Heddiw, mae'r s么n lleiaf am eira yn rhywbeth sy'n aml yn codi ofn a phanig diangen. Ond tybed ai cof am stormydd eira cyn dyddiau'r aradr eira a pheiriannau cryfion sy'n gyfrifol am hyn? Adeg y byddai'r wlad yn troi'n llonydd am ddyddiau, neu hyd yn oed wythnosau, wrth i'r lluwchfeydd garcharu pobl yn eu tai. Yn sicr, mae stori Eurwen, a thri gwestai arall a ymddangosodd ar raglen Ro'n I 'Na gyda Si芒n Pari Huws ar 12 Chwefror, yn ddigon brawychus.
Roedd Eurwen Jones yn ferch yn ei harddegau cynnar pan, yn 1947, daeth y stormydd eira enwog hynny. A hithau yn byw gyda'i theulu ar droed mynydd Hiraethog, roedd eu fferm yn anghysbell ac fe'u caewyd hwy i mewn.
Roedd ei mam yn disgwyl, ym mis Ebrill i fod, ond aeth i boenau, a daeth yn amlwg bod angen triniaeth ysbyty. Rhaid oedd i'w thad gerdded trwy'r eira oedd "fel blawd" am bum milltir i ddefnyddio ff么n yn nh欧'r prifathro lleol.
Y meddyg agosaf oedd Dr Thomas yn Ninbych, ond doedd dim gobaith o gael mam Eurwen i ysbyty gyda'r holl ffyrdd wedi cau a lluwchfeydd dros y lle.
Gwnaeth Dr Thomas ap锚l radio i ofyn am bobl i wirfoddoli i glirio'r ffordd, ac yn anhygoel daeth 80 o ddynion gyda rhawiau i geisio clirio ffordd at y fferm, ond y munud roedd darn wedi ei glirio, doi'r eira i'w orchuddio n么l. Y diwedd oedd iddyn nhw gludo'r fam ar camp bed wedi ei addasu yn stretcher wedi ei gorchuddio 芒 photeli d诺r poeth, cynfasau a charthenni, a'i chario ddwy filltir a hanner i gyfarfod 芒 lori'r cyngor, mewn tywydd trybeilig o wyntoedd ac eira, gan aros mewn ffermdai ar y ffordd i roi mwy o dd诺r poeth yn y poteli.
Wedi'r ffasiwn daith, llwyddodd i gyrraedd ysbyty Dinbych gyda dim ond hanner awr i'w sbario, ac yno ganed merch fach iddi. I ddangos pa mor wael oedd y gaeaf caled hwnnw, allodd hi ddim dychwelyd adre nes i'r eira feirioli digon, a doedd hynny ddim hyd at fis Mai.
"I feddwl bod yna dros 50 mlynedd ers pan mae hynny wedi ddigwydd i mi, mae'r profiad, wel, yn dal yn fyw iawn yn fy nghof i achos mi oedd o'n beth dychrynllyd iawn," meddai Eurwen.
Ac enw'r ferch fach a aned o dan amgylchiadau mor ddramatig? Eira wrth gwrs, beth arall.
Bu Eurwen yn dweud ei stori ynghyd 芒 Brian Walters o Gaerfyrddin, y darlledwr Sulwyn Tomos a Mair Lloyd Davies o Dregaron wrth y cyflwynydd Si芒n Pari Huws ar raglen Ro'n I 'Na ar 13 Chwefror ar 91热爆 Radio Cymru.