd gan Feistri Thomas Evans o Fangor yn 1854 am 拢385.

Goleudu Ynys Lawd "Erbyn 1861 roedd dull newydd o gyfathrebu, sef y teligraff trydan. Newidwyd i hwnnw gan symud y safle ar Fynydd T诺r i lawr i Oleudy Ynys Lawd, a'r un peth gyda'r goleudy ar Ben y Gogarth, yn lle'r saith safle oedd angen, sef Ynys Lawd, Point Lynus, Pen y Gogarth, Voel Nant, Ynys Hilbre, Bidston a Pierhead. Ond erbyn 1879 roedd Gorsaf Point Lynus wedi cau a'r gwasanaeth wedi ymuno 芒'r Goleudy ar Drwyn Eilian. O hyn ymlaen hanes y goleudy ydy'r hanes, ond roedd y teligraff yn dal i fodoli nes trosglwyddwyd y goleudy drosodd i D欧'r Drindod yn 1973.

"Dechreuodd fy nhad, John Edward Williams, ei yrfa yn Lerpwl gyda'r Bwrdd Dociau a Harbwr Mersi fel Telegraffwr ar Ynys Hilbre, a bu yn y swydd yma gydol ei oes ond am wasanaeth gyda'r Llynges yn Derby House, Lerpwl, yn y rhyfel o 1939-46 nes ymddeol fel prif swyddog Gorsaf Teligraff a Goleudy Point Lynas."

  • Darllenwch atgofion David John Williams am ei fagwraeth yng ngoleudy Pwynt Lynas yma.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91热爆 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy