91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ffynnon Fyw wedi ei hadfer Bywyd i hen ffynnon
Mae hen ffynnon 芒 chysylltiadau crefyddol a iachaol ym Mhen Ll欧n wedi cael ei hadfer yn sgil gwaith ymchwil newydd. Bleddyn Jones o Gyngor Gwynedd sy'n dweud hanes Ffynnon Fyw.
"Mae'n si诺r fod llawer o bobl leol yn ymwybodol o'r cyfoeth a'r amrywiaeth o ffynhonnau sydd ym Mhen Ll欧n ac i lawer ohonynt gysylltiadau crefyddol a iachaol.

"Wrth baratoi Cynllun Rheoli cyntaf ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol (AHNE) Ll欧n daeth yn amlwg fod cyflwr llawer o'r ffynhonnau hyn wedi dirywio yn sylweddol a bod ansicrwydd yngl欧n ag enwau a lleoliad rhai ohonynt.

"Penderfynwyd felly i gomisiynu prosiect ymchwil i gael gwybodaeth lawnach am ffynhonnau'r ardal a'u cyflwr.

"Penodwyd yr awdur a'r hanesydd lleol Elfed Gruffydd i wneud y gwaith ar ran y Gwasanaeth Ardal o Harddwch. Roedd gwaith yr Arolwg Ffynhonnau yn cynnwys ymchwilio i hanes a chefndir ffynhonnau'r ardal, asesiad o'u cyflwr presennol ac argymhellion ar gyfer gwneud gwelliannau a dehongli.

Y ffynnon cyn ei hadfer "Daeth yn amlwg o'r arolwg mai un o ffynhonnau pwysicaf yr ardal oedd Ffynnon Fyw, Mynytho (ger Capel Hebron). Rhoddir disgrifiad pur fanwl o'r ffynnon gan Myrddin Fardd yn ei gyfrol Ll锚n Gwerin Sir Gaernarfon (1908) lle dywed ei bod yn ffynnon ragorol ac iddi furiau amgylchynol, grisiau i arwain ati, meinciau ar gyfer y defnyddwyr a dau faddon.

"Cafwyd gwybodaeth bellach am y ffynnon yn y gyfrol Ffynhonnau Cymru gan Ken ac Eirlys Gruffydd, Llyfrau Llafar Gwlad, 1999. Penderfynwyd dechrau ar y gwaith adfer ar y ffynnon hon oherwydd ei phwysigrwydd hanesyddol, ei hadeiladwaith nodweddiadol a'r ffaith ei bod mewn lleoliad hwylus i ymweld 芒 hi. Roedd perchennog y tir hefyd yn gefnogol i'r gwaith.

"Pan wnaed yr arolwg roedd y ffynnon o'r golwg dan dyfiant ac nid oedd yn bosib mynd yn agos ati. Yn fuan ar 么l dechrau clirio'r tyfiant daeth gogoniant y ffynnon i'r golwg ac roedd y gweithwyr lleol Dylan Roberts a Gwilym Squires yn dweud ei fod yn bleser gweithio ar y safle. Fel y mae'r lluniau hyn yn ei ddangos mae'r waliau wedi eu hadfer a'u sefydlogi (er nid i'r uchder gwreiddiol) y ddau fasin wedi eu clirio, y gofer wedi ei drwsio a cherrig oddi mewn i'r ffynnon wedi eu hail osod.

Y ffynnon wedi ei hadfer"Ar sail iechyd a diogelwch penderfynwyd gosod ffens a gi芒t o amgylch y ffynnon ond er mwyn amharu cyn lleied 芒 phosibl a gweddu i'r cefndir gwledig, penderfynwyd gosod ffens amaethyddol a gi芒t bren.

"Y camau nesaf fydd gwadd archwilwyr Cadw draw i roi ystyriaeth i restru'r ffynnon a llunio rhaglen gynnal a chadw er mwyn ceisio sicrhau na fydd y ffynnon yn dirywio i'r fath raddau eto."

Bleddyn Jones, Swyddog AHNE Ll欧n, Cyngor Gwynedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91热爆 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy